Defnyddio amser byrbryd i ddatblygu medrau a dealltwriaeth plant
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Rachael’s Playhouse yn Aberdâr yn wasanaeth gofal dydd llawn sy’n cynnig gofal ac addysg i blant rhwng 18 mis a 5 mlwydd oed. Mae’r lleoliad yn ddwyieithog. Mae’n lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg ac yn ddarparwr addysg nas cynhelir. Mae’r lleoliad yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig llif rhydd parhaus sy’n galluogi plant i gael mynediad bob amser at yr amgylchedd dysgu y maen nhw’n ei ffafrio. Mae Rachael’s Playhouse yn rhoi lle plant a staff yn ganolog i’w arferion.
Dechreuodd Hannah a Rachael, sef yr unigolion cyfrifol, eu menter gofal plant yn warchodwyr plant yn gweithio o dŷ Rachael. Wedyn, aeth y ddwy ohonynt ymlaen i gwblhau gradd mewn Gofal Plant ac Addysg Gynnar. Maent wedi pwysleisio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gawsant o’r cymhwyster a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu harfer. Ar ôl iddynt gwblhau’r radd, cododd cyfle i ehangu’r busnes. Agorodd Hannah a Rachael eu meithrinfa gyntaf yn Aberdâr ym mis Mehefin 2018. Roedd yr arweinwyr yn rhannu angerdd i blant dderbyn gofal ac addysg o’r safon orau, i sicrhau bod sylfeini cryf yn cael eu gosod, sy’n ysbrydoli dysgu a datblygiad parhaus yn y dyfodol. Cyn hir, sefydlwyd gweledigaeth glir ar y cyd, un sy’n hyblyg ac yn parhau i ddatblygu er mwyn ymateb i ymchwil ac addysg ddiweddar.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r lleoliad wedi creu dull sy’n cynnwys elfennau o wahanol addysgegau, damcaniaethwyr a safbwyntiau rhyngwladol. Mae’r dull yn sicrhau bod plant yn elwa ar adnoddau a phrofiadau bywyd go iawn, chwarae mentrus a darnau rhydd. Caiff annibyniaeth ei hyrwyddo’n gryf ac mae gan staff ddisgwyliadau uchel ond realistig o’r plant. Mae Rachael’s Playhouse yn gwerthfawrogi pob cyfle fel cyfle i ddysgu. Caiff y plant eu hannog i gynnal eu ‘hasesiadau risg’ eu hunain a meddwl yn feirniadol pan fydd problemau’n codi. Caiff unrhyw adnoddau a allai achosi risg uwch i’r plant eu cyflwyno’n raddol. Mae staff yn rhoi pwys mawr ar feithrin perthynas gref â’r plant a chael dealltwriaeth fanwl o lefel y cymorth sydd ei hangen ar gyfer pob plentyn. Er enghraifft, mae’r lleoliad yn defnyddio llestri Tsieina a gwydr go iawn yn ystod amser byrbryd, ac os yw’n disgyn ar lawr ac yn torri, mae’n rhoi cyfle i staff siarad â’r plant am beth ddigwyddodd a pham. Mae cwestiynau fel “ydy unrhyw un yn gwybod pam dorrodd y plât hwn?”, “ydych chi’n gwybod o ba ddeunydd mae’r plât wedi’i wneud?”, “ydy unrhyw un yn gallu dangos sut i gario’r plât yn ddiogel ac yn gywir?”, yn hyrwyddo meddwl yn feirniadol a datrys problemau ac yn helpu datblygu hunan-barch plentyn wrth iddo ddod yn ddysgwr hyderus a medrus.
