Arfer Effeithiol |

Effaith dulliau arweinyddol ar ddyluniad cwricwlwm meistrolgar ac arloesol yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr

Share this page

Nifer y disgyblion
293
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol Gynradd Gymraeg yng nghanol dinas Abertawe yw Ysgol Bryn y Môr. Mae’r ysgol wedi ei sefydlu ers 1976. Mae yna 293 o ddisgyblion ar y gofrestr - oed 3 i 11. 5.5% o ddisgyblion sydd yn derbyn prydiau bwyd am ddim a 3.4% o ddisgyblion sydd ar y gofrestr addysg dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

O ganlyniad i’r argyfwng Covid a’r newid mewn arweinyddiaeth, ychydig o ymgysylltu a pharatoi ar gyfer symud tuag at gwricwlwm i Gymru oedd wedi digwydd yn yr ysgol. Erbyn hyn, mae’r Pennaeth, trwy ei hymroddiad a’i hymgysylltiad, ei dulliau arweinyddiaeth hyfedr a chydweithredol, wedi gosod cyfeiriad bwriadol a sgaffaldio strategol i holl rhanddeiliaid yr ysgol. Mae wedi cefnogi yr athrawon i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o holl elfennau’r cwricwlwm, i oresgyn heriau ac wedi gyrru newidiadau arloesol yn nyluniad y cwricwlwm mewn byr amser.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Datblygu arweinyddiaeth ar draws yr ysgol fel rhan o’r broses ddylunio cwricwlwm. 

Wrth gychwyn y broses o symud i gwricwlwm newydd roedd angen sicrhau bod ethos ac ymagweddau staff ysgol gyfan yn barod i dderbyn newid. Roedd y rhan hon o’r broses yn un bwysig tu hwnt. Rhoddwyd hyfforddiant i bod aelod o staff i ddeall a datblygu ymagweddau cadarnhaol tuag at newid. Defnyddiwyd gwahanol fodelau o reoli newid, fel cromlin newid Kulber Ross. 

Rhoddwyd ffocws cryf ar ddatblygu medrau a gwybodaeth yr Uwch Dîm Arwain. Ddatblygwyd eu dealltwriaeth o beth a olygir wrth ‘arwain’ yn ogystal â gwybodaeth am Cwricwlwm i Gymru. Defnyddiwyd adnoddau/hyfforddiant o wahanol ffynonellau a chael siaradwyr gwadd i gyflwyno nodweddion a chyfrifoldebau arweinydd effeithiol. 

Fel rhan o reoli perfformiad ac wrth osod blaenoriaethau strategol yr ysgol, ail strwythurwyd cyfrifoldebau uwch arweinwyr ac arweinwyr canol i ffocysu ar ofynion blaenoriaethau cenedlaethol a chwricwlwm. Ffurfiwyd timoedd arweinwyr canol o fewn yr ysgol yn cynnwys tîm lles, addysg dysgu ychwanegol a chwricwlwm. 

Buddsoddwyd amser i sicrhau bod staff ar bob lefel yn deall gofynion Cwricwlwm i Gymru trwy waith darllen proffesiynol, ymchwilio a chydweithio gydag arbenigwyr. Ni ruthrwyd at, a cheisio rhoi strwythurau cwricwlwm yn eu lle yn rhy fuan ond yn hytrach fe ganolbwyntiwyd ar ddatblygu dealltwriaeth y staff o’r broses dylunio cwricwlwm a phwysigrwydd gofyn cwestiynau megis ‘Beth? Pam? Pa ddysgu’ a ‘Sut’ fel rhan annatod o’r broses. 

Erbyn hyn, mae staff yr ysgol, wrth ddechrau cynllunio uned ddysgu newydd, yn gosod rhesymeg glir i’r ‘pwrpas a’r pam’. Wrth werthuso unedau dysgu, mae staff yn aml yn hyderus yn siarad am beth weithiodd neu beth fyddent yn gallu gwella ac yn barod i ddysgu o gamgymeriadau, ail ymweld ag ail ddrafftio cynlluniau a hyd yn oed, yn barod i ddechrau o’r newydd. Ymddiriedwyd yn y staff a rhoi amser iddynt arbrofi yn dilyn gwaith ymchwilio. 

Defnyddiwyd gwybodaeth o’r gwaith ymchwilio hwn i osod datganiadau a thrywyddau dysgu ar gyfer ein hunedau dysgu. Mae’r staff wedi sefydlu ethos o ysgol sy'n dysgu’n gyson dros amser. 

Ffurfiwyd rhwydweithiau ar draws y clwstwr i arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad i annog arweinwyr canol i gymryd cyfrifoldeb, i uwch sgilio a datblygu perchnogaeth dros gynnwys y cwricwlwm. Er enghraifft, bu arweinwyr yn adnabod hanfod y dysgu o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yna creu continwwm i’r dysgu hyn o 3 i 16 yn seiliedig ar yr egwyddorion cynnydd. 

Trefniadau cyfredol i ddyluniad cwricwlwm yr ysgol 

Trwy waith arweinwyr yr ysgol mae dyluniad y cwricwlwm yn cynnwys: 

  • unedau dysgu (sef cynlluniau tymor canolig) yn adlewyrchu’n gyfan gwbl gofynion Cwricwlwm i Gymru mewn fformat hollol newydd ac unigryw i’r ysgol. Maent yn cynnwys rhesymeg i’r uned ddysgu sy’n adlewyrchu disgwyliadau'r pedwar diben yn glir, trosolwg o ddysgu craidd, dysgu sy’n datblygu’r medrau cyfannol a chynnydd mewn dysgu ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad. 
  • dyluniad cynllun hir dymor sy’n sicrhau bod y cysyniad o sgema yn rhan ohono. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau cynnydd trwy gysylltu unedau dysgu â'u gilydd a chyfleoedd i ddisgyblion adeiladau ar ddysgu a phrofiadau blaenorol. Mae’r cynllunio hir dymor hefyd yn sicrhau cydbwysedd rhwng y meysydd dysgu a phrofiad. 
  • symbolau gweledol ar gyfer y medrau cyfannol i ddisgyblion adnabod a deall y medrau a’u perthynas â’r pedwar diben. 
  • llais y disgybl yn rhan o bob uned ddysgu fel bod disgyblion hefyd yn teimlo perchnogaeth dros eu dysgu. 
  • proses o ddewis dulliau asesu a fydd yn ‘dal y dysgu’ cyn mynd ati i gynllunio profiadau a gweithgareddau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae’r cwricwlwm wedi ennyn chwilfrydedd, balchder a mwynhad y disgyblion ac maent yn ymgysylltu’n llawn â’u dysgu. 
  • Mae disgyblion hefyd yn lleisio eu barn am beth hoffent ddysgu a sut hoffent gyflwyno eu gwaith. Ymfalchïant yn eu mewnbwn i’r unedau dysgu ac maent yn siarad gyda dealltwriaeth gref am yr hyn maent wedi cyflawni a’r cynnydd maent wedi gwneud. 
  • O ganlyniad, mae safonau y rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn dda iawn yn y rhan fwyaf o feysydd y cwricwlwm.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol