Dysgu Proffesiynol a Rhannu Arfer Dda mewn Dysgu yn y Gwaith

Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Crëwyd Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai ar ôl uno Coleg Llandrillo a Choleg Menai yn 2012. Ers yr arolygiad blaenorol gan Estyn ym mis Tachwedd 2013, cafodd Hyfforddiant Gogledd Cymru ei gaffael gan Grŵp Llandrillo Menai yn 2019. Daeth Grŵp Llandrillo Menai yn ddarparwr arweiniol Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cyflwyno rhaglenni prentisiaethau ar ddechrau’r contract newydd yn 2021. Mae’n gweithio gyda rhwydwaith bach o bartneriaid cyflenwi ac is-gontractwyr.

Mae aelodau presennol o Gonsortiwm Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, Hyfforddiant Arfon Dwyfor, Hyfforddiant Gogledd Cymru, Achieve More Training, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Tempdent a Sgil Cymru.

Mae contract presennol Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflwyno rhaglenni prentisiaethau dysgu yn y gwaith yn werth £13.15m yn 2022 i 2023. Mae’r consortiwm yn cyflwyno rhaglenni ledled gogledd Cymru yn bennaf, gydag ychydig bach o ddarpariaeth yng Ngheredigion.

Mae Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai yn cyflwyno prentisiaethau ar draws y sectorau canlynol:

  • Amaethyddiaeth a’r Amgylchedd
  • Busnes a Rheoli
  • Arlwyo a Lletygarwch
  • Gwasanaethau Gofal Plant  
  • Gwasanaethau Adeiladu  
  • Diwylliant, y Cyfryngau a Dylunio
  • Technoleg Ddigidol
  • Ynni
  • Peirianneg
  • Gwasanaethau Addysg a Gwybodaeth
  • Bwyd a Diod
  • Gwallt a Harddwch
  • Gofal Iechyd  
  • Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol
  • Gwasanaethau Bywyd
  • Gwasanaethau Eiddo
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Manwerthu
  • Teithio, Twristiaeth a Hamdden  

Adeg yr arolygiad, roedd gan y consortiwm tua 2,800 o ddysgwyr yn y gwaith yn ymgymryd â hyfforddiant ar raglenni prentisiaethau wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Consortiwm Grŵp Llandrillo Menai yn eang iawn o ran ei ddarpariaeth a’i wasgariad daearyddol. Un o fanteision allweddol y consortiwm yw arbenigedd cyfoethog ac eang ei staff, ac mae rhannu arfer dda a mynd i’r afael â meysydd cyffredin i’w datblygu wedi bod yn thema allweddol ar gyfer gweithgareddau dysgu proffesiynol ers dechrau’r bartneriaeth. 

Er mwyn hwyluso rhannu arbenigedd a datblygu medrau ymhellach, dechreuodd y Consortiwm gyflwyno diwrnodau datblygiad staff ar draws y consortiwm ym mis Mai 2012. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r holl staff cyflwyno ar draws y Consortiwm gyfarfod ac ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r consortiwm yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i benderfynu ar flaenoriaethau a themâu dysgu proffesiynol ar gyfer diwrnodau hyfforddi. Mae’r rhain wedi’u seilio ar adborth gan staff, dysgwyr a chyflogwyr.

Mae testunau a gwmpaswyd yn y dysgu proffesiynol diweddaraf yn cynnwys:

  • Medrau gwaith: sut i arloesi a medrau gwaith digidol  
  • Technolegau cynorthwyol: Cyflwyniad i ddarllen ac ysgrifennu
  • Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth
  • Gwydnwch ac ymwybyddiaeth a chymorth iechyd meddwl
  • Dwyieithrwydd a Sgiliaith, gan gynnwys ymgorffori dwyieithrwydd mewn adolygiadau dysgu yn y gwaith
  • Defnyddio adnoddau Sgilliaith i ddatblygu medrau Cymraeg aseswyr a dysgwyr
  • Lles
  • Cymorth â dyslecsia: ffyrdd ymarferol o gynorthwyo dysgwyr â dyslecsia yn effeithiol
  • Rhoi adborth effeithiol i ddysgwyr gan ddefnyddio arfer dda i helpu aseswyr i ddarparu adborth mewn adolygiadau sy’n defnyddio targedau clyfar ac yn ymgorffori themâu trawsbynciol.

Wrth i’r consortiwm esblygu, mae ei ymagwedd at ddysgu proffesiynol wedi esblygu hefyd. Mae adborth staff a dysgwyr yn sbardun allweddol wrth bennu blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant, a thrafodir y rhain o fewn cyfarfodydd rheolwyr y consortiwm.

Mae’r consortiwm yn cydweithio i rannu cyflwyno ac adnoddau ar ystod o weithgareddau dysgu proffesiynol. Mae hyn yn galluogi’r consortiwm i fanteisio ar arbenigedd ar draws y bartneriaeth. Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys hyfforddiant ar draws y consortiwm ar ddiwygio ADY, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, holi a gwahaniaethu effeithiol ac ymgorffori themâu trawsbynciol yn effeithiol. Mae’r berthynas weithio agos hon ar draws y consortiwm hefyd wedi galluogi partneriaid i gynorthwyo’i gilydd mewn datblygiadau cenedlaethol fel Digidol Anedig.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae adborth gan staff o gynadleddau a diwrnodau dysgu proffesiynol yn dangos bod staff wedi gwerthfawrogi’r cyfle i rwydweithio â chydweithwyr ar draws y consortiwm, i rannu arfer dda a meithrin perthnasoedd proffesiynol. Amlygodd llawer o fynychwyr fod y sesiynau a ganolbwyntiodd ar wydnwch, meddylfryd twf ac ymgysylltu â chyflogwyr yn hynod berthnasol a gwerthfawr. Roedd awydd clir am fwy mewn hyfforddiant wyneb yn wyneb, gyda sawl un yn nodi cymaint y gwnaethant fwynhau hyn.

Caiff yr adborth cadarnhaol gan staff ar eu dysgu proffesiynol ei gefnogi mewn arolygon dysgwyr a chyflogwyr, hefyd. Yn 2022/2023, gellir gweld effaith datblygiad staff ar themâu trawsbynciol, er enghraifft, yn y 98% o ddysgwyr sy’n cytuno bod darparwyr yn llwyddiannus wrth gynorthwyo dysgwyr i ddeall a pharchu pobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau. Mae’r datblygiad mewn medrau i gefnogi gwydnwch ac iechyd meddwl dysgwyr hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr, gyda 95% yn cytuno bod y cymorth ar gyfer materion personol wedi’u helpu i aros mewn hyfforddiant. Yn ychwanegol, roedd deilliannau cyffredinol y consortiwm ar gyfer 2021/2022 uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol terfynol, gyda chryfderau penodol wedi’u nodi mewn prentisiaethau sylfaen a phrentisiaethau uwch.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir adborth o ddigwyddiadau ar draws y consortiwm sy’n helpu llywio datblygiadau yn y dyfodol, ac mae’r Grŵp wedi sefydlu partneriaeth gymdeithasol leol ar gyfer dysgu proffesiynol yn ddiweddar i rannu syniadau a chyfeirio cyfleoedd dysgu yn y dyfodol.

Rhannwyd adborth o’r arolygiad yn y Rhwydwaith Rheolwyr Ansawdd Dysgu yn y Gwaith.