Tîm Lles
Crëwyd tîm lles dynodedig, a oedd yn cynnwys aelod o'n uwch dîm arwain, a swyddog phresenoldeb newydd. Roedd y tîm yn cynnal gwiriadau dyddiol gyda disgyblion a oedd yn amharod i fynychu’r ysgol neu angen cymorth ychwanegol i wneud hynny.
Arfer sy’n ystyriol o drawma
Ar ôl gwerthuso’r ddarpariaeth, ymgymerodd staff â dysgu proffesiynol a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio ymagweddau sy’n ystyriol o drawma a strategaethau sydd wedi’u bwriadu i reoli a thawelu disgyblion. Codwyd ymwybyddiaeth staff ynglŷn â phwysigrwydd bod ar gael yn emosiynol i ddisgyblion pryd bynnag roedd angen. Hyfforddodd yr ysgol ddau aelod o staff i fod yn ymarferwyr sy’n ystyriol o drawma a dyfarnwyd statws ‘Ysgol sy’n Ystyriol o Drawma ac yn Feddyliol Iach’ i Ysgol Gynradd Plasmarl yn 2022.
Darpariaeth amgen estynedig
Crëwyd Ystafell Enfys yr ysgol i ddarparu gofod i’r disgyblion mwyaf bregus fanteisio ar gymorth ac ymyrraeth lles. Mae’r ysgol yn nodi disgyblion sydd fwyaf angen cymorth trwy geisiadau gan deuluoedd a defnyddio ystod o offer asesu lles. Mae’r ystafell synhwyraidd ‘dywyll’ yn darparu gofod diogel a thawel i ddisgyblion hunanreoli.
Mae’r arfer sy’n ystyriol o drawma a ddefnyddir yn yr ‘Ystafell Enfys’ yn cynnwys tair elfen, sef:
- Anogaeth
- Ymyrraeth 1:1 bwrpasol
- Gweithio gyda rhieni
Sefydlwyd grŵp ymyrraeth ar gyfer disgyblion yr oedd angen darpariaeth ychwanegol arnynt, fel y nodwyd yn eu CDUau. Er enghraifft, mae cymhareb uchel staff i ddisgybl yng ngrŵp ‘Gwdihŵ’, sy’n galluogi disgyblion i fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt a gweithio ar eu targedau unigol mewn amgylchedd tawelach a mwy strwythuredig.
Mae staff yn defnyddio cylchedau synhwyraidd bob dydd, sef cyfres o weithgareddau sy’n cefnogi anghenion synhwyraidd disgyblion ac yn galluogi amgylchedd dysgu cynhwysol.
Datblygwyd ardal chwarae meddal ar gyfer disgyblion ag Anhwylder Cydsymud Datblygiadol (DCD). Mae defnyddio’r ardal hon yn annog datblygiad medrau echddygol manwl a bras disgyblion.
Ymgysylltu â theuluoedd
Mae gwaith yr ysgol gyda rhieni yn cynnwys boreau coffi wythnosol â thema lle gall rhieni gyfarfod a rhannu profiadau. Mae staff yn darparu cymorth trwy ganolbwyntio ar destunau fel presenoldeb, cyllidebu a dysgu plant i fynd i’r toiled. Mae rhieni’n elwa ar ystod o rwydweithiau cymorth fel cyfarfodydd misol ar gyfer rhieni plant ag ADY. O ganlyniad, caiff rhieni eu hysbysu’n briodol am weithdrefnau’r ysgol a sut gallant gynorthwyo’u plentyn gartref.