Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- Ystyried yn ofalus thema drawsbynciol gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, a sut gall dysgwyr ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, pan fyddant yn cynllunio eu cwricwlwm newydd
- Ystyried sut gallant wella dealltwriaeth dysgwyr o’r gweithle trwy ddarparu ystod ehangach o brofiadau go iawn mewn partneriaeth â chyflogwyr
- Gwerthuso effaith partneriaethau â chyflogwyr a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith ar ddealltwriaeth dysgwyr o’r byd Gwaith
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- Sicrhau bod cynllunio’r cwricwlwm lleol yn rhoi ystyriaeth dda i yrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, ac yn cynnwys cyflogwyr
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid eraill i:
- Werthuso effaith rhaglenni Y Gyfnewidfa Addysg Busnes, Dosbarth Busnes a Syniadau Mawr Cymru
- Llunio arweiniad i gynorthwyo staff ysgolion i greu cysylltiadau â chyflogwy