Adroddiad thematig |

ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang - Mehefin 2014

Share this page

Cyhoeddir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn y cylch gwaith Gweinidogol i Estyn ar gyfer 2013-2014. Mae’n adrodd ar y cynnydd y mae ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig wedi’i wneud mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF) er 2006 pan gyhoeddodd Estyn adroddiad gwaelodlin ar ‘Sefydlu datganiad sefyllfa ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang yng Nghymru’. Un o ddibenion adroddiad 2006 oedd llywio cyflwyno ADCDF am y pum mlynedd nesaf.Mae’r barnau yn yr adroddiad hwn wedi’u seilio ar dystiolaeth a gasglwyd o arolygiadau gan ddefnyddio dogfen Estyn, ‘Arweiniad atodol ar gyfer arolygwyr ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang mewn ysgolion.’ Mae’r arweiniad atodol wedi’i strwythuro o amgylch y saith thema awgrymedig a nodwyd gan UNESCO fel rhan o ‘ Decade of Education for Sustainable Development’ ac ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang – Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer Ysgolion’ (2008) gan Lywodraeth Cymru i helpu dysgwyr i astudio ystod o faterion ADCDF a chysylltu’r rhain â chysyniadau allweddol.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • wella dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau mwy cymhleth ADCDF a nodwyd yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â hunaniaeth a diwylliant;
  • cynllunio ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r saith thema ADCDF ar draws y cwricwlwm yn raddol, ac asesu ac olrhain datblygiad disgyblion;
  • cynllunio ar gyfer ADCDF i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu llythrennedd a rhifedd disgyblion;
  • darparu amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol i gefnogi ADCDF;
  • nodi aelodau o staff i fod â chyfrifoldeb am gydlynu a datblygu ADCDF ar draws yr ysgol;
  • darparu hyfforddiant priodol ar gyfer athrawon ac aelodau eraill o staff i’w helpu i gyflwyno ADCDF yn fwy effeithiol, gan gynnwys ei chysyniadau mwy cymhleth; a
  • sicrhau bod llywodraethwyr yn cael hyfforddiant i’w galluogi i gefnogi a herio’r ysgol wrth gyflwyno ADCDF.

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

  • sefydlu cyfeirlyfr o ddarparwyr sydd ag arfer dda mewn ADCDF, y gellir ei rannu ag ysgolion; a
  • darparu hyfforddiant i lywodraethwyr i’w galluogi i gefnogi a herio ysgolion yn briodol o ran ADCDF.