Cynllunio ac Addysgu
Er mwyn datblygu medrau llafar Cymraeg ein disgyblion yn gelfydd, mae cynllun drilio iaith clir wedi ei ymgorffori ac ar waith ar draws yr ysgol. Ar y cyd, mae cymuned yr ysgol wedi cytuno ar yr elfennau di-amod o ran cystrawennau a geirfa y dylid eu cyflwyno a'u drilio ym mhob dosbarth yn ddyddiol er mwyn sicrhau dilyniant a datblygiad clir wrth i'n disgyblion symud drwy'r ysgol. Caiff y rhain eu harddangos yn y dosbarthiadau, yn y coridorau ac mewn mannau cyhoeddus er mwyn atgyfnerthu'r hyn a ddysgir yn y dosbarthiadau. Mae'r athrawon yn fodelau iaith arbennig ac yn achub ar bob cyfle i gywiro gwallau ieithyddol y disgyblion mewn modd sensitif a hwyliog.
Yn greiddiol i'n cwricwlwm, mae dysgu am hanes Cymru, ei phobl, ei chwedlau a'i thraddodiadau yn greiddiol. Mae hyn yn datblygu ymwybyddiaeth gadarn ein plant o ddiwylliant eu gwlad ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'u hunaniaeth.
Profiadau
Rydym yn cynnig arlwy gyfoethog o brofiadau allgyrsiol i'n disgyblion ac rydym yn llwyr grediniol bod y profiadau hyn yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad eu medrau llafar ac yn dylanwadu'n gadarnhaol ar gymhelliant y di i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol a hyderus.
Caiff y disgyblion gyfleoedd niferus i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau a lleoliadau amrywiol yn yr ysgol a thu hwnt. Yn flynyddol, cânt deithio i wahanol ardaloedd o Gymru a chwrdd â phobl a phlant mewn gwyliau a digwyddiadau ledled y wlad. Yn ganolbwynt i galendr blynyddol yr ysgol y mae'r Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Gŵyl Lenyddol y Gelli a chyfleoedd i berfformio a chystadlu mewn digwyddiadau cerddorol, chwaraeon a llenyddol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.
Mae dathlu ein Cymreictod wrth i ni deithio y tu hwnt i Gymru hefyd yn destun balchder mawr i ni a'n disgyblion. Wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 deithio i Amsterdam, er enghraifft, mae clywed ein disgyblion yn siarad Cymraeg mor naturiol wrth gymdeithasu a mwynhau, yn rhoi pleser pur i staff yr ysgol a’r trigolion lleol. Maent bob tro yn awyddus i ddysgu ychydig o Gymraeg i unrhyw un na fedrant siarad yr iaith a'r balchder yn glir wrth gyflawni hynny.
Rydym yn achub ar bob cyfle i gydweithio â phartneriaethau megis Menter Iaith Rhondda Cynon Taf er mwyn hybu dysgwyr newydd a magu hyder aelodau'r gymuned leol sydd am siarad Cymraeg. Gyda chynifer o gyfleoedd i'r disgyblion ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i furiau'r ysgol, mae medrau llafar ein disgyblion yn datblygu'n naturiol wrth iddyn nhw fagu hyder drwy siarad mewn gwahanol sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, yn gymdeithasol ac yn gyhoeddus.
Trwy gynnig cyfleoedd amrywiol ac eang fel hyn, rydym yn datblygu disgyblion sydd yn gyfathrebwyr hyderus sydd â medrau llafar Cymraeg cryf erbyn diwedd eu hamser yn yr ysgol.