Adroddiad thematig |

Adolygiad cychwynnol o effeithiolrwydd rhaglenni Hyfforddeiaethau a Chamau at Waith Llywodraeth Cymru - Ionawr 2013

Share this page

Yn y cylch gwaith gweinidogol blynyddol, gofynnwyd i Estyn gynnal adolygiad cynnar o raglenni Hyfforddeiaethau a Chamau at Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bwriad yr adroddiad hwn yw llywio trefniadau tendro nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Mehefin 2013, a fydd yn pennu cyflwyno’r rhaglenni o Awst 2014.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wneud yn siŵr bod asiantaethau cyfeirio yn meddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn y mae’r rhaglenni hyfforddi sydd ar gael yn ei ddarparu a pha raglenni sy’n addas ar gyfer dysgwyr unigol;
  • gweithio’n agos gyda darparwyr i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar y nifer sy’n dilyn rhaglenni Hyfforddeiaeth a Chamau at Waith; a
  • gwneud yn si.r bod cyflogwyr yn meddu ar ddealltwriaeth well ofr rhaglenni.

Dylai darparwyr hyfforddi:

  • wneud yn siŵr bod pob dysgwr yn cael ei roi ar lwybrau hyfforddi priodol;
  • annog pob dysgwr i ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai gael effaith andwyol ar nodi rhwystrau dysgu a chyflogaeth;
  • gwella llwybrau dilyniant ar yr holl raglenni;
  • gwneud Cynlluniau Dysgu Unigol yn ddigon manwl a heriol ar gyfer dysgwyr;
  • gwella profion medrau sylfaenol ac olrhain cynnydd;
  • gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu lleoliadau gwaith a chymunedol addas; a
  • sicrhau bod cyflogwyr yn cael gwybod yn llawn am ofynion hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith.

Dylai’r holl asiantaethau cyfeirio:

  • wella ansawdd y wybodaeth gychwynnol a roddir i ddarparwyr hyfforddiant am ddysgwyr yn y broses gyfeirio;
  • annog yr holl ddysgwyr i ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai gael effaith andwyol ar nodi rhwystrau dysgu neu gyflogaeth; a
  • gwella rhannu gwybodaeth rhwng y gwahanol asiantaethau sy’n gweithio gyda phobl ifanc.