Arfer Effeithiol |

Darparu amgylchedd dysgu difyr ar gyfer y dysgwyr ieuengaf

Share this page

Nifer y disgyblion
53
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae adeilad y lleoliad ar ddau lawr.  Mae’r plant hŷn yn defnyddio’r llawr gwaelod, a defnyddir y llawr uchaf ar gyfer babanod rhwng oedran geni a dwy a hanner mlwydd oed.

Mae’r lleoliad yn darparu addysg gynnar y cyfnod sylfaen ac yn gweithio tuag at y cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae gan y feithrinfa gysylltiadau cryf â’r gymuned, ac mae’n gwneud y mwyaf o gyfleusterau yn yr ardal leol i gyfoethogi profiadau’r plant.  Er enghraifft, cynhelir ymweliadau â chanol y dref a’r parc lleol, lle defnyddir y llwybr beicio.  Gweledigaeth y lleoliad ar gyfer y dyfodol yw darparu mwy o’r profiadau go iawn hyn ar gyfer plant, a pharhau i wella’r ddarpariaeth yn yr ardal awyr agored.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ddechrau taith y feithrinfa i wella, roedd ei llawr uchaf yn ofod agored.  Roedd yr adnoddau yn rhai plastig yn bennaf, a’u lliwiau’n llachar, ac roedd ardal fach wedi’i hamgylchynu â ffens ar gyfer y babanod ieuengaf,  Nid oedd unrhyw ardaloedd diffiniedig, a chan ei fod yn ofod mor agored, roedd plant bach yn tueddu i redeg o gwmpas yn hytrach nag ymdawelu i fwrw ymlaen â gweithgareddau.

Wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, bu ymarferwyr yn cyflwyno gweithgareddau ‘go iawn’ ac ymarferol yn llwyddiannus iawn ar y llawr isaf.  Sylweddolon nhw y byddai’r plant bach ar y llawr uchaf yn elwa ar y dull hwn hefyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Edrychodd ymarferwyr ar yr ystafell o safbwynt y babanod a’r plant bach, a dechreuon nhw wneud newidiadau.  Eu cam cyntaf oedd darparu strwythurau pren symudol i rannu’r ardal, a rhoi llawr laminedig yn lle’r carpedi.  Cyflwynwyd adnoddau i gefnogi chwarae penagored yn ogystal â chreu ardaloedd mwy strwythuredig sy’n darparu cyfleoedd dysgu penodol, er enghraifft ar gyfer creu marciau, defnyddio adnoddau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, chwarae creadigol a chwarae rôl.  Rhoddodd ymarferwyr adnoddau naturiol yn lle’r teganau plastig, a dewiswyd lliwiau niwtral ar gyfer y décor a dodrefn i greu amgylchedd digynnwrf.

Y cam nesaf oedd gwella’r amgylchedd ar gyfer y babanod.  Tynnwyd y ffens fetel i lawr i greu gofod chwarae agored gyda rygiau a chlustogau llawr, adnoddau naturiol ar gyfer chwarae a chwryglau i’r babanod gysgu ynddynt.  Addasodd ymarferwyr yr ystafell gysgu i fod yn ystafell dawel trwy gael gwared ar y drws.  Rhoesant soffa yn yr ardal hon er mwyn i staff fwydo babanod â photel, a lle i’r babanod swatio, gan greu ymdeimlad cartrefol.  Mae llawer o gynhyrchion naturiol yma i symbylu medrau synhwyraidd a rhoi cyfle i’r babanod ddatblygu dealltwriaeth o’r byd go iawn trwy chwarae.

Mae’r lleoliad yn arddangos drychau ac adnoddau ar lefel y llawr, a gall ymarferwyr symud y strwythurau pren i addasu’r amgylchedd ar y llawr uchaf i ddiwallu anghenion newidiol y plant ieuengaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r newidiadau wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r plant.  Mae plant bach yn dewis yr hyn mae arnynt eisiau ei wneud yn fwy hyderus ac yn cymryd mwy o ran mewn gweithgareddau.  Yn aml, byddant yn dal llaw oedolyn i’w tywys i ble maent eisiau chwarae.  Mae’r llif a’r mynediad at wahanol ardaloedd yn galluogi iddynt fod yn fwy annibynnol.  Maent yn datblygu amrywiaeth o fedrau yn effeithiol, gan gynnwys archwilio achos ac effaith, a defnyddio’r adnoddau naturiol a phenagored.

Mae’r babanod yn mwynhau’r gofod agored mawr.  Mae’n galluogi ymarferwyr i ryngweithio â nhw mewn amgylchedd digynnwrf, tawel a chartrefol.  Mae babanod yn ymateb yn dda i’r adnoddau naturiol a’r gweithgareddau difyr y mae ymarferwyr yn eu haddasu yn unol â’u hanghenion unigol. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae ymarferwyr yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaith a sesiynau hyfforddi ar gyfer pobl eraill yn Nhorfaen, ac yn rhannu arfer dda trwy eu hannog i fynd ar daith o gwmpas y lleoliad yn ystod y digwyddiadau hyn.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol