Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2017 - Estyn

Adolygiad Blynyddol o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2017


Y ddogfen hon yw’r Diweddariad Cynnydd Blynyddol cyntaf yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) ac amcanion Cydraddoldeb 2016-2010 Estyn, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod 1 Ebrill 2016 hyd 31 Mawrth 2017.

Cyhoeddwyd y CCS yn Ebrill 2016 gan Estyn, ar ôl ystyried arfer orau, cyfrifoldebau cyfreithiol a thrafodaethau lleol. Defnyddiwyd profiad o’r CCS blaenorol hefyd wrth gynllunio’r cynllun pedair blynedd nesaf. Mae’r CCS yn ategu Amcanion Cydraddoldeb Estyn ac yn amlinellu gwybodaeth allweddol am ein gweithgarwch cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Yn ogystal â chyflawni ein dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ystyried ystod eang o ddeddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi ‘ystyriaeth briodol’ i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall
    sy’n cael ei wahardd gan y Ddeddf
  • datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol
    a’r rheiny nad ydynt yn rhannu nodwedd
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad
    ydynt yn rhannu nodwedd

Mae’r CCS yn cwmpasu’r holl nodweddion gwarchodedig sy’n ofynnol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil (gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd)
  • crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
  • rhyw a chyfeiriadedd rhywiol