Mae dull yr ysgol yn gosod y Gymraeg yn naturiol wrth wraidd bywyd yr ysgol. Mae’r strategaeth drosfwaol yn adlewyrchu’r genhadaeth genedlaethol i drefnu bod y Gymraeg ar gael i bawb, gan ganolbwyntio ar ymdeimlad dwfn o berthyn trwy ddefnydd gydol oes o’r iaith a hyrwyddo arferion a thraddodiadau. Defnyddir llais y disgybl yn effeithiol i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg, hanes a threftadaeth Cymru ar draws cymuned yr ysgol gyfan. Mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn cynrychioli pob grŵp blwyddyn, cefndir a gallu, a sefydlwyd ‘Cymdeithas Gymraeg Pen Y Dre’ ar gyfer pob un o’r staff a’r cyn-ddisgyblion i gefnogi eu ‘cynefin’.
Defnyddir cyd-destunau bywyd go iawn yn fedrus. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cydlynu Eisteddfod y clwstwr. Mae hyn yn cynnwys disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion yn yr ysgol yn trefnu ac yn cynnal y diwrnod ar gyfer yr ysgolion cynradd. Gall disgyblion Pen y Dre ymarfer eu medrau siarad Cymraeg wrth iddynt arwain y diwrnod, ac mae disgyblion cynradd yn cael cyfleoedd gwerthfawr i berfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ymweliadau â’r ysgol gan Swyddog lleol yr Urdd bob pythefnos, trwy weithio gyda grwpiau Blwyddyn 7 a Blwyddyn 11. Yn ychwanegol, mae disgyblion yn cwblhau prosiectau tymhorol yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafaredd gyda Swyddog Datblygu Ieuenctid y Fenter Iaith leol, ac yn perfformio yn Gymraeg mewn nifer o leoliadau ar draws y fwrdeistref ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Clwb Eisteddfod sefydledig gyda chynrychiolaeth o bob grŵp blwyddyn. Mae’r grŵp yn ymarfer bob dydd ac yn cystadlu mewn Eisteddfodau lleol ar benwythnosau ledled De Cymru, ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn, hefyd.
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/inline-images/pen-y-dre%20high%20school%20case%20study%20image%201.jpg)
- Mwynhau ymweliadau rheolaidd ag ardaloedd pwysig o hanes Cymru, fel Senghennydd, Aberfan, Cilmeri, Bannau Brycheiniog, Yr Ysgwrn, Eryri a Thryweryn, er mwyn adeiladu ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth sy’n gysylltiedig â’r lleoedd hyn. Mae’r disgyblion yn creu ffilmiau gwybodaeth dwyieithog ar ôl yr ymweliadau, a rhannwyd yr adnoddau hyn i’w defnyddio gan bob ysgol ledled Cymru.
- Defnyddio’r Gymraeg fel rhan naturiol o ddarpariaeth Cynllun Gwobr Dug Caeredin.
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/inline-images/pen-y-dre%20high%20school%20case%20study%20image%202.jpg)
- Arwain clwb chwaraeon dwyieithog bob wythnos ar ôl yr ysgol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4-6 o ysgolion cynradd partner Pen Y Dre, ar y cyd â Chwaraeon Yr Urdd.
- Dathlu digwyddiadau ysgol gyfan ac yn y gymuned, yn cynnwys Dydd Miwsig Cymru, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Owain Glyndŵr a Diwrnod Shwmae Su’mae.
- Gweithio gyda phartneriaid allanol allweddol fel yr Urdd, Menter Iaith a S4C.
Agwedd bwysig ar y dull yw’r berthynas agos rhwng y Gymraeg a chyfadrannau’r celfyddydau mynegiannol. Mae’r celfyddydau mynegiannol yn cynorthwyo disgyblion i baratoi ar gyfer Eisteddfodau a’u galluogi i gystadlu mewn drama, llefaru, perfformiadau cerddorol a dawns, ynghyd â llafaredd, llythrennedd, creu ffilmiau a gwaith celf a chrefft. Mae disgyblion yn mwynhau’r gweithgareddau ac wedi magu hyder, ac maent yn cystadlu’n rheolaidd mewn categorïau Cymraeg iaith gyntaf, yn ogystal â dysgwyr Cymraeg. Mae’r ysgol yn creu ffilmiau cyfrwng Cymraeg a gwaith celf ynghyd ag arddangosfeydd celf cyhoeddus cyfrwng Cymraeg.
Mae’r ysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar strategaethau i gefnogi menter Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr ar draws addysg cyfrwng Saesneg. Ar hyn o bryd, maent yn cyflwyno dau gynllun peilot mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chwmni Say Something in Welsh. Nod y ddau gynllun peilot yw newid darpariaeth bresennol a chael nifer fwy o lawer o siaradwyr Cymraeg hyderus dros 16 oed o leoliadau cyfrwng Saesneg.
Mae staff yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre yn hapus i ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol yn eu gwaith, ac yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol a sefyllfaoedd anffurfiol. Ceir geiriau ac ymadroddion allweddol wythnosol yn Gymraeg i ddatblygu cymhwysedd disgyblion a staff mewn defnyddio’r Gymraeg, ac mae sawl aelod o staff yn dysgu Cymraeg trwy’r cwrs ‘Eisiau Dysgu Cymraeg?’ a gynigir gan yr ysgol.