Ysgol yn cynnig dull hyblyg o ddysgu

Arfer effeithiol

Westwood Community Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol:

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood wedi’i lleoli ym Mwcle yn Sir y Fflint.  Mae’n darparu addysg i 232 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed, gan gynnwys 27 disgybl sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Trefnir disgyblion yn 10 dosbarth.  Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn 2012.  Penodwyd y pennaeth yn Ionawr 2010.

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yw tua 32%.  Mae’r ffigur hwn ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 19%.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg mamiaith. 

Mae’r ysgol yn nodi bod gan oddeutu 42% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig bach iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol:

Arweiniodd profiad dysgu hanesyddol a chwilfrydedd y disgyblion i arwyr lleol y Rhyfeloedd Byd at ymchwil fanylach i filwr lleol penodol.  Roedd y gwaith ymchwil i’r milwr uchel ei glod hwn wedi arwain y disgyblion at y gymdeithas hanesyddol leol, gan gynnwys aelodau’r cyngor tref a chymuned a chysylltiadau â’r teulu estynedig o’i gwmpas.  Pan ofynnwyd i’r disgyblion sut y gallent gyflwyno’u canfyddiadau, awgrymodd y plant ddrama.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd:

Nid oedd y cynllunio tymor canolig cychwynnol ar gyfer y pwnc penodol hwn ar y Rhyfeloedd Byd wedi bwriadu archwilio pobl benodol a wnaeth gymryd rhan yn y rhyfeloedd.  Yn dilyn ymweliad â’r gofeb ryfel leol, sylwodd disgyblion fod gan rai milwyr lythrennau ar ôl eu henw.  Tynnodd hyn sylw at Fred Birks VC, MM, gan ysgogi amrywiaeth o feddyliau a syniadau i archwilio’r milwr penodol hwn yn fanylach yn ôl yn yr ysgol, gyda chymorth y gymdeithas hanes leol.  O ganlyniad, newidiodd athrawon eu trywydd bwriadedig ar gyfer y cynlluniau tymor canolig, gan fod disgyblion wedi dylanwadu ar gyfeiriad newydd.  Arweiniodd hyn at astudiaeth eang a chynhwysfawr o fywyd y milwr, gyda’r holl ddisgyblion yn cymryd rhan yn y prosiect yn y pen draw a chynhyrchu eu drama eu hunain yn seiliedig ar ei brofiadau bywyd.

Nododd disgyblion bod angen adfer y gofeb i Fred Birks, gan fod aelod o’r teulu wedi amlygu’r ffaith bod ei gyflwr yn dirywio.  Ysgrifennodd y disgyblion lythyron i’r cyngor tref lleol i godi ymwybyddiaeth ac annog ymateb buan gan y gymuned i helpu i’w hadfer.  O hynny, daeth y syniad am ddrama trwy drafodaeth â disgyblion.

Perfformiwyd y ddrama yn yr eglwys leol, ac roedd Cymdeithas Hanesyddol Bwcle yn bresennol.  Roedd y wasg leol eisiau rhoi sylw i’r stori, yn enwedig gan fod gor nith Fred Birks wedi teithio o’r Alban i wylio’r disgyblion yn perfformio ac yn anrhydeddu ei pherthynas.

Yn dilyn y ddrama, penderfynodd y disgyblion lobïo Maer a Chynghorwyr y Dref i godi ymwybyddiaeth bellach a neilltuo cyllid i adfer y gofeb leol.  Fe wnaeth momentwm y brwdfrydedd a’r angerdd i ddathlu’r eicon cymunedol hwn barhau i dyfu ac, o ganlyniad, cysylltodd y gymdeithas hanes â’r disgyblion eto er mwyn addasu’r perfformiad fel ei fod yn addas i gynulleidfa ehangach.  Wrth reswm, roedd yn ofynnol i’r staff addysgu archwilio ffyrdd creadigol o ddatblygu’r prosiect hwn a pharhau i ymdrin â’r cwricwlwm ac olrhain cynnydd disgyblion yn y cwricwlwm.

