Herio dysgu disgyblion, herio deilliannau - Estyn

Herio dysgu disgyblion, herio deilliannau

Arfer effeithiol

Burry Port Community Primary


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Porth Tywyn ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin.  Mae 207 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, gan gynnwys 21 disgybl sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.

Mae gan yr ysgol naw dosbarth, sy’n cynnwys dosbarth meithrin, dau ddosbarth oedran cymysg a saith dosbarth un oedran.  

Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith nac yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Erbyn 2014, cyn cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), roedd datblygu meddylfryd o dwf, mabwysiadu arddull addysgu hyrwyddol a hyrwyddo medrau meddwl yn annibynnol disgyblion yn nodweddion allweddol yn narpariaeth yr ysgol.  Fodd bynnag, ar ôl ei gyhoeddi, dangosodd adolygiad ysgol gyfan o’r cwricwlwm fod anghysondebau yn y graddau y cafodd ymagweddau eu mabwysiadu gan bawb.  Roedd hyn yn cael effaith effaith negyddol ar allu disgyblion i adeiladu’n llwyddiannus ar y medrau hyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.  Un o’r rhesymau am hyn oedd y graddau yr oedd staff yn deall y sylfeini damcaniaethol y tu ôl i’r ymagweddau.  Dros gyfnod, roedd athrawon wedi mabwysiadu ‘fformiwla’ ar gyfer addysgu, heb y ddealltwriaeth angenrheidiol o addysgeg sydd ei hangen i ddatblygu amgylchedd ystafell ddosbarth dynamig.

Yn ogystal â hyn, amlygwyd gwahaniaethau clir mewn ymagweddau addysgu a dysgu o ran arsylwadau gwersi a chraffu ar gynllunio athrawon rhwng athrawon yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Roedd hyn yn rhwystro cyfnod pontio disgyblion o un cyfnod o’u haddysg i’r nesaf.  Un gwahaniaeth allweddol oedd fod yr ymagweddau addysgu yng nghyfnod allweddol 2 yn mynd yn fwy diwyro ac yn cael eu harwain yn llai gan ddisgyblion.  Aeth y pwysau i athrawon fynd i’r afael â chwricwlwm gorlawn yn fwy na’r angen i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu’r medrau oedd eu hangen arnynt i fod yn ddysgwyr gydol oes.

Yn dilyn hunanarfarnu trylwyr, bu arweinwyr yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • y ffordd yr oedd athrawon yn gweld dysgu a’r modd y gallai ‘meddylfryd twf’ effeithio’n gadarnhaol ar eu datblygiad eu hunain, a datblygiad disgyblion
  • yr athro fel ymagwedd hwylusydd; lle mae disgyblion yn caffael offer dysgu, y maent yn eu defnyddio ag annibyniaeth gynyddol
  • y ffordd y mae dysgu wedi’i strwythuro, i sicrhau pontio esmwyth o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2
  • cynnal cwricwlwm eang, sy’n seiliedig ar fedrau, sy’n hyblyg ac yn cael ei arwain gan ddisgyblion
  • dealltwriaeth athrawon o’r theori sy’n ategu’r ymagweddau

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Ym mis Medi 2016, trefnodd arweinwyr hyfforddiant yr egwyddorion meddylfryd twf ar gyfer yr holl athrawon, yn ogystal ag athrawon o ysgolion eraill.  Yn dilyn hyfforddiant, cyfarfu arweinydd canol o bob ysgol i rannu arfer dda mewn datblygu meddylfryd twf mewn gwersi rhesymu rhifiadol mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol 2.

Yn yr ysgol, trwy rannu arfer dda o ran marcio ac adborth, sicrhawyd bod sylwadau ysgrifenedig a llafar yn gwobrwyo ymdrechion disgyblion yn ogystal â’u cyrhaeddiad.  Yn ogystal â hyn, dechreuodd y gwasanaeth gwobrau ysgol gyfan ganolbwyntio ar ymdrechion, a disodlwyd gwobrau ‘Seren yr Wythnos’ gan ‘Wobrau Ymdrechion Gwych’.  Mae’r gwobrau hyn yn cefnogi’r pedwar diben ac maent yn canolbwyntio ar y medrau sydd eu hangen i sicrhau bod disgyblion yn herio’u hunain ac yn goresgyn rhwystrau rhag cyflawni eu nodau.  Trwy roi cyhoeddusrwydd i wobrau, er enghraifft defnyddio cyfryngau cymdeithasol a hysbysu rhieni, mae’r ymagwedd bellach yn rhywbeth a welir ar draws yr ysgol gyfan, a cheir lefelau gwell o gysondeb a dealltwriaeth ymhlith cymuned yr ysgol.

I sicrhau bod staff yn cael eu cynorthwyo wrth arbrofi ag ymagweddau newydd, mae arweinwyr yn annog ymarferwyr i ddatblygu ymagwedd sy’n gweld camgymeriadau fel cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu.  Mae arweinwyr wedi datblygu diwylliant mwy agored a chefnogol o gydweithio wrth i athrawon gael mwy o gyfleoedd i rannu a thrafod eu medrau addysgegol.

