Dysgu teuluol - Estyn

Dysgu teuluol

Arfer effeithiol

North East Wales ACL Partnership


Gwybodaeth am yr ysgol / y darparwr

Sefydlwyd Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Ebrill 2021, sef partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r bartneriaeth yn cyflogi pum darparwr arweiniol i gyflenwi’r rhan fwyaf o’i darpariaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mewn sesiynau dysgu teuluol, mae rhieni a’u plant yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu gyda’i gilydd. Cynhelir sesiynau mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol. Maent yn cynnig amgylcheddau cefnogol i rieni helpu eu plant i ddysgu, ac wrth wneud hynny, ailymgysylltu ag addysg, magu hyder, a datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a’u medrau eraill.

Yn y bartneriaeth hon, mae arweinwyr wedi gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol a phenaethiaid o ysgolion lleol i nodi beth fyddai’n gweithio orau yn eu hardaloedd nhw. Cafodd y cynnig dysgu teuluol ei rannu a’i hyrwyddo gan yr ysgol a grwpiau cymunedol, ac mae hyn wedi helpu rhieni i ymgysylltu â’r rhaglenni. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Nododd y bartneriaeth ddwy brif flaenoriaeth ar gyfer ei darpariaeth dysgu teuluol – gwella medrau darllen ac addysg yn yr awyr agored. Cafodd rhaglen chwe wythnos ‘Creu yn y Coed’ ei dyfeisio a’i chynnig i ysgolion cynradd. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda rhieni a phlant mewn ysgolion lleol, gan wneud defnydd o’r mannau da iawn yn yr awyr agored sydd gan lawer o ysgolion. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar fedrau cyfathrebu pawb sy’n gysylltiedig ac yn rhannu ffyrdd cyffrous o hyrwyddo, cefnogi a gwella darllen yn yr awyr agored. Mae’r bartneriaeth yn gwerthuso’i rhaglen trwy gydol y flwyddyn i wneud yn siŵr ei bod yn ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau lleol yn y ffordd orau. Hyd at fis Awst 2022, mae 187 o deuluoedd wedi cwblhau rhaglen ‘Creu yn y Coed’. 

Mae’r bartneriaeth wedi sefydlu ystod o raglenni sy’n cynnig gwahanol gyd-destunau ar gyfer dysgu teuluol, a nod pob un ohonynt yw ennyn diddordeb rhieni a phlant mewn dysgu gyda’i gilydd, gan gynnwys:

  • ‘Datod y Gwlân’, sy’n canolbwyntio ar y sector gwlân yng Ngogledd Cymru, lle mae cyfranogwyr yn dysgu medrau ffeltio gwlân a chrefft, gan ymgorffori llythrennedd a rhifedd, a meysydd y cwricwlwm gwyddoniaeth
  • Hanes teuluol, lle mae cyfranogwyr yn ymchwilio i hanes eu teulu, yn gwella eu llythrennedd digidol ac yn dysgu sut i weithio’n ddiogel ar-lein 
  • Gwydr môr ac ymwybyddiaeth ofalgar sy’n canolbwyntio ar wella gwybodaeth cyfranogwyr am forlin Gogledd Cymru, medrau crefft a defnydd o dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar.
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ymagwedd gydweithredol y bartneriaeth at gynllunio dysgu teuluol wedi arwain at rannu a hyrwyddo’r cynnig yn dda. Cafwyd ymgysylltiad da ar bob un o’r cyrsiau, ac mae teuluoedd wedi bod yn gadarnhaol am yr effaith y mae’r cyrsiau wedi’i chael ar eu bywydau. Dywedodd un rhiant, ‘Mae wedi bod yn hyfryd dod yn ôl i ysgol fy mab ar ôl y cyfnod clo, yn dysgu medrau newydd ac yn treulio amser gwerthfawr gyda fy mab’.

Gyda chefnogaeth y bartneriaeth, mae llawer o ddysgwyr sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni dysgu teuluol hyn wedi nodi eu camau nesaf mewn dysgu, ac mae’r bartneriaeth wedi rhoi darpariaeth ar waith i helpu’r dysgwyr hyn i barhau i wneud cynnydd.  
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn