Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn gwerthuso’r ansawdd a’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion oedran uwchradd o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r modd y mae hyn wedi datblygu ers adroddiadau blaenorol Estyn, yn enwedig adroddiad Estyn yn 2011


Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion:

  • A1 Sicrhau eu bod yn gwerthuso effeithiolrwydd eu strategaethau i wella cyflawniad, cyfnod pontio a phresenoldeb* disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac yn gwneud gwelliannau pan na fydd strategaethau yn ysgogi’r deilliannau dymunol
  • A2 Sicrhau bod polisïau gwrthfwlio a chydraddoldeb yn ystyried anghenion penodol disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr*
  • A3 Sicrhau bod ysgolion yn hyrwyddo diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar draws cwricwlwm yr ysgol*
  • A4 Sicrhau bod disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael cyfleoedd i fynegi eu barn am eu profiadau dysgu
  • A5 Cydweithio i gyflwyno a gwella gwasanaethau ar gyfer disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • A6 Archwilio ffyrdd o fagu hyder disgyblion a rhieni o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i hunanbennu eu hunaniaeth ethnig yn gywir

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 Ddiweddaru canllawiau 2008 ‘Symud Ymlaen – Addysg i Sipsiwn-Teithwyr’

* Argymhelliad yn adroddiadau Estyn yn 2005 a 2011


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn