Rôl Arweinyddol Disgyblion y Chweched Dosbarth - Estyn

Rôl Arweinyddol Disgyblion y Chweched Dosbarth

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Mae tua 1,155 o ddisgyblion yn yr ysgol, tua 218 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 12% o ddisgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o tua 20%. Mae tua 46% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gweledigaeth yr ysgol yw creu amgylchedd Cymraeg a Chymreig sy’n gynhwysol, diogel, hapus a gofalgar, lle gall disgyblion a staff ffynnu a chyflawni eu llawn potensial. Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Lefel 3, gan gynnwys pynciau Safon A a galwedigaethol yn y Chweched Dosbarth. Mae pob myfyriwr yn astudio’r Tystysgrif Her Sgiliau ym Mlwyddyn 12. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r chweched dosbarth yn chwarae rôl amlwg iawn ym mywyd yr ysgol. Mae gan bob dosbarth Blwyddyn 7 swyddogion chweched sy’n mynychu’r dosbarth o leiaf un cynfod cofrestru pob wythnos. Yn ogystal, mae mentoriaid lles sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ac yn cefnogi’r Tiwtor Personol mewn amrwyiaeth o ddosbarthiadau Cyfnod Allweddol 3, ac yn gweithio un i un gyda disgyblion sydd angen cefnogaeth benodol. 

Mae bron pob aelod o Flwyddyn 12 wedi cyfrannu at gefnogaeth academaidd plant iau drwy’r Sgwadiau Sgiliau ar waith rhwng mis Medi a Chwefror. Creuwyd grwpiau targed o blant Blwyddyn 7 ac 8 a fyddai’n elwa o hwb sgiliau sylfaenol darllen a thrafod yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac o fewn Rhifedd. Hyfforddwyd Blwyddyn 12 gan arbenigwyr o’r adrannau craidd, a gan cwnselydd yr ysgol. Rhedwyd y cynllun yn dorfol am un wers pob wythnos, gydag aelodau o’r chweched yn gweithio un-i-un gyda phlentyn iau dan oruchwyliaeth aelod o staff arbenigol.   

Mae’r Grŵp Tafod er mwyn hybu’r Gymraeg yn cael ei arwain gan ddisgyblion chweched dosbarth ac mae eu cyfraniad at wella agweddau disgyblion tuag at yr Iaith Gymraeg yn amhrisiadwy i’r ysgol. Maent yn gweithio er mwyn ceisio sicrhau bod disgyblion yn gweld yr iaith Gymraeg yn fyw, yn hwylus ac yn iaith i’w defnyddio tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. 

Mae grwpiau Cydraddoldeb yn hyrwyddo cymdeithas gydradd, aml-ddiwylliannol, gynhwysol. Mae’r ysgol fel cymuned yn ymfalchio yn ei gwahaniaethau ac yn eu dathlu. Mae’r grwpiau yn benodol gyda goruchwyliaeth o faterion a hunaniaethau fyddai’n cael eu gwarchod o fewn deddf cydraddoldeb 2010. Mae tri grŵp cydraddoldeb sy’n cwrdd ar wahân ar adegau gwahanol o’r wythnos: 

Balch (Grŵp gwrth–hiliaeth a gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, cred neu grefydd)  

balchMae mewnbwn y grŵp wedi bod yn estynedig ers sawl blwyddyn, gan lunio polisiau ysgol a dylanwadu ar ddysgu ac addysgu a chynrychiolaeth yn y cwricwlwm. Bu’r grŵp hefyd yn llythyru y Senedd ar un o’u hymgyrchoedd mwyaf pellgyrhaeddol erioed gan herio pam nad oes athrawon du neu o leiafrifoedd ethnig eraill yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg? Cafodd hwn ei dderbyn gan y Gweinidog Addysg a’i ymateb oedd cais i ddod i gwrdd â grwpiau Digon a Balch i drafod y mater ymhellach. Mae Balch wedi bod yn gyfrifol hefyd am helpu athrawon i ddeall yr heriau mae pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu yn ddyddiol. Gweithiodd y grŵp ar hyfforddiant i athrawon ar duedd ddiarwybod. Cafwyb adborth hynod o gadarnhaol gan athrawon ac mae’r gwaith wedi ei rannu gyda’r consortiwm rhanbarthol.

