Adroddiad amgylcheddol - Estyn

Adroddiad amgylcheddol


Mae Estyn wedi nodi bod ein prif effeithiau ar yr amgylchedd yn deillio o ddefnyddio ynni, o gludiant fel arfer, a chynhyrchu gwastraff. Byddwn yn ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, trwy ymrwymo i set gynhwysfawr o amcanion amgylcheddol:

1. Parhau i ddefnyddio ynni’n effeithlon a monitro’r CO2 a gynhyrchir, gan anelu at ostwng ymhellach ein hallyriadau a chyfrannu at darged sero net sector cyhoeddus Cymru erbyn 2030.
2. Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru (LlC) “Tuag at Ddyfodol Diwastraff”, parhau i beidio ag anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi.
3. Yn unol ag ymrwymiad LlC “Tuag at Ddyfodol Diwastraff”, lleihau sgil-gynhyrchion gwastraff 1.2% flwyddyn ar ôl blwyddyn tan 2050 (yn seiliedig ar ffigurau 2013-2014).
4. Lleihau effaith cludiant y sefydliad sy’n cyfrannu at y targed lleihau CO2 (amcan 1).
5. Cyfleu mentrau amgylcheddol a’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ehangach i’r cyhoedd a’r staff.
6. Parhau i ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol mewn gweithdrefnau prynu.