Mae llyfrgell Ysgol Haberdashers i Fechgyn, Trefynwy, yn cynnwys gofod adnoddau mawr, dynodedig, cyfeillgar, cynhwysol a phoblogaidd, gyda llyfrgellwyr hyfforddedig yn aelodau staff yno. Mae’r llyfrgell yn cyfuno ymchwil a syniadau’r ddarpariaeth ddiweddaraf o ran adnoddau â gwerthoedd hanesyddol yr ysgol, i greu ardal adnoddau academaidd a hafan les groesawgar ac amlswyddogaethol. Mae nodau’r llyfrgell yn cynnwys hyrwyddo, annog ac ysbrydoli darllen, llythrennedd, astudio, ymchwil, ymlacio a lles ar gyfer cymuned yr ysgol, tra’n cefnogi anghenion academaidd a bugeiliol ehangach, gweithgareddau a mentrau cymuned yr ysgol, hefyd.
Mae’r llyfrgell yn cynnig gofod croesawgar a chyfforddus gydag ardaloedd dynodedig ar gyfer astudio, addysgu, ymlacio, lles, ymchwil yn seiliedig ar TG ac ardaloedd trafod ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol. Mae gofod a dodrefn wedi cael eu dylunio’n ystyriol i fod mor hyblyg ag y bo modd, ac yn ddefnyddiadwy ar gyfer digwyddiadau mwy, yn ôl yr angen. Mae polisi ‘agored i bawb’, ynghyd â pherthnasoedd da ag adrannau academaidd yn sicrhau bod adnoddau ffuglen a ffeithiol yn gweddu i’r cwricwlwm, ac yn cael eu hyrwyddo ymhlith cymuned yr ysgol. Mae defnydd o’r llyfrgell ar gyfer gweithgareddau, gwersi a digwyddiadau gan adrannau a chymuned ehangach yr ysgol yn sicrhau bod hyd yn oed ‘y rhai nad ydynt yn ddarllenwyr’ yn dangos diddordeb yn y llyfrgell yn rheolaidd, ac yn elwa ar ei chyflenwad a’i hadnoddau, gan ei galluogi i gefnogi a chyrraedd cymuned yr ysgol gyfan.