Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol
Adroddiad thematig
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddulliau hynod effeithiol o addysg gymunedol a ddefnyddir gan ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig.
Argymhellion
I wireddu’r weledigaeth ar gyfer ysgolion cymunedol effeithiol yng Nghymru mewn modd strategol a chynaliadwy:
Dylai ysgolion:
- A1 Feithrin partneriaethau cryf â theuluoedd fel rhan annatod o wella lles a chyflawniad pob disgybl
- A2 Cyfeirio’n glir mewn cynlluniau strategol at sut byddant yn cydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid i wella lles a chyflawniad pob disgybl
- A3 Cyflogi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned i gydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid ehangach
- A4 Cydweithio â’r awdurdod lleol a phartneriaid statudol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau a defnyddio asedau’r ysgol
- A5 Gwerthuso effaith strategaethau ysgolion cymunedol
Dylai awdurdodau lleol:
- A6 Gynnwys camau mewn cynlluniau strategol yn ymwneud â sut byddant yn datblygu mentrau awdurdod cyfan i gynorthwyo ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol
- A7 Cryfhau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau i gynllunio ffyrdd i leoli ystod o wasanaethau mewn ysgolion
- A8 Sicrhau bod cynllunio ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am fannau / ystafelloedd sylfaen i deuluoedd a’r gymuned eu defnyddio
- A9 Cynorthwyo ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys datblygu swydd ddisgrifiad ar gyfer yr aelodau staff hyn
- A10 Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff cymorth ysgolion, cyrff llywodraethol a phartneriaid strategol i ddatblygu ysgolion cymunedol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A11 Ddatblygu cyfres o nodweddion diffiniol, cytûn ar gyfer ysgolion cymunedol, ac ystyried sut caiff ysgolion eu dosbarthu’n ‘ysgolion cymunedol’ a sut caiff y term hwn ei ddefnyddio i nodi ysgolion penodol
- A12 Hyrwyddo manteision ysgolion cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
- A13 Cryfhau’r disgwyliad i gynnwys camau gweithredu ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned mewn cynlluniau strategol ysgolion
- A14 Adnewyddu arweiniad cenedlaethol ar ysgolion cymunedol, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, a rhoi arweiniad ar sut gall ysgolion werthuso a gwella eu strategaethau ysgol gymunedol
- A15 Sicrhau bod cynllunio, arweiniad a safonau adeiladu ar gyfer y rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am leoedd y gall teuluoedd a’r gymuned eu defnyddio