Dysgu am bobl, cymunedau, crefyddau a thraddodiadau amrywiol oedd y man cychwyn. Roedd hyn yn golygu gadael yr ystafell ddosbarth a theithio y tu hwnt i'n cymuned i gymunedau eraill i gwrdd â phobl a phlant a wahanol gefndiroedd.
I gychwyn ar y gwaith o ehangu gorwelion ac addysgu ein disgyblion am fywydau eraill, trefnwyd arddangosfa aml-synhwyrol yn neuadd yr ysgol ble'r oedd cyfle i'r plant ddarllen, gwrando, gwylio a dysgu am hanes a phrofiadau Cymry o gefndiroedd amrywiol. Darparwyd cyfleoedd iddynt drafod cwestiynau mawr fel 'I bwy mae Cymru'n perthyn?' ac 'A ydych chi'n fwy o Gymry os ydych chi'n siarad Cymraeg?' ac anfonwyd holiaduron at rieni i'w cynnwys nhw yn y trafodaethau hyn.
Roedd gwahodd ymwelwyr i'n hysgol i siarad am eu profiadau a'u hunaniaeth nhw yn y Gymru sydd ohoni yn hollbwysig er mwyn i'n plant gael clywed am brofiadau a heriau ganddyn nhw yn uniongyrchol. Roedd cael teithio i wahanol gymunedau megis Trebiwt a Bae Caerdydd yn hynod werthfawr. Yma, cawsant flas ar fywyd y tu hwnt i'w milltir sgwâr a gweld a chlywed yr amrywiaeth ieithoedd, gwisgoedd a bwydydd yn ogystal â gwerthfawrogi celfyddyd gwahanol oedd i'w weld ar furiau adeiladau Bae Caerdydd.
Cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd a threulio sawl diwrnod yng nghwmni plant o ysgol gynradd ym Mae Caerdydd. Heb os, dyma oedd uchafbwynt y gwaith wrth i'n plant ni fwynhau a dod i ddeall a gwerthfawrogi'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau yn eu bywydau. Cawsant chwarae, canu a pherfformio dawns unigryw gyda choreograffydd proffesiynol oedd yn dathlu amrywiaeth, hunaniaeth a thraddodiadau pob un plentyn.
Yn dilyn llwyddiant y gwaith hwn, ysbrydolwyd athrawon eraill yr ysgol i gynllunio cyfleoedd tebyg er mwyn addysgu plant eu dosbarthiadau nhw am fywydau cymunedau eraill. O oedran ifanc, mae ein disgyblion yn dysgu am hawliau, am bwysigrwydd cydraddoldeb a bod yn ddinasyddion moesol. Mae cynlluniau athrawon yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau, credoau a chrefyddau eraill ac rydym yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod lle blaenllaw yn ein cwricwlwm i ddysgu am gyfraniadau pobl nodedig o bob cymuned.