Arfer Effeithiol |

Mesur camau cynnydd bach trwy’r continwwm cyflawniad

Share this page

Nifer y disgyblion
26
Ystod oedran
10-19

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Dan y Coed yn ysgol arbennig annibynnol sydd wedi’i lleoli yn ardal West Cross yn Abertawe. Mae’r ysgol mewn eiddo mawr ar wahân gyda mynediad hawdd at forlin Y Mwmbwls a dinas Abertawe. Mae’r ysgol yn rhannu’r safle â’i darpariaeth breswyl, sy’n darparu llety 52 wythnos a agorwyd ym mis Mai 2019.

Ar hyn o bryd, mae 26 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol. Mae gan yr ysgol bump o athrawon dosbarth, chwech o gynorthwywyr cymorth dysgu arweiniol a 21 o gynorthwywyr cymorth dysgu. Yn ychwanegol, mae gweithwyr gofal o’r lleoliad preswyl yn cynorthwyo plant mewn gwersi a gweithgareddau yn ôl yr angen. Mae tîm clinigol, sy’n cynnwys therapydd lleferydd ac iaith a therapydd galwedigaethol, yn cefnogi’r tîm addysg. 

Nod yr ysgol yw 'darparu amgylchedd ysgol diogel a chadarn sy’n annog unigoliaeth, hyder a hunan-barch'.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Dan y Coed yn dilyn cwricwlwm wedi’i seilio ar fedrau, sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol pob disgybl. O ystyried yr amrywiaeth eang o anghenion a galluoedd disgyblion, roedd angen i’r ysgol sicrhau bod pob cam bach o gynnydd yn cael ei gofnodi ar gyfer pob un o’r disgyblion, beth bynnag fo lefel eu gallu, eu harddull cyfathrebu a’u ffafriaeth o ran dysgu. Roedd angen i’r system asesu gofnodi cynnydd o fewn gwersi, yn ystod adegau cymdeithasol ac wrth ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Roedd angen iddi fod yn berthnasol i’r disgyblion sydd â’r anawsterau cyfathrebu mwyaf, yn ogystal â’r disgyblion hynny sy’n astudio cymwysterau. Roedd angen i’r system grynhoi’r cynnydd a’r effaith trwy gydol taith pob disgybl yn Ysgol Dan y Coed, yn ogystal â darparu data ysgol gyfan a allai ddylanwadu ar ddylunio’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a strategaethau addysgu arloesol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Nod strategaeth asesu’r ysgol yw cofnodi gwybodaeth werthfawr yn gyson am gamau bach mewn cynnydd. Mae’r ‘continwwm cyflawniad’ yn ymwneud ag unrhyw fedr a maes pwnc. O ganlyniad, caiff camau cynnydd bach eu nodi’n gyson ar draws y cwricwlwm ac mewn meysydd medrau sy’n bwysig i ddisgyblion yn unol â’u hanghenion a’u galluoedd ychwanegol. Mae’r continwwm yn cynnwys 10 lefel o gynnydd sy’n amrywio o ddod ar draws rhywbeth, diddordeb, atgyfnerthu i gymhwyso. Mae’r continwwm graddedig yn galluogi athrawon i ddarparu ymyriadau a strategaethau addysgu penodol sy’n galluogi disgyblion i symud i fyny’r continwwm hyd nes y gallant feistroli pob medr yn annibynnol yn llwyddiannus.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae safonau ar draws yr ysgol wedi gwella. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd effeithiol ar draws holl feysydd y cwricwlwm yn gysylltiedig â meysydd angen unigol fel annibyniaeth, medrau cymdeithasol a medrau bywyd. Gall disgyblion drosglwyddo medrau o un lleoliad i un arall a chymhwyso’r rhain i ddatblygu medrau pellach o ran eu hanghenion dysgu ychwanegol. O ganlyniad i olrhain yn agos a chofnodi camau cynnydd bach, mae addysgu ar draws yr ysgol yn effeithiol ac ymyriadau addysgu creadigol yn cefnogi datblygiad yn barhaus. Mae cynnydd cryf disgyblion mewn rhai achosion wedi eu galluogi i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd, gan elwa ar y cwricwlwm llawn ar ôl blynyddoedd allan o addysg brif ffrwd. Mae llawer o ddisgyblion wedi ennill cymwysterau sy’n briodol i’w cyrchfannau yn y dyfodol. Mae llawer o ddisgyblion sydd wedi gadael Dan y Coed wedi symud ymlaen i leoliadau addysg bellach llwyddiannus neu leoliadau addysg amgen. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cofnodi camau cynnydd bach ar draws y cwricwlwm wedi cael effaith aruthrol ar gymhelliant a chynnydd disgyblion a’r cynllunio ar gyfer y camau nesaf yn nhaith pob disgybl. Mae Dan y Coed wedi gallu rhannu’r ffordd hon o asesu gyda’r ysgolion eraill o fewn grŵp Orbis, i’w cynorthwyo i asesu camau cynnydd bach ar gyfer pob disgybl ar draws llawer o wahanol gwricwla a phrofiadau dysgu. Yn ei dro, mae hyn wedi galluogi lleoliadau eraill i ddatblygu a gweithredu ymagweddau effeithiol at asesu, cynllunio ac olrhain cynnydd ar lefel unigol ac ysgol gyfan. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol