Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Ym mis Mai a mis Mehefin 2023, ymwelodd arolygwyr â naw o’r deg darparwr arweiniol sy’n cynnig rhaglenni prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliom gyfarfodydd a siarad gyda dysgwyr, rheolwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr. Arsylwom sesiynau addysgu grŵp ac adolygiadau un-i-un. Cynhaliom arolwg ar-lein dienw i ddysgwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr yn ymchwilio i agweddau ymatebwyr at gymwysterau SHC a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar raglenni prentisiaeth.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A1 Gydweithio â Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i adolygu’r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau
- A2 Adnewyddu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac adnoddau
- A3 Trwy gydweithio â phartneriaid, datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth ymarferwyr o’r addysgeg a’r gallu i gyflwyno medrau hanfodol
Dylai darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith:
- A4 Ddatblygu ymagweddau gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau:
- y caiff dysgwyr gyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg
- y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a’u cefnogi’n briodol
- A5 Sicrhau bod dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy ddirprwy yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
- A6 Cynnig dysgu proffesiynol sy’n datblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i gyflwyno medrau hanfodol
Dylai darparwyr arweiniol:
- A7 Sicrhau bod hunanwerthuso’n myfyrio ar effeithiolrwydd y modelau cyflwyno sy’n cael eu defnyddio ar draws partneriaid ac isgontractwyr y darparwr ac yn cymryd camau i leihau’r anfanteision posibl a nodir yn yr adroddiad hwn