Y Broses
Gyda’i gilydd, mapiodd y pennaeth a’r Arweinydd Iechyd a Lles gynnwys y Cod a’r Canllawiau ACRh yn erbyn Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Dosbarthwyd y ddogfen i’r staff addysgu, a weithiodd o fewn eu cyfnodau gwahanol i nodi sut byddai’r gweithgareddau’n cael eu cyflwyno ac i gynnwys gweithgareddau cyfoethogi a allai gyd-fynd â’r ddarpariaeth a’i hymestyn. Gwahoddwyd rhieni i fod yn rhan o’r broses, ynghyd â llywodraethwyr a disgyblion.
Gweithiodd yr arweinydd ACRh ochr yn ochr â’r awdurdod lleol a grwpiau eraill a nodwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod safbwyntiau’r gymuned ehangach, fel arweinwyr crefyddol a chynrychiolwyr y cymunedau LHDTC+ a du, asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn cael eu hystyried.
Y staff
Teimlai’r ysgol fod deall sut roedd y staff yn teimlo am addysgu a chyflwyno’r cwricwlwm ACRh newydd yn hanfodol i’w weithredu’n llwyddiannus. Dosbarthwyd holiadur i’r staff er mwyn cael dealltwriaeth o’u cryfderau, eu gwendidau a’u hanghenion hyfforddi o ran cyflwyno’r cwricwlwm ACRh. Cafwyd nifer o geisiadau am hyfforddiant ac arweiniad gan fod llawer o aelodau staff yn pryderu am addysgu rhai rhannau o’r Cod ACRh. Er mwyn eu cynorthwyo â gweithredu ACRh yn llwyddiannus, rhoddwyd cyfle i staff gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant allanol, ynghyd â hyfforddiant mewnol a ddarparwyd gan yr arweinydd ACRh. Fe wnaeth hyn gynyddu hyder a pharodrwydd staff i addysgu rhai o’r pynciau mwy sensitif yn sylweddol.
Ymglymiad rhieni
Cydnabu’r ysgol bod cydweithredu’n agos â rhieni ar greu a gweithredu’r cwricwlwm yn hanfodol.
Dosbarthwyd holiadur cychwynnol i rieni yn holi eu barn am ACRh a chael amcan o lefel eu dealltwriaeth ohono. Fe’i defnyddiwyd hefyd i nodi unrhyw rieni fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws i rieni helpu cyd-greu’r cwricwlwm. Cafwyd nifer fawr o ymatebion, gyda 93% o’r ymatebwyr yn gofyn am fwy o wybodaeth ac 83% ohonynt am ymuno â’r grŵp ffocws.
Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd effeithiol â rhieni, gyda staff yn gweithio ochr yn ochr â rhieni i drafod elfennau’r Cod ACRh ac i greu syniadau am sut olwg allai fod ar sesiynau priodol yn ddatblygiadol yn yr ystafell ddosbarth gynradd.
Llais y disgybl
Roedd yr ysgol yn rhoi pwys ar farn disgyblion a rhoddwyd cyfleoedd iddynt godi cyfleoedd am wahanol ganghennau ACRh. Sicrhaodd staff fod y cynllunio yn cynnwys cyfraniadau’r disgyblion.
Llywodraethwyr
Sicrhaodd arweinwyr fod corff llywodraethol yr ysgol yn cael gwybod am gynnydd yn rheolaidd ac yn cael eu cynnwys ym mhob un o gamau datblygu’r cwricwlwm. Aeth llywodraethwyr i ddigwyddiadau a chyflwyniadau rhannu gwybodaeth. A hwythau’n ffrindiau beirniadol, gwahoddwyd llywodraethwyr i ofyn cwestiynau a thrafodont gynnwys y Cod, y canllawiau a’r cwricwlwm ACRh yn rheolaidd.