Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed - Estyn

Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai arweinwyr ysgolion:

  • A1 Ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel am strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth i staff i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm
  • A2 Monitro a gwerthuso effaith strategaethau ac ymyriadau darllen yn drylwyr
  • A3 Cynllunio o fewn eu clwstwr ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn raddol o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, gan gynnwys gwneud defnydd priodol o adborth ac adroddiadau cynnydd o asesiadau personoledig

Dylai athrawon a staff cymorth mewn ystafelloedd dosbarth:

  • A4 Gynllunio cyfleoedd ystyrlon a difyr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau darllen yn raddol
  • A5 Defnyddio testunau o ansawdd uchel, sy’n briodol o heriol, i ddatblygu medrau darllen disgyblion ochr yn ochr ag addysgu’r strategaethau sydd eu hangen ar ddisgyblion i ddarllen y testunau hyn, ac ymgysylltu â nhw

Dylai partneriaid gwella ysgolion:

  • A6 Weithio gyda’i gilydd yn agos i sicrhau cysondeb a synergedd gwell mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch darllen ar gyfer arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 Barhau i hyrwyddo a datblygu’r

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn