Roedd angen i’r ysgol sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i adnabod gofalwyr ifanc ac annog diwylliant ehangach yn yr ysgol y dylai dysgwyr sydd â rôl ofalu yn y cartref gael eu cydnabod a’u cefnogi. Enwebodd yr ysgol aelod o’r tîm bugeiliol i fod yn bennaf gyfrifol am y maes gwaith hwn ac yn fod yn gyswllt i ofalwyr ifanc. Byddai’r unigolyn hwn yn hyrwyddo eu hangenion ac yn cysylltu â llywodraethwr penodedig i sicrhau bod ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid.
Dechreuodd yr arweinydd gweithredol hwn drwy godi ymwybyddiaeth o rôl gofalwyr ifanc ymhlith yr holl ddisgyblion, fel y byddai unrhyw ofalwyr ‘cudd’ yn gallu dod i’r amlwg. Roedd yn bwysig gwneud hyn yn ofalus er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw stigma yn gysylltiedig â hunanadnabod, ac y gellid sefydlu ethos cadarnhaol yn yr ysgol lle byddai gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.
Ar ôl hynny, gweithiodd yr arweinydd gweithredol â’r uwch dîm rheoli i sicrhau bod yr holl staff addysgu a chynorthwyol, ynghyd â’r llywodraethwyr, yn deall cyfrifoldebau’r ysgol i ofalwyr ifanc ac yn gwybod pwy oeddent ar draws yr ysgol. Nodwyd gofalwyr ifanc ar gofrestrau dosbarth a thrwy Broffiliau Un Dudalen er mwyn i athrawon llanw fod yn ymwybodol o’u statws hefyd a’r angen i ganiatáu amgylchiadau arbennig, fel galwad ffôn i’r cartref, cymorth â gwaith cartref neu er mwyn osgoi unrhyw gwestiynau diangen.
Sefydlodd yr ysgol grŵp cefnogi cymheiriaid i ofalwyr ifanc sy’n cyfarfod bob dydd Gwener ag aelod o elusen gofalwyr ifanc ym Mhowys, sef Credu, a’r llywodraethwr cyswllt enwebedig. Mae hyn yn galluogi disgyblion i rannu eu hanesion a chael amser i fod yn blant yn hytrach na gofalwyr.
Gofynnodd y gofalwyr ifanc eu hunain a fyddai modd iddynt sefydlu grŵp Llais y Disgybl i gynnwys gofalwyr a’r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Erbyn hyn, mae’r grŵp hwn yn cyfarfod i ailysgrifennu fersiynau o bolisïau allweddol sy’n addas i blant, ynghyd â Llysgenhadon Gwych yr ysgol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu hawliau gofalwyr ifanc. Buont yn weithredol hefyd o ran sicrhau cardiau adnabod gofalwyr ifanc i’r rhai sydd eisiau cario un ohonynt.
Mae’r ysgol yn olrhain cynnydd gofalwyr ifanc fel grŵp o ddysgwyr ym mhob agwedd ar eu bywyd ysgol, gan gynnwys lles, cyrhaeddiad a phresenoldeb. Caiff tueddiadau eu dadansoddi i sicrhau bod unrhyw newidiadau y gellir eu priodoli i’w statws gofalu yn cael eu nodi a’u cefnogi, yn ôl yr angen. Roedd yr ysgol am sicrhau, wedi i ofalwyr ifanc drosglwyddo i ysgol uwchradd, bod eu hawliau fel gofalwyr ifanc yn cael eu bodloni o hyd, felly sefydlwyd grŵp pontio â’r ysgol uwchradd leol. Trwy’r grŵp hwn, amlygwyd y gallai brodyr a chwiorydd prif ofalwyr gael eu ‘cuddio’ yn y sector uwchradd, felly sefydlwyd ffurflen hysbysu ar y cyd lle y gallai’r ysgol gynradd ac uwchradd weithio mewn partneriaeth i nodi lle y gallai fod gan frodyr a chwiorydd gyfrifoldebau gofalu ar y cyd.