Ysgol yn datblygu profiad dysgu arloesol i ddisgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Cogan yn ardal Cogan ym Mhenarth yn awdurdod lleol Bro Morgannwg. Mae 206 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, wedi eu trefnu’n saith dosbarth. Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau clyw ar gyfer plant o’r awdurdod lleol hefyd. Mae chwech o blant wedi eu cofrestru yn y dosbarth hwn ar hyn o bryd.
Ar gyfartaledd, dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ychydig dros 11% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae hyn islaw cyfartaledd Cymru, sef 19%. Mae’r ysgol yn nodi bod gan 18% o’i disgyblion anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn cynnwys y rheiny mewn dosbarthiadau prif ffrwd ac yn y ganolfan adnoddau clyw. Mae hyn ychydig islaw cyfartaledd Cymru, sef 21%. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn wyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref. Daw ychydig o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae llawer o’r disgyblion hyn yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg gartref.
Dechreuodd y pennaeth yn ei swydd yn 2014. Cynhaliwyd yr arolygiad diwethaf o’r ysgol ym mis Mai 2018.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ysgol yn gymuned eithriadol o ofalgar lle mae dysgu cynhwysol wrth wraidd ei llwyddiant. Mae perthnasoedd gweithio rhagorol rhwng staff, disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach, ac mae hyn yn helpu creu amgylchedd hynod gynhwysol sy’n seiliedig ar ofal a pharch ar y ddwy ochr. Mae’r ffordd y mae disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn integreiddio’n ddi-dor i fywyd yr ysgol yn gryfder arbennig. Mae’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn nodwedd hirsefydledig yn yr ysgol, ac mae’n cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ledled Bro Morgannwg sydd wedi colli eu clyw, yn amrywio o gymedrol i ddifrifol. Ar hyn o bryd, mae’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn cyflogi un athrawes amser llawn i’r plant byddar, un cynorthwyydd cymorth dysgu amser llawn a thri chynorthwyydd cymorth dysgu rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae chwe disgybl ar y gofrestr yn y Ganolfan Adnoddau Clyw, er bod lle i 10 disgybl.
Mae disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn dysgu ochr yn ochr â disgyblion mewn dosbarthiadau prif ffrwd, lle mae oedolion a disgyblion yn gwneud defnydd cyson o arwyddo a thechnegau cyfathrebu gweledol eraill yn sensitif ac yn hyderus i gefnogi cyfathrebu ar lafar. O ganlyniad, mae disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn gwneud cynnydd da, a chynnydd rhagorol yn aml, pan gânt eu hasesu yn unol â’u mannau cychwyn unigol. Trwy system ‘integreiddio am yn ôl’, mae disgyblion o ddosbarthiadau prif ffrwd yn gweithio’n rheolaidd yn y ganolfan ochr yn ochr â disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Clyw. Mae hyn yn galluogi disgyblion y brif ffrwd a’r Ganolfan Adnoddau Clyw i ddatblygu eu dysgu mewn lleoliad tawel, gofalgar a chefnogol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r ysgol yn integreiddio disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Clyw, gan gynnwys y rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn dda. Mae’r ysgol yn meithrin ethos gofalgar a sefydledig o gynwysoldeb sy’n dechrau cyn gynted ag y bydd y plant yn ymuno â’r ysgol yn y dosbarth derbyn. Caiff pawb ei gynnwys a’i annog i gymryd rhan. Caiff ‘Angylion Gwarcheidiol’ Blwyddyn 6 eu paru â phlant y dosbarth derbyn i ddarparu cymorth a chefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn gwrando ar eu partneriaid ac yn cynorthwyo’r ysgol yn ystod teithiau, ac fe gaiff hyn effaith bwerus ar les a hunan-barch y naill a’r llall.
Mae athrawes y plant byddar a’r cynorthwywyr cymorth yn darparu ystod o opsiynau cymorth i ddisgyblion â namau ar eu clyw, gan gynnwys cymorth yn y dosbarth, tynnu o wers ar gyfer sesiwn cyn-tiwtora, ac integreiddio am yn ôl. Mae gan yr ysgol gyfan agwedd gadarnhaol at fyddardod a phroblemau’n ymwneud â bod yn fyddar ac mae’n mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant. Mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn croesawu cyfathrebu trwy iaith arwyddion. Mae oedolion sy’n arwain gwasanaethau yn defnyddio arwyddo ac adnoddau gweledol yn bwrpasol i gynorthwyo dealltwriaeth ymhlith yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgol yn cynnal wythnos ymwybyddiaeth o fyddardod bob blwyddyn. Mae pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn cân arwyddo genedlaethol.
Mae gwerthoedd yr ysgol, yn enwedig goddefgarwch a pharch, yn treiddio trwy fywyd yr ysgol ac yn creu ethos o garedigrwydd a gofal pobl at ei gilydd. Mae disgyblion ac oedolion yn mynd ati i gynorthwyo’i gilydd. Mae defnyddio ‘arwydd yr wythnos’ yn hyrwyddo medrau cyfathrebu ac yn meithrin dealltwriaeth sefydledig o anghenion disgyblion sydd wedi colli eu clyw.
Mae plant hŷn yn cynorthwyo plant iau fel cyfeillion dysgu, partneriaid darllen, ac fel cefnogwyr cyfoedion yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Mae hyn yn datblygu ymdeimlad o gymuned ar draws yr ysgol. Mae pob un o’r disgyblion yn meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb amdanyn nhw eu hunain ac am ddisgyblion eraill i sicrhau diwylliant o ddealltwriaeth a pharch ar y ddwy ochr.
