Argymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Gryfhau’r cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu rhagor am opsiynau pwnc newydd, fel pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch, cyn dewis eu pynciau yn derfynol
- A2 Gweithio’n gydweithredol ag ysgolion a cholegau eraill i rannu adnoddau dysgu, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg, a chynyddu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
- A3 Cryfhau’r prosesau monitro a gwerthuso ar gyfer pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch i sicrhau bod athrawon ac arweinwyr yn gallu nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn gysylltiedig ag addysgu, dysgu ac asesu
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A4 Hwyluso mwy o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon pynciau busnes ac astudiaethau cymdeithasol Safon Uwch
- A5 Cynorthwyo ysgolion i werthuso effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch a datblygu cynlluniau gwella targedig
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A6 Fynd i’r afael ag argaeledd cyfyngedig adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg Safon Uwch, gan gynnwys gwerslyfrau, yn y pynciau hyn