Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022-2023
Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl ar sut mae pob sector yng Nghymru yn perfformio. Gallwch weld trosolwg o bob sector, yn ogystal â themâu allweddol, astudiaethau achos ac adolygiadau thematig
Datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn Ysgol Caer Elen, Sir Benfro
Ysgol Caer Elen, Sir Benfro
Defnyddio dysgu proffesiynol i ddatblygu medrau Cymraeg staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd St David's, Cwmbran
St. David's R.C. Primary School, Cwmbran
Profiadau disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches a’u teuluoedd yn Ysgol Gymunedol Plascrug, Ceredigion
Ysgol Gymunedol Plascrug, Ceredigion
Lansio Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022-2023
Lansiom yr adroddiad blynyddol llawn yn y Senedd ar 31 Ionawr 2024. Daeth ystod o randdeiliaid o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant at ei gilydd i drafod rhai o’r themâu a’r canfyddiadau allweddol â thîm Estyn. Gallwch wylio crynodeb o’r digwyddiad lansio isod:
Mewnweliadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2022-2023
Cyn ein Hadroddiad Blynyddol 2022-23, rydym wedi cyhoeddi mewnweliadau cynnar. Mae’r crynodebau hyn sy’n amlinellu’r prif negeseuon yn rhoi mewnwelediad cynnar i ddarparwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd yn ehangach i’r adroddiad blynyddol llawnach, a gyhoeddir yn y flwyddyn newydd.
Ar gyfer pob sector, rydym yn nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ac yn rhoi trosolwg o’r argymhellion mwyaf cyffredin rydym wedi’u rhoi i ddarparwyr ar ôl eu harolygiadau.
Gallwch hefyd weld cyfres gryno o gwestiynau myfyriol sydd â’r nod o helpu darparwyr i ystyried y ffordd orau i wneud cynnydd yn erbyn un o’r meysydd i’w gwella a nodwyd ym mhob sector.
Darllenwch y mewnweliadau cynnar
Ffilmiwyd y fideo hwn wrth lansio adran mewnwelediadau cynnar ein hadroddiad blynyddol yn Ysgol Caer Elen ym mis Hydref 2023 ac mae’n esbonio beth ydyn nhw.