Mae’r ysgol yn dathlu amrywiaeth trwy sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu am wahanol ddiwylliannau a chrefyddau, a hawliau ac anghenion disgyblion. Yn aml, mae athrawon yn galw ar rieni ac aelodau eraill o gymuned yr ysgol i rannu gwybodaeth am eu gwyliau a’u harferion crefyddol. Mae hyn yn helpu dyfnhau dealltwriaeth disgyblion ac yn hyrwyddo goddefgarwch a pharch. Mae cysylltiadau rhwng y cyngor ysgol, y cyngor ysgol uwchradd a chynghorau ysgolion y clwstwr yn gryf ac mae’r disgyblion yn cydweithio ar brosiectau sy’n hyrwyddo amrywiaeth. Fel rhan o’r prosiect, cynhyrchodd disgyblion ffilm fer addysgiadol am fywyd disgybl yn y ganolfan adnoddau clyw. Rhannodd pob un o’r ysgolion clwstwr y ffilm yn ystod gwasanaethau.
Mae staff a disgyblion yn defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar draws yr ysgol i godi ymwybyddiaeth ac annog cydweithrediad a goddefgarwch. Mae aelodau o’r sgwad dysgu yn gwneud gwaith ymchwil ac yn cynnal arolygon fel y gallant hyrwyddo hawliau’r plentyn yn bwrpasol yn ystod gwasanaethau.
Mae gan yr ysgol weithdrefnau hynod effeithiol i olrhain a monitro cynnydd a lles disgyblion. Mae cynorthwywyr cymorth dysgu medrus yn defnyddio gwybodaeth fanwl am unigolion a grwpiau i ddarparu cymorth gwerthfawr ar gyfer anghenion addysgol, emosiynol a chymdeithasol. Defnyddir adeilad yr ysgol yn dda i ddarparu ardaloedd ar gyfer myfyrio tawel neu ymyrraeth yn yr ystafell dawel neu ardal y ‘cwtch’.
Mae ystod o grwpiau llais y disgybl yn cyfrannu at ddatblygu’r ysgol ac mae’r ymglymiad hwn gan ddisgyblion yn helpu hyrwyddo integreiddio ac agosrwydd. Er enghraifft, mae cefnogwyr cyfoedion yr ysgol yn annog cyfranogiad, chwarae diogel a defnyddio’r ddarpariaeth awyr agored amser egwyl ac amser cinio. Trwy’r gwaith hwn, maent yn hyrwyddo cyfeillgarwch ac yn atgyfnerthu gwerthoedd yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i ddatblygu dealltwriaeth y disgyblion o hanes lleol, er enghraifft eu hastudiaethau o dŷ cyfagos Cogan Pill a hanes yr ysgol. Mae’r digwyddiadau hyn yn dod â chymuned Cogan at ei gilydd, yr hen a’r ifanc, i ddathlu ei threftadaeth gyfoethog a datblygu ymdeimlad o rannu balchder. Er enghraifft, bu diwrnodau gwisgo ysgol gyfan a chwarae rôl yn gyfryngau cyffrous i hyrwyddo undod ac agosrwydd.
Bu pwyslais ar waith elusennol yn fuddiol iawn o ran datblygu dinasyddiaeth fyd-eang. Mae cysylltiadau ag elusennau wedi gwella gwybodaeth disgyblion am wledydd eraill ac anghenion pobl ac anifeiliaid. Mae’r ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth hon, yn gysylltiedig â dysgu, wedi arwain at sylweddoli bod pobl mewn angen yn lleol a thu hwnt.
Mae defnyddio arwyddair yr ysgol, sef ‘annog ymdrech a dathlu llwyddiant’, yn annog pob disgybl i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol. Mae arlunwyr a hyfforddwyr chwaraeon sy’n ymweld yn gweithio gyda’r disgyblion. Mae hyn yn meithrin cydweithio, gwaith tîm a chwarae teg. Hefyd, mae wedi arwain at greu murluniau mosäig lliwgar a gardd synhwyraidd, sy’n cyfoethogi’r amgylchedd dysgu. Mae pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn perfformiadau fel dosbarth ac fel ysgol bob blwyddyn. Mae hyn yn darparu platfform i’r disgyblion weithio gyda’i gilydd, rhannu llwyddiant a dathlu gyda’i gilydd. Yn sgil ymrwymiad yr ysgol i ddefnyddio’r celfyddydau creadigol i gynorthwyo cynwysoldeb, daeth yr ysgol yn Ysgol Greadigol Arweiniol. Mae disgyblion yn cymryd rhan bwysig yn y broses gyfweld i benodi’r ymarferwr creadigol ac mae gan bob disgybl rôl allweddol mewn gosod natur a thrywydd y prosiect.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae safonau ymddygiad yn uchel iawn. Mae’r diwylliant cynhwysol a grëwyd ar draws yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a safonau. Mae medrau a thechnegau cyfathrebu rhagorol yn ffynnu ar draws yr ysgol. Ceir enghreifftiau o gyfeillgarwch cynyddol ymhlith disgyblion o bob oedran. Mae pob un o’r disgyblion yn teimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned ac mae ganddynt agweddau cadarnhaol at ddysgu a bywyd ysgol. Mae ymdeimlad o agosrwydd a chynwysoldeb yn helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel ac yn gwella dysgu.
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae athrawes y plant byddar yn cynnig cymorth allymestyn i ysgolion ledled Bro Morgannwg. Rhennir gwybodaeth a hyfforddiant am ymwybyddiaeth o fyddardod gyda staff bob blwyddyn, a gydag ysgolion eraill y clwstwr a’r sir, yn ôl yr angen. Ceir cryn dipyn o weithio rhwng ysgolion yn y clwstwr a’r grŵp gwella ysgolion.