Ymweliadau lleol yn meithrin balchder yn y gymuned a dealltwriaeth o’r byd - Estyn

Ymweliadau lleol yn meithrin balchder yn y gymuned a dealltwriaeth o’r byd

Arfer effeithiol

Cylch Meithrin Penparc


 

Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin Penparc.  Mae’n cwrdd mewn caban hunangynhaliol ar safle Ysgol Gynradd Penparc, o fewn awdurdod lleol Ceredigion.  Mae’r lleoliad yn darparu addysg am bum bore’r wythnos, rhwng 9.00 y bore ac 11.30 y bore yn ystod tymhorau’r ysgol.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i dderbyn 19 o blant rhwng dwy a phedair oed. Adeg yr arolygiad, roedd 18 o blant yn derbyn addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu. Mae’r mwyafrif o blant sy’n mynychu’r lleoliad yn dod o gartrefi sy’n siarad Saesneg.

Mae’r lleoliad yn cyflogi tri ymarferydd cymwysedig gan gynnwys yr arweinydd.  Dechreuodd yr arweinydd yn ei swydd ym mis Mai 2013.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Un o gryfderau’r lleoliad ydy’r defnydd cyson a phwrpasol o filltir sgwâr y plant i feithrin balchder yn eu Cymreictod a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r byd.  Caiff y plant gyfleoedd rheolaidd i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau yn yr ardal leol i ddysgu mwy am fywyd a gwaith pobl o fewn eu cymuned.  Mae hyn yn sicrhau profiadau dysgu hynod ddifyr i’r plant, ac yn cael effaith gref ar eu medrau cymdeithasol, eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth.  Yn dilyn yr ymweliadau, mae’r ymarferwyr yn ysgogi dysgu pellach sy’n datblygu medrau llafaredd a rhifedd y plant yn llwyddiannus.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymarferwyr yn rhoi ystyriaeth lawn i ddiddordebau’r plant, cyn paratoi amrediad o weithgareddau penigamp iddynt.  Yn sgil hyn, maent yn galluogi’r plant i ddatblygu ystod o fedrau mewn cyd-destunau gafaelgar.  Un enghraifft yw pan ofynnwyd i’r plant ‘O ble mae llaeth yn dod?’ Esblygodd hyn i greu map meddwl o ddamcaniaethau’r plant cyn cynnal ymweliad â fferm laeth lleol.  Mae’r lleoliad yn manteisio i’r eithaf ar eu perthynas gyda’r gymuned leol i greu profiadau dysgu cynhwysfawr i’r plant.

Mae’r ymarferwyr yn achub ar bob cyfle i ehangu a dyfnhau’r profiadau dysgu yn dilyn ymweliadau.    Enghraifft nodedig o hyn oedd cynllunio a threfnu ymweliad â siop flodau a chastell lleol cyn mynd ati i sefydlu siop flodau a chastell chwarae rôl yn y Cylch.  Yn ogystal, mae’r plant a’r ymarferwyr yn creu arddangosfeydd hynod drawiadol sy’n fodd i ddathlu’r hyn a ddysgwyd  ac i rannu hyn gyda’r rhieni ac ymwelwyr.

Mae’r lleoliad yn cydweithio’n neilltuol o dda gyda’r ysgol gyfagos.  Roedd creu cysylltiadau rhagorol gyda’r ysgol yn un o flaenoriaethau blaenorol y cynllun datblygu.  Fe weithiodd y lleoliad yn ddiwyd er mwyn datblygu  perthynas gadarn, wedi ei seilio ar gyfathrebu da.  Er enghraifft, mae’r plant yn cael cyfleoedd rheolaidd i ganu gyda disgyblion yr ysgol, i ymweld â’r theatr leol ar y cyd ac i ymuno yng ngwasanaethau’r ysgol.  Yn ddiweddar, buodd y plant yn casglu afalau o’r berllan gyfagos a choginio creision afal er mwyn eu gwerthu i blant yr ysgol.  Cafodd y plant gyfleoedd i ddeall am fwyta’n iach, dylunio’r pecyn creision  a dysgu sut i ddefnyddio arian go iawn. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae llais y plentyn yn sail gref wrth gynllunio’r profiadau dysgu.  Mae’r plant yn cyfrannu tuag at y cynllunio trwy greu mapiau meddwl ac mae ymarferwyr yn gweithredu ar eu syniadau.  Enghraifft o hyn yw’r thema ‘môr ladron,’ pan gafodd y plant y cyfle i wisgo fel môr ladron a theithio i’r traeth ar fws leol.  Yno, cawsant y cyfle i ‘gerdded y planc’ dros ddŵr, casglu a didoli cregyn amrywiol, a chymdeithasu.  Mae hyn yn annog diddordeb a brwdfrydedd plant ac yn datblygu eu hunan hyder yn arbennig o dda.

Mae ymarferwyr yn gelfydd wrth ddatblygu profiadau dysgu cyfoethog a pherthnasol sy’n deillio o’r ymweliadau amrywiol.  Er enghraifft, bu’r ymweliad â’r siop flodau lleol yn llwyddiannus iawn wrth ddarparu cyfleoedd i’r plant ddatblygu eu medrau cyfathrebu ac ymarfer eu medrau rhifedd mewn cyd destunau byd go iawn.  Anogwyd y plant i ddefnyddio patrymau iaith a ddefnyddiwyd yn y siop, i ymdrin ag arian, cyfri blodau, cymharu maint y blodau a threfnu o’r byrraf hyd at yr hiraf.  Mae ymarferwyr yn addasu’r her mewn gweithgareddau, er enghraifft wrth ddechrau gyda cyfri tri blodyn ac ychwanegu rhagor o flodau wrth fynd.  Aeth y plant ati i greu arwyddion a labeli ar gyfer y siop a’r castell, gan arddangos  medrau darllen ac ysgrifennu cynnar yn hynod o lwyddiannus.  

Mae ymarferwyr yn manteisio ar y cyfle i ddangos i blant am eu cynefin a’r byd o’u hamgylch.  Yn dilyn ymweliad â pharc natur cawsant brofiadau eang o dyfu llysiau, coginio, bwyta a mynd â llysiau adref gyda nhw.  O ganlyniad, mae’r plant yn arddangos gwybodaeth dda iawn o ble y daw eu bwyd.  Yn ogystal, mae’r ymweliadau yn ysgogi trafodaethau ymysg plant yn dilyn eu profiadau sy’n datblygu eu medrau llafar yn hynod o lwyddiannus.  Mae’r plant wedi dysgu llawer am unigolion sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd o fewn eu cymuned.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda gydag athrawon dosbarthiadau meithrin o fewn yr awdurdod lleol, mewn hyfforddiant sirol a gynhelir yn dymhorol o fewn yr awdurdod lleol. Caiff gwybodaeth ei rannu gyda rhieni trwy gyfryngau cymdeithasol, ar lafar yn ogystal â’r papur bro.