Arfer Effeithiol |

Dysgu yn yr awyr agored: darparu ystod eang o weithgareddau dysgu.

Share this page

Nifer y disgyblion
433
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr

Agorwyd Ysgol Santes Tudful yn 1972 gyda 18 o blant. Bellach mae hi’n ysgol gyda dros bedwar cant o blant ar safle gymharol newydd yn Twynyrhodyn, Merthyr Tydful, gydag egin ysgol wedi ei sefydlu ar safle y Gurnos. Mae’r ysgol yn gweithio tuag at yr un amcan, sef i greu amgylchedd hapus, cefnogol a ffyniannus i bob disgybl. Mae disgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrech, ond mae’r un disgwyliad o dosturi, ystyriaeth, caredigrwydd, gonestrwydd a pharch yn greiddiol i'r ddarpariaeth hefyd. Mae pob disgybl yn cael mynediad at brofiadau cyfoethog mewn ffyrdd hwyliog ac ysbrydoledig gyda chyfleoedd yn cael eu trefnu ar gyfer arloesi, creadigrwydd a meddwl yn feirniadol. Rydym am i'r disgyblion ymgeisio ar gyfleoedd, bod yn uchelgeisiol a galluog, ac i fod yn barod i ddysgu a chyfrannu fel dinasyddion yr 21ain ganrif. Bellach mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan annatod o addysg pob disgybl, lle cant y cyfle i feithrin medrau dysgu annibynnol, dycnwch, a phrofi eu medrau datrys problemau yn gyson, sydd yn ei dro yn cael effaith cadarnhaol iawn ar eu lles.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Er mewn ardal difreintiedig, mae’r ysgol yn ffodus ei bod wedi ei lleoli mewn ardal allanol lewyrchus sydd yn hafan i fywyd gwyllt a bywyd naturiol. Mae'r tirwedd yn cynnig opsiynau dysgu a chyfleodd ar gyfer darparu profiadau unigryw i ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu’r tir dros y blynyddoedd ond yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae wedi esblygu i sicrhau cyfleoedd cyson ar gyfer y disgyblion. Erbyn hyn, mae diwrnod o addysg llawn yn cael ei ddarparu yn yr awyr agored ar gyfer pob disgybl fesul pythefnos. O ganlyniad, mae 60 o ddisgyblion yn dysgu yn yr awyr agored bob diwrnod, bob wythnos. Yn dilyn ymgyrch enfawr y ‘Welly Walk’ er mwyn codi arian ar gyfer darparu hyn, buddsoddwyd mewn siwtiau ac esgidiau gwrth-ddŵr i bob dysgwr a phrynwyd adnoddau allweddol ar gyfer adeiladu cuddfanau ac offer cynnau tân a choginio. Menter cymunedol sydd wedi darparu ac adeiladu y ddwy ystafell allanol, sied adnoddau a’r ardal natur er mwyn datblygu’r profiadau a’r addysg yn yr awyr agored i ddisgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Chwilfrydedd byrlymus, cyffro ac antur annibynnol sydd yn gyrru’r profiadau. Mae ein defnydd dychmygus o’n cynefin yn sicrhau fod profiadau dilys a llais y disgybl yn arwain y dysgu, ac mae datblygiad medrau disgyblion wedi’i gysylltu â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Mae’r dysgu yn yr ardal allanol yn cyfoethogi ac yn atgyfnerthu’r medrau sydd yn digwydd ar lawr y dosbarth. Yn yr ardal allanol, mae medrau cyfeiriannu, gwaith cwmpawd, datrys problemau, gwaith celf a chrefft gwyllt, plannu a thyfu, coginio ar y tân, cynnal arbrofion gwyddonol ac astudiaethau tywydd a thirwedd y disgyblion yn cael eu datblygu. Mae’r dysgu yn canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol, gyda disgyblion yn arwain y dysgu trwy, er enghraifft: 

  • ailgylchu a chreu ‘Tŷ Potel Plastig’ fel ymateb i gynhesu byd eang. 
  • cydweithio gyda phrosiect Gwenyn Castell Cyfarthfa i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a chreu mêl yr ysgol. 
  • plannu coed ffrwythau sydd wedi arwain at goginio phastai afalau. 
  • ymarfer eu medrau gwaith pren yn gyson i adeiladu gwestai trychfilod, bocsys bwydo adar, ceginau mwd ac adeiladu llyfrgell bach sydd yn darparu llyfrau am ddim i’r gymuned ysgol. 
  • coginio ar dȃn agored a chydweithio gyda’r Brigâd Dân ac Achub i ddysgu am bwysigrwydd diogelwch wrth weithio yn yr awyr agored. 
  • arwain prosiectau entrepreneuriaeth gan ddefnyddio cynefin ac adnoddau naturiol i greu adnoddau a’u gwerthu i gymuned yr ysgol. 
  • cydweithio gyda chomisiwn coedwigaeth i ddeall problemau tipio anghyfreithlon.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Darperir cyfleoedd cyson i ddisgyblion ddysgu, archwilio, creu a chymdeithasu yn yr awyr agored. Mae hyn yn sicr wedi cael effaith amhrisiadwy ar eu lles a’u dysgu. Mae’r disgyblion yn teimlo’n gyffrous i dreulio diwrnod cyfan yn yr awyr agored dan arweiniad ardderchog ein arbenigwyr. 

O’r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 6, mae disgyblion yn derbyn cyfleoedd cyson i ddatrys problemau, cymryd risg a dyfalbarhau yn yr awyr agored, sy’n eu cefnogi i fod yn ddysgwyr annibynnol. Mae’r profiadau gwerthfawr hyn hefyd yn datblygu meddylfryd twf y disgyblion wrth iddynt wynebu sialensau newydd a datblygu eu gallu i gydweithio ag eraill i ddatrys problemau. 

Trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol o’r cynefin yn ystod y sesiynau, mae disgyblion yn datblygu gwerthfawrogiad gadarn o’r byd o’n cwmpas a’r amgylchedd leol. Mae’r cyfleoedd dysgu hyn yn cael effaith gadarnhaol ar hyder y disgyblion gan fod y sesiynau yn cynnig profiadau newydd iddynt.

Ein hethos yn Ysgol Santes Tudful yw i gynnig profiadau cyfoethog i bob disgybl a’u bod yn gwerthfawrogi bod dysgu yn digwydd yn gyson yn y dosbarth ac yn yr awyr agored.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol