Argymhellion
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
- A1 Dargedu adnoddau i hybu iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol yn ofalus er mwyn osgoi gorlwytho dysgwyr a staff â gormod o wybodaeth
- A2 Nodi’n ofalus y dysgwyr hynny sydd â’r risg fwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu gael profiad o broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, a monitro eu lles yn rheolaidd
- A3 Blaenoriaethu darparu cymorth yn ôl yr angen i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr y mae angen cymorth brys arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol yn cael cymorth cyn gynted ag y bo modd
- A4 Cydweithio mor agos ag y bodd modd ag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth cyffredinol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol mor ddi-dor ag y bo modd a lleihau, neu osgoi yn ddelfrydol, yr angen am nifer o fannau cyswllt
- A5 Ei gwneud yn glir sut y gall pob dysgwr fanteisio ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ag isgontractwyr neu ddarparwyr partner
- A6 Sicrhau bod yr holl staff cwnsela, ac aelodau staff eraill mewn rolau tebyg, yn cael goruchwyliaeth neu fentora priodol, ac yn ymgymryd â dysgu proffesiynol penodol ar sut i ddarparu cymorth o bell yn effeithiol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A7 Sicrhau y caiff deilliannau prosiectau iechyd meddwl a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu gwerthuso’n llawn, a rhannu’r canfyddiadau ar draws pob sector ôl-16