Cam 3:  Cyflawni newid

Mewn partneriaeth â dwy ysgol leol, mae’r ysgol wedi ehangu ei chwmpas ar gyfer datblygu medrau dysgu disgyblion neu ‘offer’ ymhellach trwy ymgymryd ag ymagwedd strwythuredig i ateb y cwestiwn ‘Beth sy’n gwneud dysgwr da?’  Mae athrawon yn canolbwyntio ar ddatblygu un offeryn dysgu bob tymor ym mhob ysgol, ac ar draws pob ysgol.  Mae chwech o’r naw offeryn dysgu a ddatblygwyd gan y disgyblion yn cynnwys:

  • cydweithio
  • dyfalbarhau
  • gwrando
  • dychmygu
  • rhesymu
  • holi

Ar y dechrau, mae darllen proffesiynol yn digwydd ym mhob ysgol unigol.  Mae hyn yn sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth ddamcaniaethol o pam mae angen i ddisgyblion ddatblygu’r ‘offeryn’ er mwyn bod yn ddysgwyr llwyddiannus.  Yn dilyn hyn, ceir trafod a dadlau o ansawdd uchel, sy’n annog pob un o’r staff i ymgyfarwyddo â’r cynnwys darllen proffesiynol cyn penderfynu sut byddant yn datblygu’r offeryn hwn gyda’u dosbarth dros y tymor nesaf.  Mae pob athro yn asesu ymddygiadau dysgu presennol eu disgyblion o ran yr offeryn dysgu.  Er enghraifft, mae athrawon yn asesu pa mor ddatblygedig yw medrau dyfalbarhau eu disgyblion, a beth yw eu camau nesaf o ran datblygiad.  Mae pob athro’n creu cynllun gweithredu ar gyfer y tymor, sy’n amlinellu sut byddant yn datblygu’r offeryn dysgu gyda’u dosbarth. 

Ar ddiwedd yr hanner tymor, mae pob athro’n rhannu ei lwyddiannau a’i heriau a chynhelir trafodaeth a dadl broffesiynol o ansawdd uchel.  Cofnodir cyflawniad disgyblion yn erbyn yr offer dysgu ac mae’n darparu tystiolaeth fod y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu.  Mae cyfarfodydd rheolaidd, ar y cyd ymhlith y staff a chynrychiolwyr disgyblion y tair ysgol yn hwyluso rhannu arfer dda ac yn hyrwyddo trafodaeth broffesiynol. 

Mae mesurau i sicrhau dilyniant o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2 yn cynnwys cynllun pontio, sy’n ymgorffori mynd ag elfennau allweddol o addysgeg y cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2.  Er enghraifft, mae disgyblion y cyfnod sylfaen yn gweithio mewn ffordd gynyddol annibynnol ar ‘Heriau’ ym meysydd darpariaeth barhaus a manylach yr ystafell ddosbarth.  Mae codau lliw i heriau i ddynodi lefel yr her a rhoddir cyfle i ddisgyblion ddewis y lefel fwyaf priodol o her iddyn nhw eu hunain.  Yng nghyfnod allweddol 2, mae disgyblion yn gweithio’n annibynnol ac ar y cyd ar heriau tebyg.  Mae’r rhain fel arfer yn dasgau cyfoethog, sy’n seiliedig ar fedrau datrys problemau bywyd go iawn, fel paratoi stondin ar gyfer ffair haf yr ysgol a fydd yn codi’r swm mwyaf o arian neu weithio ochr yn ochr â gwneuthurwr ffilmiau digidol i greu ffilm am y Tuduriaid.  O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae’r cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 2 yn fwy hyblyg ac mae disgyblion yn dysgu medrau sydd wedyn yn cael eu cymhwyso i sefyllfaoedd bywyd go iawn. 

Cam 4:  Arfarnu newid

Mae datblygu’r offer dysgu yn digwydd yn naturiol yn y rhan fwyaf o wersi, a phan nad ydynt yn digwydd, mae gwersi ar wahân yn werth chweil o ganlyniad i’w heffaith ar fedrau dysgu disgyblion.  Yn ychwanegol, mae cyflymdra hylaw’r prosiect yn golygu bod digon o amser i ddatblygu offeryn dysgu newydd, hyd yn oed gyda’r holl gyfyngiadau eraill yn ystod y diwrnod ysgol.

Trwy sicrhau cysondeb yn nisgwyliadau uchel athrawon, mae bron pob un o’r disgyblion yn gadarnhaol ynglŷn â herio eu hunain yn eu dysgu, ac mewn llawer o ddosbarthiadau, mae disgyblion yn dangos lefelau uchel o annibyniaeth ac yn cydweithio â’i gilydd yn dda iawn.  Mae llawer o ddisgyblion yn siarad yn hyderus am y medrau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddysgwyr da.

Mae’r prosiect wedi sicrhau cysondeb gwell mewn ymagweddau addysgu o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2.  Caiff bron pob un o’r athrawon gyfleoedd gwerth chweil i elwa ar ddulliau ymchwil weithredu, canlyniadau ymchwil gyhoeddedig a darllen proffesiynol, fel eu bod yn seilio’u haddysgeg ar y modelau mwyaf llwyddiannus.