Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Ddatblygu ymagwedd drefnus, ysgol gyfan, sy’n cefnogi iechyd a llesiant pob disgybl
- A2 Cryfhau’r perthnasoedd rhwng staff a disgyblion a pherthnasoedd cymheiriaid rhwng disgyblion
- A3 Gwella ansawdd addysgu a phrofiadau dysgu o ran iechyd a llesiant, o fewn cwricwlwm eang a chytbwys
- A4 Cyfrif yn well am farn disgyblion ac ymchwil academaidd wrth ddatblygu’u dulliau o gefnogi iechyd a llesiant disgyblion
- A5 Sicrhau bod amgylchedd yr ysgol a’i gwasanaethau yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Gynorthwyo ysgolion i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant
- A7 Cefnogi gweithio effeithiol rhwng ysgolion ac asiantaethau eraill er lles pennaf plant a phobl ifanc a’u teuluoedd
Dylai darparwyr addysg gychwynnol athrawon:
- A8 Sicrhau bod athrawon newydd wedi’u hyfforddi i ddeall datblygiad plant a’r glasoed a’u bod wedi’u paratoi i gefnogi iechyd a llesiant disgyblion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A9 Sicrhau bod y dulliau atebolrwydd a ddefnyddir yn y system addysg yn rhoi pwys ar iechyd a llesiant disgyblion