Digon (Grŵp gwrth fwlian homoffobaidd, deuffobaidd a thrawsffobaidd)  

digonMae Digon wedi bod yn gweithio yn gyson ers 2011 ar geisio dod i’r afael a ieithwedd HDT. Dros y blynyddoedd mae’r grŵp wedi cael profiadau anhygoel gan gynnwys cyrraedd rhestr fer ‘Person ifanc y flwyddyn’ yng ngwobrau Dewi Sant yn 2014, gwahoddiadau i baneli LHDTC+ yn Eisteddfod yr Urdd ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyfweldiad ar raglen deledu Heno, a chyfweliad gyda Newyddion Saith adeg Cwpan y Byd am farn y grŵp ar sefyllfa pobl LHDTC+ yng Nghatar. Maent wedi gweithio gyda’r Athro EJ Renold i archwilio syniadau ac arbrofi gyda gwersi ACRh. Maent wedi siarad mewn cynhadleddau ac wedi sefydlu cynhadledd Cymru Gyfan eu hunain oedd yn llwyddiannus gydag athrawon a disgyblion yn mynychu ac yn gweithio tuag at greu ysgolion cynhwysol, diogel i bawb. Agorodd y grŵp Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro gydag oedfa arbennig dan eu gofal a gafodd ei ddarlledu ar Radio Cymru.

Newid Ffem (Grŵp ffeministiaeth a materion benywaidd)  

newid ffemMae Newid ffem wedi bod ynghlwm â sawl prosiect yn yr ysgol gyda’r bwriad o uchafu gweladwyedd merched llwyddiannus mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Eleni, mae Newid Ffem wedi bod yn edrych ar y tai bach yn benodol gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc o fewn eu cymuned yn ei chael hi’n anodd i brynnu tamponiau a nwyddau mislif eraill oherwydd y gost a/neu embaras. I wella’r sefyllfa, mae nwyddau o bob math ar gael ac mae rota toiledau lle mae aelod o’r grŵp yn gwarchod y fasged amser egwyl a chinio. Mae hyn yn gwarchod y nwyddau rhag cael eu camddefnyddio ond ymhellach mae’n strategaeth gwrth fwlio hynod effeithiol sydd yn golygu bod gan aelod o’r chweched dosbarth bresenoldeb cyfeillgar ond awdurdodol o fewn y tai bach er mwyn sicrhau nad ydynt yn dod yn lefydd aniogel.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Gwerthusir gwaith y Sgwadiau Sgiliau a’r Mentoriaid Lles yn anffurfiol, a thrwy holiaduron. Mae adborth cadarnhaol am y cynllun, gyda’r dysgwyr ifanc yn nodi bod y tiwtora wedi codi hyder, a’r chweched yn adrodd ar welliannau fel darllen yn fwy rhugl a deall geirfa. Roedd yr adborth rhifedd gan Flwyddyn 7 yn nodi bod tiwtoriaid yn “esbonio mewn ffordd syml” ac yn amyneddgar. Mae’r grwpiau cydraddoldeb oll yn cael effaith gadarnhaol ar gymuned yr ysgol, ac wedi cael effaith tu hwnt i’r ysgol ar lefel genedlaethol. Maent yn cyfrannu at ethos ofalgar yr ysgol gan weithio’n ddi-baid i sicrhau bod yr ysgol yn le diogel i bawb ac i gyfrannu ar lefel genedlaethol i roi llais i bobl ifanc. Mae gwaith y chweched dosbarth yn holl bwysig yn yr ysgol a’u cyfraniad yn amhrisiadwy i sicrhau llais i bob un ac i baratoi disgyblion i fod yn arweinwyr yn y dyfodol.