Ymgysylltu a chefnogi rhieni a theuluoedd - Estyn

Ymgysylltu a chefnogi rhieni a theuluoedd

Arfer effeithiol

Ysgol Cae’r Gwenyn


 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Canolfan y Blynyddoedd Cynnar Wrecsam wedi’i lleoli yn ward Queensway ar ystâd Parc Caia yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Ystyrir mai ward Queensway yw’r ward drydedd fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae gan y Ganolfan ddarpariaeth ag adnoddau, gan ddarparu lleoedd asesu i nifer o ddisgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd.  Ar hyn o bryd, mae 51 o ddisgyblion rhwng 2 a 4 oed ar y gofrestr, y mae 28 ohonynt yn mynychu’r feithrinfa. Mae’r disgyblion eraill yn mynychu Addysg Gynnar a Dechrau’n Deg.  Mae plant yn mynychu’r ddarpariaeth feithrin am bum bore’r wythnos o 9.00 a.m. tan 11.30 a.m.  Mae plant sy’n mynychu’r ddarpariaeth ag adnoddau yn cael eu cludo yno o bob rhan o’r sir.

Mae Canolfan y Blynyddoedd Cynnar Wrecsam o’r farn bod ei pherthynas â rhieni yn holl bwysig ac mai partneriaeth ddiffuant rhwng y cartref a’r ysgol sy’n cynnig y cyfle gorau ar gyfer datblygiad holistig bob plentyn.  Mae llawer o rieni’r Ganolfan wedi gofyn am gyngor, cymorth ac arweiniad i ddelio ag anghenion datblygiadol eu plant. O ganlyniad i bryderon y rhieni, mae’r Ganolfan wedi edrych ar amrywiaeth o strategaethau i gynnig cymorth i’r plant yn yr ysgol ac yn y cartref.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rydym wedi datblygu nifer o fentrau i ymgysylltu a chefnogi rhieni a theuluoedd.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth dda i rieni am gynnydd eu plentyn trwy ddefnyddio ‘storïau dysgu’ a ‘llyfr yr ysgol a’r cartref’, sy’n amlygu beth mae eu plentyn wedi’i gyflawni.  Mae’r rhain yn rhoi cyngor unigol pwrpasol i rieni yn rheolaidd ar sut i gefnogi eu plant ac yn nodi’r camau nesaf mewn dysgu yn glir.
  • Mae’r grŵp ‘Law yn Llaw’ yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i rieni unigol ar faterion fel arferion amser gwely, ymddygiad a defnyddio’r toiled.  Mae’r grŵp hwn yn Cyfarfod yn Ystafell y Gymuned.  Rydym yn annog rhieni i rannu syniadau a phryderon dros baned o goffi, a cheisio cyngor ac arweiniad pan fo’u hangen.  Mae’r grŵp hwn yn cael ei arwain a’i reoli gan athro a chynorthwyydd addysgu profiadol, ill dau â diddordeb mewn datblygu partneriaethau â rhieni ac sydd wedi cael hyfforddiant da ar gyflwyno rhaglenni rhianta.
  • Os cawn gais, rydym yn ymweld â theuluoedd gartref i helpu gyda phethau fel plant sy’n ffyslyd am eu bwyd neu i gynnig cymorth ynghylch sut i reoli ymddygiad heriol.
  • Mae’r ysgol yn cynnig cyngor i rieni ar sut gallant gefnogi dysgu eu plant gartref.  Mae’r ‘llyfrgell rhif’ yn caniatáu i rieni fynd ag adnoddau a gemau gartref ac mae’n cynnig syniadau diddorol ar sut i ddatblygu medrau mathemateg eu plant gartref.
  • Y Rhaglen Cymorth Myfyrwyr.  Mae’r Ganolfan yn cynnig y rhaglen hon i bob rhiant.  Mae cynorthwyydd addysgu wedi’i hyfforddi’n llawn yn arwain y grŵp.  Cynhelir y cwrs dros gyfnod o wyth wythnos.  Mae’r Rhaglen Cymorth Myfyrwyr yn caniatáu i rieni archwilio’u medrau rhianta ac yn rhoi’r hyder iddynt gefnogi datblygiad eu plentyn. 
  • Rydym wedi penodi Cydlynydd Cyswllt rhwng y Cartref a’r Ysgol i ddatblygu ac annog ymgysylltiad ac ymrwymiad rhieni.  Er enghraifft, gwnânt alwadau ffôn wythnosol i rieni plant sy’n byw y tu allan i’r ardal nad oes ganddynt felly gysylltiad dyddiol â’r feithrinfa.  Mae hyn yn cynnig deialog fwy personol rhwng y cartref a’r ysgol.  Trwy gynnig clust i wrando ar unrhyw broblemau neu bryderon sydd ganddynt, rydym yn datblygu ac yn cynnal perthynas gadarnhaol rhwng y cartref a’r ysgol yn llwyddiannus.
  • Mae’r Ganolfan yn cynnig gwasanaeth allymestyn i ysgolion a lleoliadau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.  Rydym yn rhannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth helaeth o sut i reoli ymddygiad plant a sut rydym yn darparu ar gyfer plant ag anghenion cymhleth.  Rydym yn cynnal ymweliadau rheolaidd ag ysgolion a lleoliadau ar gais yr awdurdod lleol, i gynnig cyngor ac arweiniad.
  • Gwnawn ddefnydd da iawn o’r cyngor a’r arweiniad gwerthfawr ynghylch cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol arbenigol.  Mae’r cyngor hwn yn bwydo’n effeithiol iawn i gynlluniau datblygu unigol plant ac yn caniatáu i’r plant hyn wneud cynnydd buddiol o’u gwahanol bwyntiau cychwyn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae mwyafrif y plant yn dechrau yn y ganolfan gyda medrau ymhell islaw’r medrau a ddisgwylir fel arfer ar gyfer eu hoedran.  Mae gweithio’n agos gyda rhieni yn ffactor hollbwysig, nid yn unig o ran mynd i’r afael â diffyg medrau plant adeg mynediad, ond hefyd wrth fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol plant.  Mae ein gwaith gyda rhieni yn canolbwyntio ar annog iddynt chwarae a rhyngweithio cymaint â phosibl â’u plant a helpu i roi strategaethau iddynt i ddelio ag ymddygiad eu plant. 

