Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd St. Julian yn ysgol gynradd fawr yn awdurdod lleol Casnewydd. Mae 687 o ddisgyblion 3 i 11 oed yn yr ysgol, gan gynnwys 75 o ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa yn rhan-amser. Mae 23 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol. Rhyw 18% o ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith. Mae anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 20% o ddisgyblion, gan gynnwys ychydig iawn o ddisgyblion â datganiadau o anghenion addysgol. Mae’r ysgol yn Ysgol Arloesi Ddigidol a Dysgu Proffesiynol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae Ysgol Gynradd St. Julian wedi bod yn gweithio gydag ysgolion eraill o fewn y rhanbarth a ledled Cymru am nifer o flynyddoedd, yn cynnig cymorth mewn perthynas â’r defnydd arloesol o dechnoleg i gynorthwyo addysgu a dysgu. Er bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio’n eithriadol o dda o fewn yr ysgol, roedd yr ysgol eisiau cynyddu nifer y cyfleoedd ar gyfer cymhwyso medrau a gwybodaeth ar draws y cwricwlwm mewn cyd-destunau ystyrlon. Roedd cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) a sefydlu’r cwricwlwm newydd i Gymru yn ehangach yn cynnig cyfle da i feddwl yn fwy gofalus ac yn feirniadol ynglŷn â pha dechnoleg oedd yn cael ei defnyddio ac ym mha ffordd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd
Mae’r ysgol wedi datblygu nifer o drywyddau i arwain datblygiadau’r strategaeth hon, fel:
- Arweinydd FfCD – Rai blynyddoedd yn ôl, penododd yr ysgol arweinydd dysgu’r 21ain ganrif i oruchwylio gweithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws yr ysgol.
- Archwiliad o Fedrau a Gwybodaeth Staff – Bob blwyddyn, mae’r holl staff yn cwblhau archwiliad hunanwerthuso o’u medrau a’u gwybodaeth mewn perthynas â meysydd y FfCD a’u cymhwysedd gyda chaledwedd a meddalwedd amrywiol. Dyfeisiwyd hyn gan yr ysgol gan ddefnyddio ffurflen electronig. Caiff y canlyniadau eu mewnforio i daenlen er mwyn dadansoddi cynnydd, a phriodolir codau lliw iddynt i amlinellu meysydd cryfderau a gwendidau cyffredin.
- Dysgu Proffesiynol / Rhannu – Mae’r archwiliad yn nodi staff y mae ganddynt y medrau i gynorthwyo rhai eraill, a hefyd meysydd y gallai fod angen cymorth pellach ar staff ynddynt. O ganlyniad, caiff dysgu proffesiynol mewnol ei ddatblygu a’i ddarparu i staff. Cyflwynir hyn drwy: hyfforddiant ysgol gyfan, hyfforddiant grŵp, hyfforddi (cymorth cydweithiwr-i-gydweithiwr) a fideos tiwtorial ar-lein wedi’u creu gan staff a disgyblion. Mae hyn yn rhoi’r medrau i staff i ddatblygu dysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm.
- Gweledigaeth / Cynllun Gweithredu – Aeth yr ysgol ati i greu a rhannu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol, a chynllun gweithredu gyda nodau ar gyfer addysgu, dysgu, offer a seilwaith.
- Trefniant Staff – Mae staff sy’n dra chymwys wrth ddefnyddio technoleg wedi’u neilltuo’n strategol i grwpiau blwyddyn gwahanol i rannu arfer a chynorthwyo cydweithwyr o’u cwmpas.
- Arweinwyr Digidol – Rhoddir cymaint o gyfleoedd â phosibl i Arweinwyr Digidol Disgyblion i gymhwyso’u medrau o amgylch yr ysgol a rhannu medrau newydd gyda rhai eraill. Maent yn cyfarfod yn wythnosol i gynllunio gweithredoedd, rhoi caledwedd a meddalwedd newydd ar brawf a datblygu medrau rhai eraill.
- Gwybodaeth a Sgiliau – Defnyddir ysgolion medrau, yn amlinellu’r llwybr i ddisgyblion ddatblygu’u medrau, a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol i sicrhau bod dysgwyr a staff yn gwybod sut i adeiladu a hyrwyddo medrau digidol. Caiff datganiadau FfCD eu mapio i sicrhau sylw priodol ar draws yr ysgol. Darparwyd amser i staff sy’n arweinwyr digidol i gynorthwyo pob cyfnod wrth ddatblygu cyfleoedd pellach o fewn cynlluniau cwricwlwm i ddisgyblion gymhwyso medrau digidol yn ystyrlon ar draws themâu dysgu.
- Offer a Seilwaith – Mae’r ysgol wedi buddsoddi’n ofalus mewn seilwaith i wella dibynadwyedd y rhwydwaith. Hefyd, mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn ystod o ddyfeisiau i sicrhau bod disgyblion yn cael eu cyflwyno i gymaint o lwyfannau gwahanol ag y bo modd i’w helpu i allu gwneud penderfyniadau’n annibynnol ynglŷn â’r feddalwedd neu’r ddyfais orau ar gyfer y dasg.
