Argymhellion
Dylai ysgolion:
A1 Wella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i rieni, er enghraifft, a datgan yn glir beth mae’r ysgol yn ei hystyried yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
A2 Sicrhau bod gan Gydlynwyr ADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau
A3 Sicrhau bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn cynnwys ffocws digonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY
Dylai awdurdodau lleol:
A4 Sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
A5 Darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn enwedig o ran:
- beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu yn ei ysgolion
- y CDUau hynny a fydd yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a’r rhai a fydd yn cael eu cynnal gan ysgolion
A6 Parhau i sicrhau ansawdd ac adolygu arfer a darpariaeth ddysgu ychwanegol i sicrhau bod cyllid a dysgu proffesiynol yn cefnogi cyflwyno’n effeithiol ar gyfer:
- arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- cynlluniau datblygu unigol
- gwasanaethau, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg
A7 Datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Cod ADY, a darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth
A9 Gwerthuso effaith cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i awdurdodau lleol yn llawn
A10 Sicrhau bod arweiniad a chyllid yn y dyfodol yn cael ei ddarparu mewn modd amserol i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio’n ddigonol