Ysgol yn datblygu llais y disgybl - Estyn

Ysgol yn datblygu llais y disgybl

Arfer effeithiol

Ysgol Dolbadarn


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Dolbadarn ym mhentref Llanberis yn awdurdod lleol Gwynedd.  Cymraeg yw prif gyfrwng a bywyd yr ysgol, ac fe gyflwynir Saesneg fel pwnc yng nghyfnod allweddol 2.  Mae 177 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 14 oed meithrin, rhan-amser. 

Mae cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf tua 8%.  Mae hyn  yn sylweddol is na’r canran cenedlaethol, sy’n 18%.  Tua 56% o’r disgyblion sydd yn siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 31% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn sylweddol uwch na’r canran cenedlaethol, sy’n 21%.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae Uned Anhwylderau Iaith, sy’n rhan o ddarpariaeth awdurdod addysg Gwynedd, wedi’i lleoli yn yr ysgol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Ers blynyddoedd bellach mae llais y plentyn yn ganolog i bob agwedd o fywyd yr ysgol.  Mae hyn yn rhan o’r weledigaeth, gyda’r disgyblion, y holl staff addysgu a’r llywodraethwyr yn ymrwymo iddi er mwyn sicrhau’r llwyddiant.  Nod yr ysgol yw bod gan bob disgybl berchnogaeth dros yr hyn y maent am ei ddysgu yn ogystal â mynegi barn am weithgareddau tu hwnt i’r cwricwlwm, fel  gweithgareddau allgyrsiol sy’n cefnogi a chyfoethogi bywyd ysgol a datblygu’r plentyn yn gyflawn.

Yn ogystal, mae grwpiau eco a chyngor ysgol weithgar ble mae disgyblion yn gyfrifol am greu cynllun gweithredu eu hunain.  Maent yn arwain eu cyfeiriad eu hunain, gan drefnu cyfarfodydd a llunio eu hagenda, gan gadw cofnodion defnyddiol ym mhob cyfarfod.  Adroddant yn ôl i rieni, i lywodraethwyr a staff yr ysgol am eu canfyddiadau, a hynny trwy lythyru neu gyfarfod penodol.  Enghraifft dda o’u cyfathrebu yw’r achlysur bu iddynt gynllunio pamffled ar gyfer rhieni i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb a phrydlondeb.  Maent hefyd wedi cyflwyno gwybodaeth am bwysigrwydd cerdded i’r ysgol a’r elfen o ddiogelwch y plentyn wrth gerdded i’r ysgol.  Yn ddiweddar, bu iddynt benderfynu llunio adroddiad o’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y dosbarthiadau ac a’r buarth, yn ogystal ag arsylwi’r ymddygiad mewn dosbarthiadau.  Trwy gyfuniad o brofiadau addysgol, allgyrsiol, o arwain grwpiau a phwyllgorau penodol, mae llais y disgybl yn cael lle blaenllaw yn Ysgol Dolbadarn. Mae hyn yn arwain yn llwyddiannus at ddatblygu a dyfnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau’r disgyblion ar draws yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r weithgaredd

O safbwynt cynllunio a datblygu eu haddysg, mae’r disgyblion yn cael mewnbwn rheolaidd i gynnwys eu themâu o’r dosbarth meithrin ymlaen.  Trwy hyn mae’r ymdeimlad o berchnogaeth am eu haddysg yn cael ei fagu ynddynt reit o’r cychwyn cyntaf.  Dewisant yr hyn yr hoffent ei ddysgu, yn hytrach na bo’r athrawon yn manylu’n ormodol am beth y maent am ei ddysgu.  Trwy ddilyn yr athroniaeth hon, mae tystiolaeth gref iawn fod gan y disgyblion fwy o ddiddordeb, brwdfrydedd a pherchnogaeth dros eu haddysg.

Ymhob dosbarth ceir ‘wal ddysgu’ sydd yn llawn syniadau’r disgyblion.  Mae cynnwys y wal yn amlygu eu meddylfryd a’u dyheadau wrth gynllunio themâu a gwersi.  Yn y cyfnod sylfaen, mae coeden wedi ei harddangos ymhob dosbarth, sy’n amlygu awgrymiadau’r disgyblion o’r hyn maent awydd ei ddysgu ei ddeall neu wybod am themâu penodol.  Fel dilyniant, mae’r disgyblion yn cwblhau gridiau GED (Gwybod / Eisiau gwybod / Wedi Dysgu) er mwyn adnabod eu gwybodaeth flaenorol, yr hyn y maent eisiau ei wybod ac yna, yr hyn maent wedi ei ddysgu.  Yng Nghyfnod Allweddol 2 yn aml iawn dilynir trywydd syniadau’r disgyblion, sydd yn gallu golygu bod cynnwys y dysgu yn hollol wahanol i’r hyn y bwriadwyd ei addysgu yn wreiddiol.  Mae hyn yn dangos parodrwydd yr ysgol i gymryd risgiau synhwyrol er mwyn datblygu cwricwlwm cyffroes i’w disgyblion.

Mae’r disgyblion wedi datblygu eu rôl wrth ystyried ymateb i waith ei gilydd.  Maent erbyn hyn yn llwyr hyderus wrth asesu eu gwaith eu hunain a’u cyfoedion.  Gyda llawer o waith modelu gan staff a chyfoedion yn digwydd yn barhaus, mae’r disgyblion yn ymateb i’r gwaith trwy asesu ar gyfer dysgu gan osod targedau unigol a phennu meini prawf llwyddiant yn annibynnol.  Erbyn hyn, mae’r broses yn rhywbeth hollol naturiol y mae pob disgybl yn ei wneud, gan gyfrannu at ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth yn ogystal â’u medrau.

Trefn arall sydd wedi sefydlu o fewn yr ysgol yw hynny o greu proffil un tudalen sy’n fodd defnyddiol o adnabod yr unigolyn ac er mwyn deall beth sydd yn bwysig iddynt.  Rhennir y proffil un tudalen i bob disgybl yn dilyn eu mynediad i’r meithrin.  Maent yn cael eu hadolygu yn flynyddol gan y rhiant a’r plenty.  Maent yn cynnwys cwestiynau fel ‘Beth sydd yn bwysig i mi…?  Hoffi ac edmygu?  Beth sydd yn bwysig i’m helpu? Beth sydd yn bwysig i mi ar gyfer y dyfodol?’  Drwy’r daflen syml hon mae llais y disgybl unwaith rhagor yn cael lle penodol a blaenllaw o fewn eu haddysg.  Mae hyn yn cyfrannu’n werthfawr at ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau.

Ers yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi bod yn gweithredu dysgeidiaeth meddylfryd o dwf ar draws yr ysgol.  Er bod hyn yn ei ddyddiau cynnar, dilynwyd y ffordd o’i weithredu o ganlyniad i drafodaethau gyda disgyblion hynaf yr ysgol.  Defnyddir sêr a lliwiau arbennig i gynrychioli’r pwerau dysgu a bydd yr athro dosbarth a’r disgyblion yn ymateb i waith ei gilydd  trwy ddefnyddio’r sêr sy’n adlewyrchu’r pŵer dysgu yng ngwaith y disgyblion.  Ffordd syml ond hynod effeithiol o godi hyder disgyblion yn eu haddysg eu hunain.