Datblygu arbenigedd ychwanegol yn yr ysgol i gefnogi lles disgyblion
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/2021-03/Primary%205_0.jpg)
Gwybodaeth am yr ysgol
Sefydlwyd Ysgol Pen Rhos yn ddiweddar yn dilyn uno dwy ysgol yn Llanelli, o fewn awdurdod lleol Sir Gâr. Mae 447 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 23 o blant rhan-amser sy’n mynychu’r dosbarth meithrin. Mae’r ysgol yn trefnu disgyblion yn bedwar dosbarth cyfrwng Cymraeg, ac 13 dosbarth cyfrwng Saesneg.
Ar gyfartaledd dros y tair blynedd ddiwethaf, mae tua 34% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 37% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Mae hyn gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%. Prin yw’r disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref. Daw ychydig o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.
Proffil Cymunedol
Mae ward Tyisha 2 yn y 3% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac wedi’i rhestru yn y 10% uchaf ar draws pob parth allweddol. Mae’n ardal Dechrau’n Deg a Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r ysgol yn nodi bod problemau heriol o ran diogelwch cymunedol, fel problemau’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Nodwyd bod rhai ardaloedd yn rhywle nad yw trigolion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn ofni mynd allan yn y nos, ac yn ystod y dydd. Yn aml, gall pobl ifanc ymgasglu mewn ardaloedd penodol, ac o bryd i’w gilydd, mae hyn yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol fel sŵn nos, twrw a lladrata. Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol yn byw o fewn y gymuned hon, a gallant fod yn agored i’r problemau hyn yn aml.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ysgol wedi mynd ati i hyfforddi pob un o’r staff mewn arfer sy’n ystyriol o drawma ac ymlyniad, gan ddefnyddio ei grant gwella addysg ysgolion. Mae arweinwyr yr ysgol wedi nodi athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu allweddol sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant ar lefel uchel i ddiwallu anghenion lles nodedig y disgyblion. Mae hyn yn ymateb pwrpasol a ariennir gan yr ysgol i fodloni cymhlethdod y problemau y mae’n eu hwynebu. Mae’r ysgol yn mynegi ei hun fel ‘ysgol sy’n ystyriol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod’, ac mae’r pennaeth yn rhagweithiol o ran rhannu ymagwedd yr ysgol ledled Cymru, ac yn rhyngwladol. Mae ystod o arolygon a mesurau lles ar draws yr ysgol yn nodi’r dysgwyr hynny y mae angen cymorth arnynt. O ganlyniad, darperir ymyrraeth deilwredig i gefnogi lles disgyblion gan ddefnyddio staff hyfforddedig yr ysgol ei hun. Mae rhai enghreifftiau o’r adnoddau y gall yr ysgol eu darparu yn cynnwys ymarferwr sy’n ystyriol o drawma ac iechyd meddwl, cwnselydd hyfforddedig yn yr ysgol, cwnselydd profedigaeth, ymarferwr meddylgarwch, a therapydd ‘darlunio a siarad’. Hefyd, mae gan yr ysgol wyth ymarferwr grŵp anogaeth sydd wedi’u hyfforddi’n llawn, a Ruby, y ci, fel rhan o’r fenter ci darllen. O ganlyniad, yn amlach na pheidio, gall yr ysgol ymateb i’w hanghenion ei hun gan ddefnyddio’i staff ei hun.
Hefyd, mae’r ysgol yn darparu cwrs achrededig ar wydnwch ar gyfer rhieni a diwrnodau agored lles i’r gymuned. Yn ddiweddar, agorwyd yr ysgol ar fore dydd Sul bob wythnos, i ddarparu cymorth a chyfleoedd dysgu i ddisgyblion a’u teuluoedd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Datblygwyd y strategaeth o amgylch diwylliant lle caiff staff sydd â’r medrau a’r cymhelliant eu cynorthwyo a’u hariannu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol i ymateb i anghenion lles disgyblion. Y weledigaeth yw i’r ysgol greu ei thimau hynod arbenigol ei hun i gynorthwyo disgyblion a datblygu sefydliad dysgu sy’n deilwredig ac yn unigryw. Fe wnaeth yr aelodau staff hyn hyfforddi i gynorthwyo teuluoedd oedd yn cael anhawster hefyd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r ddarpariaeth hon yn golygu y gall yr ysgol ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i anghenion lles disgyblion, yn hytrach na gorfod aros am gymorth arbenigol allanol. Anaml y mae’r ysgol yn gweld bod angen iddi wahardd disgyblion, ac mae ychydig o’r disgyblion mwyaf agored i niwed yng nghyfnod allweddol 2 ac yn y cyfnod sylfaen yn cyflawni’n dda yn yr ysgol. Mae arolygon lles ‘cyn ac ar ôl’ yr ysgol yn dangos bod bron pob un o’r disgyblion wedi adrodd am newid cadarnhaol yn eu bywydau.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith â chonsortiwm ERW, Llywodraeth Cymru, ac yn rhyngwladol gydag ysgolion, darparwyr iechyd a grwpiau ymchwil sy’n gweithio gyda’r ysgol i fireinio’r model a’r arfer.