Addysg Drochi Cymraeg – Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed
Mae athroniaeth addysg drochi yn berthnasol i Lywodraeth Cymru gan y gall defnyddio methodoleg trochi helpu i gyfrannu at y targedau a nodir yn ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’. Amlinellwyd hyn yn benodol pan nodwyd ‘bydd cynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg yn cael eu llywio’n fwy gan ymchwil a thystiolaeth am addysgu a dysgu iaith yn effeithiol, gan gynnwys dulliau trochi iaith’ (Llywodraeth Cymru, 2017b).
Bydd yr adroddiad hwn yn nodi arfer orau mewn perthynas â throchi dysgwyr yn y Gymraeg, tra'n gosod y cyd-destun ynglŷn â'r defnydd presennol o addysg drochi yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn adeiladu ar waith a gyflawnwyd yn flaenorol gan Estyn, gan gynnwys yr adroddiad diweddar Caffael yr Iaith Gymraeg (Estyn, 2021) a’r adroddiad Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog (Estyn, 2018).