Mae ein gweithdai gyda rheini, fel ‘Iaith a Chwarae’ a’n ‘Rhaglen Parodrwydd ar gyfer yr Ysgol’ wedi helpu i wella medrau llythrennedd a rhifedd y rhieni eu hunain.  Yn ei dro, mae hyn yn golygu eu bod yn fwy hyderus yn darllen storïau gyda’u plant ac annog eu plant i gyfrif, didoli a pharu gwrthrychau pan fyddant yn chwarae gartref. 

Mae ein gwybodaeth fanwl am anghenion dysgu, cymdeithasol ac emosiynol unigol plant yn caniatáu i ni weithio gyda rhieni i gynllunio gweithgareddau arloesol sy’n hyblyg ac yn ymateb i anghenion a diddordebau amrywiol plant.  Pan fydd hi’n bryd i blant adael y ganolfan, mae ein gwaith gyda rhieni yn golygu bod ymddygiad bron pob un o’r plant yn dda iawn a dangosant ystyriaeth a phryder tuag at ei gilydd.  Mae ganddynt fedrau annibyniaeth a hunangymorth da.  Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd gwerth chweil yn datblygu eu medrau cyfathrebu ac mae llawer ohonynt yn gwneud cynnydd da yn datblygu eu medrau rhifedd.  Wrth iddynt adael y Ganolfan a throsglwyddo i’r dosbarth derbyn, rydym yn parhau i gefnogi a helpu plant, rhieni ac athrawon yn yr ysgol newydd yn ystod y cyfnod hwn o newid.  Mae’r cyngor a’r gweithdai ar reoli ymddygiad a darparu ar gyfer plant ag anghenion cymhleth ychwanegol, yn helpu bron pob un o’r plant i ymgartrefu yn eu hysgolion newydd yn gyflym ac yn hapus ac i gyflawni’n dda o ran eu gallu a’u pwyntiau cychwyn.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? / Rhannu medrau

Mae Canolfan y Blynyddoedd Cynnar Wrecsam wedi darparu cyfleoedd hyfforddi i gydweithwyr mewn ysgolion a lleoliadau eraill trwy gynnal gweithdai a chyrsiau ar weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol cymhleth, ymgysylltu â dysgwyr a defnyddio strategaethau ymddygiad cadarnhaol.  Mae ysgol gynradd leol yn gweithio ochr yn ochr â’r Ganolfan fel rhan o’r cynllun Allymestyn. Mae’r tîm Allymestyn wedi cynnal gweithdai i ymarferwyr newydd gymhwyso er mwyn datblygu eu medrau wrth ddelio ag ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn