Ysgolion Ffederal – Nodweddion cyffredin ffedereiddio effeithiol
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion ffederal:
- A1 Weithio gyda rhanddeiliaid o’r cychwyn i sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer y ffederasiwn, sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion
- A2 Datblygu strwythurau arwain ar gyfer y ffederasiwn, gan gynnwys rhywfaint o amser heb addysgu ar gyfer uwch arweinydd ar bob safle, i gefnogi gweithredu effeithiol o ddydd i ddydd a chyfathrebu da o fewn ysgolion, a rhyngddynt
- A3 Defnyddio prosesau hunanwerthuso i nodi sut gellir defnyddio medrau ac arbenigedd staff i wella profiadau dysgu ar gyfer disgyblion ar draws y ffederasiwn
- A4 Datblygu’r defnydd o TGCh i gefnogi cydweithio gan staff a disgyblion
Dylai ysgolion sy’n ystyried ffedereiddio hefyd:
- A5 Werthuso effaith bosibl ffedereiddio ar safonau a lles disgyblion
- A6 Nodi graddau ac effeithiolrwydd unrhyw gydweithio sy’n bodoli’n barod
- A7 Nodi a gwerthuso effaith bosibl unrhyw rwystrau rhag ffedereiddio effeithiol, fel pellter daearyddol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A8 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer uwch arweinwyr ysgolion ffederal
- A9 Adolygu eu trefniadau cyllid er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion ffederal gydgyfrannu eu hadnoddau’n haws
- A10 Rhannu arfer dda o ran ffedereiddio effeithiol gydag ysgolion wrth iddynt ystyried ymgymryd â’r broses ffedereiddio
- A11 Sicrhau cymorth cyson ar gyfer yr holl ysgolion o fewn ffederasiwn, trwy ddefnyddio’r un ymgynghorydd her ar gyfer pob ysgol, er enghraifft
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A12 Archwilio trefniadau i helpu ysgolion ffederal i gydgyfrannu eu hadnoddau