- Pecyn Cymorth Digidol – Dyfeisiodd yr Arweinwyr Digidol ‘becyn cymorth digidol’, sy’n cynnwys ystod gyffredin o offer y we. Rhennir hwn ar eu gwefan, a chaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd i’r holl randdeiliaid ei ddefnyddio.
- Gwefan – Mae staff a disgyblion wedi gweithio gyda’i gilydd i greu fideos tiwtorial, sy’n cael eu rhannu gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill drwy wefan yr ysgol. Defnyddir y fideos hyn gan staff a disgyblion hefyd i gyfeirio atynt mewn gwersi. Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi datblygu cyrsiau ar-lein i athrawon ddatblygu’u cymhwysedd, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol i athrawon mwy newydd pan fyddant yn ymuno â’r staff.
- Tasgau Dysgu Cyfoethog – Mae’r ysgol wedi cynhyrchu a rhannu astudiaethau achos a syniadau ar gyfer cymhwyso medrau digidol ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, fe wnaeth disgyblion ym Mlwyddyn 2 greu animeiddiadau stop-symud yn ystod eu thema gofod, i ddangos ac esbonio sut y ceir nos a dydd ar y Ddaear. Aeth disgyblion ym Mlwyddyn 5 ati i greu eu busnes eu hunain, gan ddefnyddio taenlenni i reoli’u hincwm a’u halldaliadau, cynhyrchu cynigion busnes, a chreu podlediadau a jingls i hysbysebu’u cynnyrch ar sioe radio’r ysgol. Fe wnaethant ffilmio a golygu ffilmiau i hysbysebu’u cynnyrch, anfon neges e-bost at gyfarwyddwyr cwmni llwyddiannus i gael cyngor, dylunio logo cwmni, creu taflenni a phosteri i ddenu cwsmeriaid, a chreu cyflwyniadau i berswadio panel o ‘Ddreigiau’ i fuddsoddi yn eu cwmni. Wrth ddysgu am Uganda, fe wnaeth disgyblion ar draws yr ysgol godio cyfrifwyr-camau gan ddefnyddio BBC Microbits, a defnyddio monitorau cyfradd y galon i olrhain nifer eu camau bob dydd. Wedyn, fe wnaethant fwydo’r data hwn i daenlenni a defnyddio fformiwlâu i adio’u camau i weld a allent rith-gerdded y 12,000,000 o gamau o Gasnewydd i Uganda. Hefyd, creodd y disgyblion droswyr arian cyfred gan ddefnyddio taenlenni i drosi rhwng Punnoedd Prydeinig a Sylltau Uganda. Maent hefyd wedi creu apiau a gwefannau e-ddiogelwch, y mae’r ysgol wedi’u rhannu’n gyhoeddus drwy ei gwefan i hyrwyddo diogelwch ar-lein. Mae disgyblion ar draws yr ysgol yn defnyddio rhith-wirionedd a realiti estynedig i archwilio tu mewn i’r corff dynol, ein cyfundrefn heulol a pharciau cenedlaethol. Mae disgyblion ledled yr ysgol yn defnyddio llwyfannau galw fideo i drafod eu themâu dysgu gydag arbenigwyr, fel peiriannydd tyrbinau gwynt, warden parciau cenedlaethol, a gweithiwr RNLI
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae disgyblion wedi dod yn fwy annibynnol o lawer yn eu defnydd o TG, ac o ran y dewisiadau a wnânt ynglŷn â pha feddalwedd neu ddyfeisiau i’w defnyddio er mwyn cwblhau tasg. Maent yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol o lawer ac yn cymhwyso’u medrau TG mewn cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu. Mae hyder a chymhwysedd athrawon wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd a dyfeisiau yn cynyddu, ac mae’r holl staff yn awyddus i barhau i ddatblygu’u defnydd o dechnoleg. Yn y rhan fwyaf o wersi, mae’r defnydd o TG i gefnogi dysgu yn dda neu’n rhagorol, ac mae’r defnydd a wneir ohono yn bwrpasol. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn yr ysgol yn cynyddu ac mae disgyblion yn dechrau defnyddio TG yn annibynnol yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt i gyfeirio cyflymder, lleoliad, llwybr ac amser eu dysgu.
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae Ysgol Gynradd St. Julian yn Ysgol Arloesi Ddigidol a Dysgu Proffesiynol. O ganlyniad, mae wedi cynorthwyo ysgolion ar hyd a lled Cymru i ddefnyddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi bod yn gweithio o fewn y grwpiau meysydd ar gyfer dysgu wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, yn cynnig syniadau, cyngor ac arweiniad ynglŷn â defnyddio technoleg ddigidol o fewn y meysydd newydd. Mae hefyd yn gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i gynorthwyo nifer o ysgolion yn y rhanbarth a ledled Cymru, yn enwedig gyda’r defnydd o HWB.
Mae Ysgol Gynradd St. Julian yn rhannu syniadau ac arfer yn aml ar-lein drwy ei gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, mae athrawon a disgyblion wedi arwain sesiynau ar gyfer myfyrwyr ar hyfforddiant athrawon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.