Gwreiddio cysylltiadau cymunedol/ardal leol o fewn cwricwlwm newydd yr ysgol - Estyn

Gwreiddio cysylltiadau cymunedol/ardal leol o fewn cwricwlwm newydd yr ysgol

Arfer effeithiol

Y.G.G. Pontardawe


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe wedi ei lleoli yn nhref Pontardawe yng Nghwm Tawe a gynhelir gan awdurdod Castell Nedd Port Talbot. Mae dalgylch yr ysgol yn un eang. Mae 340 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 65 o blant oed meithrin. 

Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 17.7% sydd yn debyg i gyfartaleddau cenedlaethol mewn ysgolion cynradd.  Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith, daw tua 42% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg.
 
Mae 11% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. 
Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a phedwar arweinwyr canol. 
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir am y Cwricwlwm i Gymru a bu’n un o ysgolion arloesi Llywodraeth Cymru i ail lunio’r cwricwlwm. Prif nod yr ysgol oedd sicrhau fod yr ardal leol yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol. Lluniwyd cwricwlwm unigryw ‘Trysorau Tawe’ sydd wedi ei sylfaenu ar hanes, daearyddiaeth a threftadaeth yr ardal ynghyd â meithrin cysylltiadau lleol i waith a bywyd pob disgybl. Trwy hynny, mae’r ysgol wedi cynllunio’r cwricwlwm yn fwriadus i gynnig profiadau dysgu gwerthfawr a chydlynus igyda’r nod o ddatblygu dysgwyr sy’n annibynnol, uchelgeisiol ac egwyddorol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gweledigaeth Cwricwlwm – Sut dylai cwricwlwm yr ysgol edrych i ddisgyblion yr ysgol? 

Mae athrawon wedi creu cwricwlwm sy’n ystyried yr ardal leol yn llawn ac yn un sydd wedi ei wreiddio yn niwylliant a chynefin y cwm yn gelfydd. Un elfen o hyn yw’r ffordd maent wedi llwyddo i ddefnyddio’r ardal leol fel sylfaen i’r dysgu ar ddechrau pob thema. Mae gweledigaeth cwricwlwm newydd yr ysgol yn canolbwyntio ar wella medrau’r disgyblion wrth ymfalchïo yng nghynefin, treftadaeth a diwylliant cymunedol y disgyblion. Mae athrawon yn manylu ar yr elfennau lleol er mwyn llywio llais y disgybl ynghyd â’r gweithgareddau dysgu. Yn dilyn gwaith ymchwil gan staff a’r rhieni am yr ardal leol, mae dosbarthiadau wedi cael eu henwi yn ôl enwau copaon a mynyddoedd lleol. Cynhaliwyd prosiect clwstwr ‘Cynefin’ a darganfuwyd ffeithiau a gwybodaeth hanesyddol newydd am yr hardal leol. Mae hyn yn atgyfnerthu hunan barch a balchder y disgyblion tuag at eu cynefin. 

Gweithgareddau
Ffurfiwyd casgliad o themâu ar draws yr ysgol oedd yn dechrau gydag elfen leol – boed yn unigolion enwog, tirnod arbennig neu ganolfan ddysgu yn y dref. Enghraifft o hyn yw cylch cerrig Carn Llechart oedd yn fan dechrau i ysbrydoli thema Celtiaid I’r disgyblion oedd yn cynnwys taith gerdded a gweithgareddau o gwmpas y safle hanesyddol. Mae hyn yn sicrhau fod gan y disgyblion berchnogaeth gref o’u cwricwlwm. Mae ‘Cwm Cerddorol’, ‘Cariad@Gwm’, ‘Croesi’r Bont’ a ‘Trydanu Tawe’ fel enghreifftiau pellach o themâu sy’n plethu elfennau byw yn yr ardal leol i weithgareddau a phrofiadau’r disgyblion. Mae profiadau hyn yn cynnwys prosiectau celf uchelgeisiol sydd wedi ei sylfaenu ar dafodiaith leol a cherddi gwreiddiol gan y disgyblion. Mae ymweliadau gyda’r dref yn cynnwys gweithdai yn y ganolfan gelfyddydau leol, parc coed Glanyrafon, prosiect trydan ‘Mynydd y Gwrhyd’ a’r ganolfan Gymraeg leol ‘Tŷ’r Gwrhyd’. Mae cysondeb yr ymweliadau wythnosol hyn yn cryfhau ymwybyddiaeth y disgyblion o’u gwreiddiau lleol.   

Dysgu Proffesiynol
Cynhaliwyd ymchwil ar y meysydd dysgu a phrofiad gan arweinwyr yr ysgol er mwyn gosod gweledigaeth ‘Trysorau Tawe’ ar waith. Yn sgil hyn, cafwyd diwrnodau o hyfforddi ble cyflwynwyd gweledigaeth ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad i’r staff cyfan, er enghraifft wrth osod priodenwau unigryw lleol i bob dosbarth. Canfuwyd rhai ohonynt trwy edrych ar hen fapiau digidol, er enghraifft Ynys-gelynen, Nant y Gaseg a Mynydd Marchywel.

Mae’r ysgol hefyd yn rhan o brosiect clwstwr ‘Cynefin’ sy’n coladu themâu ac adnoddau ar-lein ar draws y clwstwr i gyfoethogi arlwy cwricwlwm ysgolion lleol. Mae swyddog y Gymraeg yn y sir hefyd wedi creu rhaglenni llafar cyfoethog (Drilio Disglair, Sgleinio ein Sgwrsio a Blociau Bendigedig) sy’n hybu medrau llythrennedd trwy gwricwlwm Trysorau Tawe.
  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymroddiad y staff yn y maes hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu proffesiynol gan ei fod yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth yr holl feysydd dysgu a phrofiad, cydweithio â chydweithwyr o wahanol feysydd wrth rannu arfer dda a chyflwyno syniadau gyda chydweithwyr drwy hyfforddiant mewn swydd a chyfarfodydd eraill.  

Mae gan ddysgwyr barch tuag at eu cynefin, eu hardal leol a’u treftadaeth. Erbyn hyn, mae disgyblion yn adnabod enwau a lleoedd priod o fewn eu cynefin yn hyderus.  
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn cyd weithio’n agos gyda’r clwstwr er mwyn rhannu arfer dda. Mae’r pennaeth ac aelodau o’r uwch dim rheoli wedi sefydlu rhwydwaith dysgu proffesiynol sy’n cyfrannu at wreiddio cwricwlwm yr ysgol yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau, ymweliadau a chynadleddau.