Yn y pen draw, arweiniodd hyn at fwy o ymwybyddiaeth o’r prosiect ar draws y gymuned ehangach gan hyd yn oed ddenu diddordeb cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys sylw ar y teledu a’r radio, cynrychiolwyr San Steffan, Uchel Gomisiwn Awstralia, a hyd yn oed cyswllt yn ddiweddarach ag Ysgol Mahana yn Seland Newydd.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Nid yn unig y gwnaeth y prosiect esblygol hwn hyrwyddo stori arwr y Rhyfel Byd, fe wnaeth ddyrchafu statws yr ysgol yn ei chymuned.  Oherwydd llwyddiant cynyddol y ddrama, cafodd disgyblion ymdeimlad enfawr o lwyddiant personol o wybod bod eu syniadau a’u hawgrymiadau wedi cyfrannu at y newidiadau mewn cynllunio a thestun eu hastudiaethau.  Cafodd effaith eu llais sgil-effeithiau pellgyrhaeddol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Fe wnaeth y broses gyfan ddatblygu ac ehangu amrywiaeth o fedrau allweddol yn y fframwaith llythrennedd, fel datblygu sgriptiau drama ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, adroddiadau hanesyddol, ymchwil ac ailadrodd.  Roedd perfformio drama mor ddylanwadol, personol a sensitif gerbron cynulleidfa fawr wedi cynyddu hyder a disgwyliadau disgyblion.  Roedd lefel yr ymgysylltiad gan ddisgyblion yn sylweddol.

O ganlyniad, mae’r prosiect hwn wedi bod yn ysgogiad ar gyfer prosiectau yn y dyfodol yn amgylchedd yr ysgol ac mae wedi cynnwys cylch cymunedol ehangach ac ymestyn y ddarpariaeth.  Yn nes ymlaen, dyfarnwyd grant celfyddydau creadigol Cymru i’r ysgol er mwyn cefnogi prosiectau yn y dyfodol a sicrhau bod modd adeiladu ar gynyrchiadau hyblyg, wedi’u hysgogi gan y disgyblion.

Yn y Cyfnod Sylfaen, caiff disgyblion gyflwyniad i gysyniad a manteision llais y disgybl drwy eu cyfraniadau agored at gynllunio gan athrawon drwy bynciau.  Gall disgyblion ddefnyddio llyfrau gwaith annibynnol i gofnodi ac archwilio amrywiaeth o ddulliau gan ddilyn ysgogiad.  Mae cysondeb ar draws yr ysgol yn rhoi’r grym i athrawon fabwysiadu ymagwedd hyblyg ac agored at gynllunio sy’n hybu chwilfrydedd dysgwyr.

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd y cynhyrchiad llwyddiannus ar fywyd arwr lleol y Rhyfel Byd ar draws y gymuned a’r sir, gan ddenu amrywiaeth o westeion dylanwadol.  Yn ogystal ag ymddangos yn y wasg leol, darlledwyd yr hanes gan newyddion y BBC ac ITV, a bu cyflwynwyr yn cyfweld â disgyblion, staff a gwesteion eraill.  Fe wnaeth y cyfweliadau hyn ddal proses gyfan y cynhyrchiad, o’r dechrau i’r diwedd, yn ogystal â chydnabod arwyddocâd a chyflawniadau’r ysgol gyfan.

Mae lleoliadau cynradd eraill yn ymweld â Westwood i arsylwi sut i gychwyn a galluogi ymagwedd hyblyg at gynllunio ar draws yr ysgol.  Caiff yr arfer dda ei rhannu trwy gydweithredu â sefydliadau eraill fel y gymdeithas hanes leol a Theatr Cymru i gyfoethogi profiadau’r disgyblion.

Gofynnwyd i aelodau staff yn y cyfnod sylfaen ddangos eu dulliau o hybu llais y disgybl yn eu gwersi a rhannu eu heffaith ar safonau ac ar ddeilliannau disgyblion.