Er y bu’r lleoliad yn hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd i blant ddatblygu eu medrau a’u gwybodaeth trwy gydol y dydd, roedd yn glir fod y cyfleoedd hyn yn cael eu colli yn ystod amser byrbryd ac amser cinio. Roedd y lleoliad eisiau amser byrbryd a oedd yn brofiad cymdeithasol, lle mae’r plant yn dysgu medrau newydd ac yn myfyrio ar eu diwrnod. Fodd bynnag, roedd amser byrbryd ac amser cinio yn adegau prysur iawn ac yn gallu bod yn eithaf di-drefn. Wrth nodi bod angen newid, arsylwodd y tîm yn Aberdâr amser byrbryd am ychydig ddyddiau i geisio sefydlu beth oedd yn digwydd a pham roedd amser byrbryd yn fwy prysur a mwy swnllyd na rhannau eraill o’r diwrnod. Ar sail arsylwadau a thrafodaethau, roedd y staff yn gallu myfyrio ar yr arfer bresennol. Roedd yn glir nad oedd pob un o’r plant yn barod yn ddatblygiadol i eistedd i lawr am ychydig o funudau i gael byrbryd, a oedd yn achosi iddynt redeg o gwmpas, a’r rhan fwyaf o blant yn dilyn a chopïo. Arweiniodd hyn i gyd at amser byrbryd gwyllt, pan nad oedd ymarferwyr yn gallu defnyddio strategaethau cyfathrebu effeithiol gan eu bod yn rhy brysur yn ceisio annog pob un o’r plant i eistedd i lawr.
Mae’r plant bellach wedi’u rhannu’n grwpiau gwahanol, a chynigir darpariaeth byrbrydau parhaus i’r ddau grŵp. Nid oes mwy na chwech o blant yn eistedd wrth y bwrdd ar unrhyw adeg benodol. Mae hyn yn galluogi staff i sicrhau bod amser byrbryd yn brofiad cymdeithasol hamddenol, lle rhoddir cyfleoedd i blant elwa ar eu gwybodaeth a’u medrau presennol ac ymestyn y rhain bob tro.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Cyn i amser byrbryd ddechrau neu cyn dosbarthu unrhyw fwyd neu ddiodydd, mae staff yn gofyn i’r plant am alergeddau. Mae ffotograffau’r plant ag alergeddau, anoddefiadau neu hoffterau bwyd yn cael eu harddangos ger yr ardal byrbrydau gyda gwybodaeth mewn coch am fwydydd y mae’n rhaid iddynt eu hosgoi ac mewn gwyrdd ar gyfer dewisiadau amgen y gellir eu cynnig. Mae’r staff yn gofyn i’r plant a oes gan unrhyw un wrth y bwrdd unrhyw alergeddau; maent yn gofyn i’r plentyn ag alergeddau beth allai ddigwydd pe bai unrhyw groes-halogi a pha ddewisiadau amgen y gallent eu cael yn lle. Wedyn, mae’r staff yn gofyn i bob un o’r plant pa weithdrefnau y mae’n rhaid i ni eu dilyn i gadw eu ffrindiau sydd ag alergeddau yn ddiogel. Yn ystod amser byrbryd, caiff plant gyfle i blicio, torri, taenu a thywallt yn annibynnol. Rhoddir plicwyr go iawn a chyllyll miniog iddynt allu gwneud hyn. Cyn dosbarthu’r offer, gofynnir i’r plant am beryglon a pha weithdrefnau y mae angen iddynt eu dilyn i’w cadw eu hunain yn ddiogel. O ganlyniad i sefydlu perthnasoedd cryf, mae staff yn gymwys o ran gwybod pa lefel cymorth sydd ei hangen ar bob plentyn yn ystod amser byrbryd. Mae angen cymorth un i un ar rai ohonynt, ac mae rhai plant yn gwbl annibynnol. Cynigir canmoliaeth adeiladol trwy gydol yr amser, er enghraifft “diolch am d’amynedd yn aros i sedd fod ar gael”, “rwyt ti’n dangos medrau dyfalbarhad da iawn fan’ na” ac “rwyt ti wedi torri’r afal yn annibynnol, da iawn!”.
Caiff chwilfrydedd ei hyrwyddo’n gryf yn ystod amser byrbryd, bob bore a phrynhawn, a chynigir bwyd anarferol i’r plant ofyn cwestiynau amdano a rhagfynegi beth maen nhw’n meddwl allai fod y tu mewn i’r ffrwyth neu’r llysieuyn pan gaiff ei dorri ar agor. Enghraifft o hyn yw pomgranad. Mae plant yn trafod lliw’r ffrwyth ar y tu allan, ac yn meddwl am b’un a yw lliw’r ffrwyth yn wahanol ar y tu mewn. Maent yn rhagfynegi beth allai fod y tu mewn i’r ffrwyth ac yn dyfalu ble mae’r ffrwyth yn tyfu, gan roi rhesymau am eu hatebion. Gellir ymestyn y dysgu wedyn, hefyd. Er enghraifft, y diwrnod canlynol, os ydynt yn dod o hyd i hadau y tu mewn i ffrwyth, efallai y byddant yn siarad am blannu’r hadau a rhagfynegi beth fydd yn digwydd os byddant yn plannu’r hadau. Gallai hyn arwain at ofyn i’r plant beth sydd ei angen ar hadau neu blanhigion i dyfu’n iach. Yn ystod amser byrbryd, caiff plant a staff gyfle i fyfyrio ar eu diwrnod. Efallai y byddant yn siarad am yr hyn a fwynhaont y bore hwnnw ac amlygu unrhyw beth na wnaethant ei fwynhau, efallai. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon i lywio cynllunio ar gyfer y prynhawn neu’r diwrnod canlynol.
