Ysgogi disgyblion i siarad Cymraeg - Estyn

Ysgogi disgyblion i siarad Cymraeg

Arfer effeithiol

Brynamman Primary School


Gwybodaeth am yr Ysgol

Lleolir Ysgol Brynaman mewn ardal wledig wrth droed y Mynydd Du. Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r pentrefi cyfagos o Rosaman, Ystradowen a Cefnbrynbrain. Yn ogystal, mae tua 20% o’r plant yn byw yn awdurdod lleol Castell Nedd a Phort Talbot. Daw 15% o blant o gartrefi lle siaradwyd Cymraeg yn rhugl, sy’n rhif sydd wedi gostwng yn araf dros y blynyddoedd. 

Mae gan ddysgwyr amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol, gyda lleiafrif yn dod o deuluoedd difreintiedig. 25% o blant sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n rhif sydd wedi codi yn sylweddol ers y cyfnodau clo. Mae oddeutu 5% o blant ar y gofrestr ADY.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Nod y staff, a rhan o weledigaeth yr ysgol yw sicrhau fod pob disgybl yn gwbl ddwyieithog wrth adael Ysgol Brynaman. Dros y tair blynedd diwethaf, ychydig iawn o blant sydd yn dechrau’r dosbarth meithrin gydag unrhyw fedrau Cymraeg. Yn ogystal, o ganlyniad i’r pandemig, roedd lleiafrif o blant wedi colli’r hyder i siarad Cymraeg trwy’r ysgol. Roedd rhaid felly i’r ysgol ail edrych ar ei chwricwlwm, cynllunio ac addysgeg. Y nod oedd sicrhau fod digon o gyfleoedd bwriadus i ddisgyblion glywed iaith gyfoethog trwy fodelu da o’r Gymraeg, a fyddai wedyn yn eu hysgogi i fedru siarad yn y Gymraeg yn rhugl. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel a phendant i hybu’r iaith Gymraeg sydd yn treiddio trwy holl staff yr ysgol. Mae staff yn modelu’r iaith yn gywir yn gyson. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau yn grefftus sy’n helpu disgyblion i ddatblygu eu rhuglder. Maent yn bwydo geirfa yn fwriadus ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel wrth annog disgyblion i ymateb yn gywir mewn sesiynau siarad a gwrando penodol. Pwysleisir tafodiaith unigryw yr ardal yn gyson mewn gweithgareddau a gwasanaethau. Anogir disgyblion i siarad Cymraeg gan y Criw Cymraeg, gyda chaneuon Cymraeg yn cael eu chwarae ar y buarth bob amser chwarae i godi proffil yr iaith yn ystod amseroedd hamdden.  

Mae staff y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion canu rhigymau, ac ymarfer patrymau iaith mewn sesiynau torfol byr a bachog.  Atgyfnerthir y rhain mewn  gweithgareddau grŵp hwylus ac ymarferol yn yr ardal byd dychmygol. Er enghraifft, yn y dosbarth meithrin, maent yn darparu adnoddau synhwyraidd i gyd-fynd â stori’r Tri Mochyn Bach. Wrth i’r disgyblion arbrofi gyda’r brigau a gwellt, gan chwythu a chnocio, mae staff yn chwarae wrth eu hochrau, gan fwydo geirfa yn gyson ac yn eu hannog i ymateb yn briodol. Enghraifft arall yw’r defnydd effeithiol o weithgareddau rhifedd ymarferol yn y dosbarth derbyn wrth i’r disgyblion ychwanegu gwelltyn i’r wynebau moel, gyda staff yn bwydo’r eirfa’n fwriadus iddynt. Ar draws yr ysgol, ceir sesiynau darllen torfol ar ddiwedd y dydd. Er enghraifft, ym Mlwyddyn 2 mae disgyblion yn pleidleisio am y stori maent am glywed, gyda’r athrawes eto yn defnyddio geirfa megis teitl, broliant, awdur a darlunydd i atgyfnerthu geirfa lenyddol i’r disgyblion cyn darllen y stori. Defnyddir arwyr cyfoes a lleol i hybu diddordeb y disgyblion. Er enghraifft, ym Mlwyddyn 6, defnyddir clip fideo yn Gymraeg o gapten rygbi Cymru sy’n cyn disgybl yr ysgol yn gosod her rhifedd i’r disgyblion. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r dulliau a’r gweithgareddau uchod, datblygwyd ethos Cymreig yn yr ysgol gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn falch iawn eu bod yn mynychu ysgol Gymraeg ac yn defnyddio’r iaith gyda balchder. Mae plant y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn datblygu medrau gwrando a siarad Cymraeg o oedran cynnar. Wrth i’r disgyblion symud trwy’r ysgol, maent yn dod yn siaradwyr gynyddol hyderus. Maent yn cynnig atebion i staff yn Gymraeg ac yn awyddus i siarad gydag ymwelwyr. Mae’r defnydd o arwyr cyfoes lleol wedi datblygu agwedd o berthyn i’w cymuned, balchder cynyddol i siarad Cymraeg yn y dosbarth, ond hefyd ar y buarth hefyd. Erbyn diwedd eu hamser yn Ysgol Brynaman, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hynaf yn falch o fod yn ddisgyblion hollol ddwyieithog. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda yn gyntaf gyda’r holl staff, i sicrhau cysondeb yn natblygiad yr iaith drwy’r ysgol. Rhannwyd hyn hefyd gyda’n rhanddeiliaid, megis mewn cyfarfordydd llywodraethwyr, ac nosweithiau agored i rieni, ble yn ogystal rhoddwyd syniadau i rieni ar sut i hybu ac helpu eu plant i siarad Cymraeg tu allan i’r ysgol.

Rydym wedi rhannu ein arfer dda gydag ysgolion y clwstwr hefyd wrth iddynt ymweld â’r ysgol.