Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Adroddiad thematig
Cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyflwr y genedl er mwyn ymateb i ddau argymhelliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
Mae’r argymhellion yn amlinellu y dylai Estyn:
- adolygu addysgu hanes Cymru mewn ysgolion a’r dystiolaeth o’r graddau y mae ysgolion yn bodloni gofynion y manylebau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch o ran addysgu cynnwys Cymreig
- adolygu sut mae amrywiaeth yn cael ei addysgu mewn ysgolion, ac ystyried a yw’r hanes sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion yn cynrychioli holl gymunedau Cymru a’u cysylltiadau rhyngwladol (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2019).
Yn dilyn y digwyddiadau yn ystod haf 2020 a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru y dylai’r adolygiad ystyried hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a’r cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ehangach.