Adroddiad thematig |

Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 - Mai 2015

Share this page

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr chylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. Mae’r adroddiad yn archwilio safonau a darpariaeth ar gyfer y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 mewn ysgolion lle mae arfer dda wedi’i nodi’n flaenorol.Mae ffilm fer yn dangos strategaethau arfer orau ar gyfer addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol mewn ysgolion cynradd. Mae staff o chwe ysgol ledled Cymru yn esbonio’r modd y mae eu strategaethau wedi datblygu medrau disgyblion mewn celf a dylunio, cerddoriaeth, dawns a drama.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • Gynllunio dilyniant o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion er mwyn iddynt gael profiad o ehangder y celfyddydau creadigol a datblygu’u medrau creadigol wrth iddynt symud drwy’r ysgol
  • Cefnogi athrawon i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r hyder i addysgu’r celfyddydau creadigol yn dda
  • Monitro cyflawniadau disgyblion yn y celfyddydau creadigol
  • Gweithio’n agosach ag ysgolion eraill i rannu arfer orau ac adnoddau yn y celfyddydau creadigol

Dylai awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol:

  • Gynnig cyfleoedd i athrawon ddatblygu’u medrau a’u hyder wrth addysgu un neu fwy o bynciau’r celfyddydau creadigol
  • Darparu hyfforddiant i ysgolion i’w helpu i nodi, datblygu a rhannu arfer orau mewn addysgu ac asesu yn y celfyddydau creadigol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Barhau i gynorthwyo ysgolion i wneud defnydd o gyllid penodedig i alluogi disgyblion o deuluoedd tlotach i ddysgu chwarae offerynnau cerdd ac i gymryd rhan lawn yn y celfyddydau creadigol
  • Cyhoeddi deunyddiau sy’n dangos y safonau disgwyliedig yn y celfyddydau creadigol 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol