Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd:
- A1 sicrhau nad yw tlodi ac anfantais yn rhwystrau i ddysgwyr rhag datblygu medrau iaith a llythrennedd cadarn
- A2 datblygu diwylliant o ddarllen sy’n annog ac yn ennyn brwdfrydedd yr holl ddysgwyr, gan gynnwys bechgyn a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddarllen er pleser, a darparu cyfleoedd i wrando ar oedolion yn darllen ar goedd
- A3 datblygu gwybodaeth dysgwyr am eirfa yn benodol, fel bod hynny’n cynorthwyo i ddatblygu’u medrau siarad, darllen ac ysgrifennu
Dylai ysgolion cynradd:
- A4 ddatblygu strategaeth glir i gefnogi addysgu darllen yn effeithiol, gan gynnwys mynd i’r afael â medrau datgodio, datblygu geirfa, a medrau darllen
- A5 darparu cyfleoedd heriol priodol a pherthnasol i gefnogi datblygiad cynyddol medrau gwrando a siarad dysgwyr, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2
- A6 cefnogi datblygu medrau ysgrifennu dysgwyr drwy addysgu cystrawennau, atalnodi a sillafu yn benodol, cyfleoedd perthnasol i ysgrifennu ac adborth manwl i arwain gwelliant pellach
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A7 ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion unigol lleoliadau ac ysgolion, i sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn gwella eu medrau iaith a llythrennedd
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 werthuso defnydd lleoliadau ac ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar a’r grant datblygu disgyblion, er mwyn gwella medrau iaith a llythrennedd disgyblion cymwys