Tuag at ddiwedd y byrbryd, mae’r aelod o staff yn amlygu unrhyw sbwriel sydd yno ac yn gofyn i’r plant am y sbwriel neu’r gwastraff bwyd. Mae pob byrbryd yn wahanol, a bydd yr aelod o staff sy’n arwain byrbryd yn dilyn arweiniad y plant. Er enghraifft, ar un achlysur, gofynnodd yr aelod o staff i’r plant pam mae’n bwysig ailgylchu plastig. Atebodd y plant trwy ddweud bod plastig yn llygru’r blaned ac yn mynd i mewn i’n cefnforoedd. I orffen y profiad byrbryd, mae plant yn crafu eu gwastraff i mewn i’r bin gwastraff bwyd yn annibynnol ac yn gosod eu platiau a’u cwpanau budr ar y troli. Wedyn, maent yn mynd i’r ystafell ymolchi i olchi’u dwylo a’u hwynebau fel eu bod yn lân ar gyfer y prynhawn. Yn ystod byrbryd, mae aelodau o staff yn eistedd i fwyta’r un bwyd a ddarperir gyda’r plant.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae amser byrbryd wedi bod yn ffactor dylanwadol o ran y ffaith fod y rhan fwyaf o blant yn y lleoliad yn egwyddorol a gwybodus o oedran ifanc. Mae’r plant yn hyderus yn eu hatebion pan fyddant yn siarad am helpu planhigion i dyfu, ac ailgylchu. Defnyddir geirfa helaeth bob amser gan y plant gan mai dyma’r iaith y cânt eu hamlygu iddi yn gyson. Mae medrau iaith wedi gwella ymhlith y rhan fwyaf o blant. Nodwyd hyn mewn asesiadau, ac mae rhai plant yn defnyddio geirfa fwy helaeth. Mae’r plant yn dangos dealltwriaeth fanwl o ystyr yr eirfa. Er enghraifft, maent yn siarad am groes-halogi a beth mae hyn yn ei olygu. Maent yn trafod y ffaith nad yw plastig yn fioddiraddadwy a beth mae hyn yn ei olygu, ac maent yn deall y gweithdrefnau y dylid eu dilyn i’w cadw nhw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Mae amser byrbryd yn brofiad mwy dymunol erbyn hyn, lle mae plant yn awyddus i eistedd i lawr a chymryd rhan. Mae lles plant a staff wedi gwella yn ystod amser byrbryd ac amser cinio. Mae’n creu ymdeimlad o berthyn oherwydd gall plant drafod materion sy’n effeithio arnyn nhw yn agored, a siarad am aelodau o’u teulu a beth maent yn ei wneud gartref. Mae wedi dod yn adeg sefydlu perthnasoedd ymhellach rhwng plant a staff. Mae oedolion yn dirnad bod plant yn ddysgwyr medrus, sy’n modelu medrau cyfathrebu da, gan gynnwys ymgysylltu â meddwl cynaledig ar y cyd a defnydd effeithiol o gwestiynau penagored i gefnogi meddwl. Mae staff yn gwneud defnydd effeithiol o gwestiynau penagored, sy’n sicrhau cydbwysedd â sylwadau, i gefnogi meddwl ac yn defnyddio modelu i gefnogi ac ymestyn cysyniadau a datblygiadau geirfa. Mae medrau annibyniaeth plant wedi gwella, sy’n amlwg trwy arsylwadau ac asesiadau.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Rhannwyd yr arfer gan rai lleoliadau sydd wedi ymweld â Rachael’s Playhouse.