Argymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Herio’r ystod gallu llawn a darparu tasgau ysgogol sy’n datblygu gwydnwch dysgwyr
- A2 Sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu hysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg
- A3 Cael disgwyliadau uchel fod pob dysgwr yn cyfrannu’n llafar, yn enwedig yn Gymraeg
- A4 Gwella medrau datrys problemau disgyblion mewn mathemateg ac mewn mathemateg-rhifedd
- A5 Datblygu medrau darllen lefel uwch disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg a Bagloriaeth Cymru
- A6 Gwella perfformiad bechgyn mewn Cymraeg, Saesneg a Bagloriaeth Cymru
- A7 Helpu mwy o ddisgyblion ennill y graddau uchaf ym Magloriaeth Cymru
- A8 Darparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddatblygu’u medrau rhifedd a TGCh ym Magloriaeth Cymru
- A9 Ystyried yn ofalus eu staffio a’u hamserlennu ar gyfer Bagloriaeth Cymru a’r statws maent yn ei roi i’r cymhwyster
- A10 Darparu hyfforddiant i arweinwyr canol i’w helpu i arfarnu safonau ac addysgu yn eu hadrannau
- A11 Gweithio gyda’i gilydd yn well i sicrhau bod ganddynt drefniadau cyfreithiol, diogel a chynhwysfawr ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyraeddiadau blaenorol disgyblion ac i ddatblygu rhwydweithiau o arfer broffesiynol
Yn ogystal:
- A12 Dylai ysgolion ystyried ehangder eu cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd ac anogaeth i astudio Saesneg llenyddiaeth a Chymraeg llenyddiaeth
- A13 Dylai colegau gynyddu nifer y dysgwyr sy’n ailsefyll TGAU Cymraeg iaith