Cefnogi agweddau disgyblion at ddysgu a rhannu profiadau’r cwricwlwm a dysgu trwy ddigwyddiadau lledaenu

Arfer effeithiol

Western Learning Federation Woodlands High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn rhan o’r Western Learning Federation sy’n gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Tŷ Gwyn. Mae’n darparu addysg ddydd ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 19 mlwydd oed. Mae mwyafrif y disgyblion o oedran ysgol statudol, ac mae tua 40% ohonynt mewn addysg ôl-orfodol. Mae anghenion dysgu ychwanegol y disgyblion yn amrywiol, ac mae gan bob un o’r disgyblion ddatganiad o angen addysgol arbennig. Mae gan ryw 44% o ddisgyblion anawsterau dysgu difrifol, mae gan un o bob pump ohonynt anghenion corfforol a meddygol, anghenion lleferydd, ac mae gan un o bob pump arall ohonynt anawsterau cyfathrebu ac iaith. Mae ychydig o ddisgyblion yn awtistig neu mae ganddynt anhawster dysgu cyffredinol. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion namau ar y synhwyrau ac anawsterau dysgu dwys a lluosog.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Dair blynedd yn ôl, aeth Ysgol Woodlands ar daith i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Fel rhan o gamau cychwynnol cynllunio’r cwricwlwm, pleidleisiodd disgyblion dros themâu, a threfnwyd digwyddiadau agoriadol i sicrhau bod disgyblion yn dangos brwdfrydedd ac wedi ymgysylltu ar ddechrau pob thema. Wrth i’r cwricwlwm ddatblygu, mae disgyblion wedi cael eu cynnwys yn gynyddol mewn datblygu’r cwricwlwm ar y cyd, ac erbyn hyn, maent yn gyrru pob thema trwy ddatblygu cwestiynau ymholi a nodi prosiectau ymholi. Ymgynghorom ni hefyd â rhieni, a gofyn am eu barn ar y cwricwlwm. Yn sgil myfyrio yn ystod y broses gynllunio, awgrymwyd y byddai cyfleoedd i ddisgyblion arddangos a rhannu eu dysgu yn rhoi cyfleoedd ehangach iddynt gymhwyso a defnyddio’u medrau mewn gwahanol gyd-destunau, ac i rieni ac aelodau eraill o’r gymuned rannu yn nheithiau dysgu disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  • Ar ddechrau thema newydd, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiad agoriadol i ymgysylltu â nhw ac ennyn eu brwdfrydedd  

  • Yn dilyn gweithgareddau cychwynnol, mae disgyblion yn gweithio gyda staff i nodi eu diddordebau a’u cwestiynau am y thema. Cynorthwyir pob un o’r disgyblion i gymryd rhan, p’un ai drwy ddefnyddio symbyliadau ac arsylwadau o ymatebion disgyblion, neu drwy ddisgyblion yn datblygu ac yn mireinio eu cwestiynau eu hunain. 

  • Mae staff yn defnyddio’r cwestiynau a ofynnir gan ddisgyblion i lywio’u cynllunio. Caiff profiadau dysgu eu datblygu, a chynorthwyir disgyblion i’w harchwilio a datblygu eu gwybodaeth a’u medrau. 

  • Bydd pob dosbarth yn paratoi rhywbeth i gyflwyno ac arddangos eu medrau, eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am y thema y maent wedi’i hastudio. Bydd pob dosbarth yn paratoi rhywbeth gwahanol. Gallai hyn gynnwys darnau o waith ysgrifenedig, gwaith celf, llysiau wedi’u tyfu, fideos neu gyflwyniadau byw. 

  • Mae disgyblion yn gwahodd aelodau o gymuned yr ysgol i’w digwyddiad cloi. Gallai hyn gynnwys rhieni, llywodraethwyr, staff ar draws y ffederasiwn, partner gwella ysgolion ac aelodau o’r gymuned leol.  

  • Mae cymuned yr ysgol gyfan yn ymuno â dathlu dysgu’r disgyblion dros y tymor yn y digwyddiad cloi. Mae disgyblion yn siarad am yr hyn y maent wedi’i wneud a’r medrau newydd y maent wedi’u dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae disgyblion yn hynod falch o’r gwaith a wnânt. Maent yn mynegi eu bod yn mwynhau’r ysgol ac yn edrych ymlaen at y gweithgareddau. 

  • Mae disgyblion yn pleidleisio dros destunau y maent eisiau dysgu amdanynt, er enghraifft planhigion yn erbyn anifeiliaid. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar eu dysgu oherwydd rhoddir perchnogaeth o’r testunau iddynt. 

  • Mae medrau siarad a gwrando disgyblion wedi gwella am fod ganddynt ddiben i esbonio i rieni beth maent wedi bod yn ei ddysgu yn ystod y tymor hwnnw.  

  • Mae dysgwyr hŷn o’r farn fod y cwricwlwm yn eu paratoi yn well ar gyfer yr adeg pan fyddant yn gadael yr ysgol. 

  • Mewn adborth gan staff, adroddwyd am lefelau cynyddol o ymgysylltiad gan fyfyrwyr yn ystod digwyddiadau agoriadol a digwyddiadau cloi.  

  • Mae disgyblion bellach yn fwy hyderus i siarad am eu dysgu a’u cynnydd gyda’u cyfoedion trwy’r digwyddiad hwn.  

  • Mae disgyblion yn elwa ar weithgareddau pwrpasol oddi ar y safle ac yn yr ardal leol sy’n gysylltiedig â’r testunau.  

  • Ceir cyfleoedd cynyddol i ddisgyblion rannu eu dysgu â rhieni ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgol ar ôl Covid-19. 

  • Rhoddodd llawer o staff 4 neu 5 seren allan o 5 i’r cwricwlwm yn yr arolwg staff diweddaraf ar y cwricwlwm.   

  • At ei gilydd, dywed disgyblion fod eu mwynhad mewn dysgu wedi cynyddu. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Gwahoddir rhieni i fynychu holl ddigwyddiadau’r cwricwlwm; digwyddiadau agoriadol a digwyddiadau cloi. 

  • Gwahoddir llywodraethwyr i’r digwyddiadau hyn ac maent yn eu mynychu.

  • Caiff gwefan yr ysgol ei diweddaru â’r holl wybodaeth. 

  • Caiff ein digwyddiadau eu rhannu mewn cyfarfodydd panel. 

  • Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arddangos uchafbwyntiau’r digwyddiadau. 

  • Trafodir y digwyddiadau yn ystod caffi rhieni lle gall rhieni gyfrannu a rhoi sylwadau. 

  • Rhennir digwyddiadau’r cwricwlwm yng nghyfarfodydd y ffederasiwn. 

  • Rhennir tystiolaeth o’r digwyddiadau hyn yn ein cylchgrawn ar gyfer y ffederasiwn. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn