Erbyn hyn, mae dilyniant a chysondeb yn yr addysgu yn ysgolion ar draws y ffederasiwn. Mae’r ddarpariaeth yn fwy cyfoethog gyda chyd-weithio a chyd-gynllunio pwrpasol rhwng athrawon yn datblygu i fod yn effeithiol.
Er mwyn cysoni’r arfer ar draws y ffederasiwn, rydym yn cynnal cyfarfodydd cynllunio ar y cyd ac yn gwneud teithiau dysgu ar draws y ffederasiwn i weld arfer dda a rhannu syniadau. Yn ystod sesiynau craffu llyfrau, rydym yn craffu llyfrau llawr ‘Gwener Gwyllt’ a ‘Llun Llanast’ er mwyn craffu ar ddatblygiad medrau disgyblion mewn profiadau cyfoethog ar draws y cwricwlwm.
Mae’r disgyblion yn mwynhau’r sesiynau allanol ac yn awyddus i gwblhau’r heriau a thasgau. Maent yn defnyddio eu gwybodaeth blaenorol i gwblhau heriau ac yna’n cofnodi eu darganfyddiadau yn hyderus yn unigol ac o fewn grŵp. Mae yna amryw o fedrau sydd yn cael eu datblygu ac ehangu drwy’r dull hwn o addysgu.
Gwelir cynnydd ym medrau’r disgyblion wrth iddynt ddatblygu eu medrau a’u gwybodaeth blaenorol i gwblhau’r heriau ar draws y cwricwlwm yn yr ardal allanol. Maent yn cymhwyso eu medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm yn bwrpasol gan ddefnyddio yr hyn maent wedi ddysgu yn flaenorol i gwblhau’r heriau. Maent yn defnyddio adnoddau digidol yn bwrpasol i gofnodi gwybodaeth ac i wneud gwaith ymchwil pellach. Mae eu medrau creadigol yn cael eu hymgorffori’n fuddiol ar draws y cwricwlwm hefyd, er enghraifft wrth i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau naturiol i efelychu gwaith arlunydd. Mae’r modd hwn o addysgu yn bendant wedi cyflwyno a datblygu medrau disgyblion i gymhwyso eu medrau yn gynyddol hyderus ar draws y cwricwlwm.
Mae’r disgyblion yn mwynhau’r sesiynau ardal allanol ac yn frwdfrydig i gwblhau heriau. Mae yna fwrlwm yn ystod y sesiynau hyn sydd yn dangos chwilfrydedd y disgyblion tuag at eu dysgu. Yn y dysgu sylfaen, gwelir arfer dda o’r defnydd o’r ardal allanol drwy gydol y dydd gyda gweithgareddau pwrpasol yn tanio’r dychymyg ac yn datblygu medrau sylfaenol y disgyblion yn llwyddiannus. Mae’r disgyblon yn eiddgar i fynd allan i’r ardal allanol yn ddyddiol.