Coleg yn cefnogi anghenion dysgu unigol
![](/system/files/2020-07/ING_17215_11220.jpg)
Cyd-destun
Coleg addysg bellach yng Ngogledd Cymru yw Coleg Llandrillo Cymru.
Strategaeth
Mae’r coleg yn cynnig ymateb wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol. Gwnaeth dysgwr ifanc gais am le ar gwrs adeiladu, ond nid oedd ganddo’r cymwysterau derbyn gofynnol. Cynigiodd y coleg le i’r dysgwr ar gwrs cymorth i ennill y cymwysterau perthnasol. Ers ennill y cymwysterau, mae’r dysgwr wedi gallu mynd ymlaen i’w ddewis gwrs.
Gweithredu
Nododd yr asesiad cychwynnol fod medrau rhifedd y dysgwr ar lefel mynediad 1. Cymraeg yw ei famiaith, ac mae ganddo nam ar ei glyw. Mae’n darllen gwefusau yn Gymraeg ac yn gallu deall iaith arwyddion, ond nid yw’n ei defnyddio. Nid oedd am fanteisio ar gymorth y tu allan i’r dosbarth ac nid oedd am gael ei drin yn wahanol i’r dysgwyr eraill.
Darparodd y coleg gefnogwr a oedd yn medru’r Gymraeg, yn gwneud iaith arwyddion ac yn cefnogi anghenion rhifedd. Galluogodd hyn i’r dysgwr fanteisio ar bob rhan o’r cwrs cymorth. Gweithiodd y cefnogwr yn agos â thiwtoriaid y cwrs a thiwtor personol y dysgwr i gynllunio’r dysgu. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y dysgwr wedi ennill cymhwyster lefel mynediad 3.
Deilliannau
Mae’r dysgwr wedi goresgyn rhwystrau sylweddol rhag dysgu ac wedi mynd ymlaen i gwrs adeiladu lle mae’n parhau i gael cymorth ar gyfer datblygu ei fedrau rhifedd. Mae ar y ffordd i ennill lefel 1, cymhwyso rhif, erbyn diwedd Rhagfyr ac mae cymorth yn yr arfaeth iddo ennill lefel 2 erbyn diwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf.
Dolenni defnyddiol
Adnoddau eraill gan y darparwr hwn
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/styles/95_x_95/public/2021-03/blended-learning-web-promo.png)
Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/styles/95_x_95/public/2021-01/post16-promo-image.png)
Partneriaethau ôl-16 - Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau
![Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-08/Pynciau_busnes_ac_astudiaethau_cymdeithasol_Safon_Uwch.pdf.png)
Pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
pdf, 1.24 MB Added 04/08/2020
![Cymwysterau newydd](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/New%2520qualifications%2520cy.pdf_0.png)
Cymwysterau newydd
pdf, 1.43 MB Added 17/07/2018
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/styles/95_x_95/public/2021-03/Post%2016%20-%201_0.jpg)
Strategaethau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan ddysgwyr ar bob lefel
![](/sites/www.estyn.gov.wales/files/styles/95_x_95/public/2021-03/Post%2016%20-%202_0.jpg)
Nodi a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio
![Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Learner%2520progress%2520and%2520destinations%2520in%2520FE%2520%2528CY%2529.pdf_1.png)
Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach
pdf, 1.15 MB Added 16/06/2017
![Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Effective%2520teaching%2520and%2520learning%2520observation%2520in%2520further%2520education%2520colleges%2520cy.pdf_0.png)
Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach
pdf, 546.81 KB Added 01/10/2015
![Rhifedd ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 19 mlwydd oed - Gorffennaf 2011](/system/files/styles/document_100_by_auto/private/2020-07/Rhifedd%2520ar%2520gyfer%2520dysgwyr%2520rhwng%252014%2520ac%252019%2520mlwydd%2520oed%2520-%2520Gorffennaf%25202011.pdf.png)
Rhifedd ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 19 mlwydd oed - Gorffennaf 2011
pdf, 778.04 KB Added 01/07/2011