Adroddiad thematig |

Adolygiad o safonau ac ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer peirianneg mewn colegau addyg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru - Ionawr 2013

Share this page

Diben yr arolwg hwn yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y safonau presennol ac ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer peirianneg mewn colegau addysg bellach (AB) a darparwyr dysgu yn y gwaith (DYYG), yn unol â’r hyn a ofynnwyd yn y cylch gwaith gweinidogol blynyddol i Estyn.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu’r trefniadau i alluogi colegau a darparwyr eraill i gynnig rhaglenni HNC (D) yn eu meysydd arbenigol heb fod angen gwneud trefniadau rhyddfraint gyda’r sector prifysgolion; ac
  • ystyried cynnwys y mentrau a’r prosiectau peirianneg amrywiol ledled Cymru o fewn strategaeth genedlaethol gyffredinol ar addysg a hyfforddiant peirianneg i Gymru, y gall y diwydiant peirianneg a’r holl randdeiliaid eraill ei chefnogi.

Dylai colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • wella’r gyfradd y mae dysgwyr yn cwblhau ac yn ennill eu cymwysterau arni;
  • monitro cyrchfannau’r holl ddysgwyr yn agosach pan fyddant yn gadael eu rhaglenni;
  • gwella trefniadau partneriaeth gydag ysgolion fel y gall yr holl ddisgyblion:
    • fanteisio ar well gwybodaeth am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a gyrfa mewn peirianneg; a
    • deall bod angen medrau rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth ffisegol ar ddisgyblion ar lefel briodol i lwyddo mewn peirianneg;
  • parhau i ddatblygu’r cwricwlwm i sicrhau bod pob dysgwr, yn cynnwys menywod, sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn seiliedig ar beirianneg, yn gallu dechrau ar raglenni ar lefel sydd fwyaf priodol iddynt;
  • datblygu strategaethau i alluogi ymateb cyflymach a mwy priodol i anghenion diwydiant ar gyfer hyfforddiant pwrpasol ac ymgynghoriaeth wedi’i harwain gan gyflogwyr; ac
  • annog mwy o ddysgwyr i ddefnyddio eu medrau peirianneg i gymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol a gwella cynrychiolaeth Cymru yn nhîm y DU ar gyfer y Gemau Olympaidd Sgiliau.