Ymgysylltu’n effeithiol â chymuned yr ysgol

Arfer effeithiol

Markham Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Markham wedi’i lleoli ym mhentref Markham, sydd wedi’i lleoli yn ardal y Coed-duon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n gwasanaethu pentrefi dalgylch Markham, Llwyncelyn ac Argoed. Mae mewn ardal amddifadedd uchel ac wedi’i lleoli o fewn y 10-20% uchaf o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 188 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 24 o ddisgyblion Meithrin rhan-amser. Mae tua 46% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r waelodlin adeg mynediad ymhell islaw deilliannau disgwyliedig yn gysylltiedig ag oedran. Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd diogel, anogol a bywiog lle mae disgyblion a staff yn falch o fod yn rhan o gymuned ddysgu mor gefnogol. Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o’u gwaelodlinau, sydd wedi’u galluogi gan ymagwedd cwricwlwm ‘RISE’ hynod effeithiol ac unigryw’r ysgol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn cyflogi Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd sydd wedi sefydlu, datblygu ac ymgorffori rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu â rhieni a theuluoedd, yn ogystal â datblygu ystod eang o ymglymiad gan asiantaethau a’r gymuned; gan ddarparu ymagwedd ‘tîm o amgylch yr ysgol’. Mae gan y Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd rôl allweddol ym mhob agwedd ar ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned i ddiwallu anghenion a chyfoethogi bywydau disgyblion yr ysgol a’u teuluoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Datblygodd yr ysgol amgylchedd cynnes a chroesawgar a oedd yn canolbwyntio ar gynwysoldeb i bawb. Trwy weledigaeth ar y cyd i ‘Feithrin ac Ysbrydoli’, dechreuodd staff greu diwylliant dysgu diogel a chefnogol lle roedd pawb yn teimlo eu bod yn aelod gwerthfawr o ‘Deulu Markham’. Cydnabu’r ysgol fod angen rôl fugeiliol a fyddai’n sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi’n llawn, bod cyfathrebu effeithiol yn cael ei gynnal yn gyson a bod partneriaethau effeithiol yn cael eu meithrin o fewn y gymuned ehangach. Roedd y ffocws ar fynd ag ymrwymiad ‘Teulu Markham’ y tu hwnt i ddrysau’r ysgol.  

Nod yr ysgol oedd helpu sicrhau bod anghenion disgyblion y tu allan i’r ysgol yn cael eu diwallu er mwyn iddynt allu cyrraedd eu llawn botensial yn yr ysgol. Penodwyd Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd, ac esblygodd natur ei rôl dros gyfnod i ddiwallu anghenion cymuned Markham a’r pentrefi cyfagos.

Cydnabu’r ysgol fod perthnasoedd cadarnhaol ac adnabod teuluoedd yn dda yn allweddol i lwyddiant o ran ymgysylltu â’r gymuned yn effeithiol. Gweithiodd y Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd i sicrhau ei bod yn creu cysylltiadau ag ystod eang o wasanaethau cymorth, gan helpu teuluoedd i dderbyn y cymorth roedd ei angen arnynt y tu allan i’r ysgol. Mae’r rôl i gynorthwyo disgyblion a theuluoedd wedi esblygu dros gyfnod, ac wedi cael ei haddasu yn ôl yr angen. Mae’r Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd yn cyfarfod â theuluoedd neu unigolion, ac yn cytuno ar y gwasanaeth cymorth gorau iddynt gyda’i gilydd; p’un a yw hynny’n fewnol gyda thîm cymorth i deuluoedd yr ysgol a’r Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, neu’n allanol gydag ystod o ddarparwyr gwasanaethau eraill. Datblygodd yr ysgol ymagwedd Cynllunio yn Canolbwyntio ar Deuluoedd, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei deilwra i’r teulu neu’r unigolyn. Dros gyfnod o bedair blynedd, datblygodd yr ysgol ystod o gysylltiadau rhwydwaith cefnogol er mwyn cynorthwyo ag anghenion teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth rhianta; darpariaeth les ar gyfer rhieni a disgyblion fel ei gilydd; sesiynau llythrennedd a rhifedd ychwanegol ar gyfer y teulu cyfan; gwasanaethau profedigaeth; cymorth â bwyd, cymorth ariannol a chymorth tai; gweithdai presenoldeb da; cymorth yn sgil trais domestig a thrais yn erbyn menywod; cymorth i ofalwyr ifanc; darpariaeth rhianta yn y blynyddoedd cynnar ac eirioli i blant. 

Gyda chymorth i deuluoedd wedi’i ymgorffori’n gadarn a pherthnasoedd cryfach ar draws yr ysgol, nod yr ysgol oedd ennyn diddordeb rhieni yn ei gwaith ymhellach. Cafodd rhaglen ymgysylltu â theuluoedd ei chyflwyno, ei mireinio a’i gwella er mwyn i’r ysgol ddarparu cynnig blynyddol o sesiynau i deuluoedd. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Sesiynau Rhieni a Phlant Gyda’i Gilydd
  • Grŵp Tadau
  • Boreau coffi
  • Ystod o gyrsiau achrededig Addysg Oedolion Cymru ar gyfer rhieni a gofalwyr 
  • Sesiynau hyfforddiant Medrau Sylfaenol
  • Sesiynau pontio cwrdd a chyfarch y Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd
  • Gweithdai presenoldeb
  • Sesiynau galw i mewn y Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoed

Mae’r ysgol yn parhau i fonitro llwyddiant ac effaith ei gweithgareddau ymgysylltu ac yn eu hadnewyddu’n rheolaidd; gan ymateb i ddiddordebau disgyblion, rhieni a gofalwyr er mwyn cynnal ymgysylltiad ac ymglymiad. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae rhaglen gynhwysfawr o gymorth ac ymgysylltu â theuluoedd wedi cael ei sefydlu a’i hymgorffori. 
  • Mae ystod eang o ymglymiad gan y gymuned ac asiantaethau gyda’r ysgol a theuluoedd yn sicrhau bod anghenion pawb yn cael eu diwallu. 
  • Caiff bywydau llawer o ddisgyblion a’u teuluoedd eu cyfoethogi trwy gynnig ymagwedd ‘tîm o amgylch y teulu’. 
  • Mae pob un o’r disgyblion yn cyfrannu at ddigwyddiadau cymunedol ac yn datblygu eu medrau a’u galluoedd fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus. 
  • Mae perthnasoedd cryf wedi cael eu meithrin gyda’r holl deuluoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Rhannwyd yr arfer â’r corff llywodraethol trwy gyflwyniadau disgyblion a staff. 
  • Mae’r ysgol wedi rhannu’r model a’r strategaeth gyda chonsortia rhanbarthol a’r awdurdod lleol. 
  • Rhannwyd y model mewn sesiynau dysgu proffesiynol gydag ysgolion clwstwr a rhanbarthol, ac o ganlyniad, mae ysgolion wedi ymweld i weld y broses yn uniongyrchol, a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain ymhellach o ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned trwy gysylltu â’r Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd.
  • Mae’r Gweithiwr Cymorth Disgyblion a Theuluoedd a’r pennaeth wedi rhannu gwaith yr ysgol trwy raglen yr ALl ar gyfer penaethiaid newydd.